Swyddfa y Cwnsleriaid Deddfwriaethol

Office of the Legislative Counsel

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CANLLAWIAU AR DDRAFFTIO DEDDFWRIAETH

 

 

 

 

 

IONAWR 2012

 

 


CYNNWYS

 

Rhan 1

rhagymadrodd

1     Diben y canllawiau hyn. 9

2     Cyd-destun y canllawiau hyn. 9

3     Cydnabyddiaeth. 10

4     Defnyddio’r canllawiau yn y ddogfen hon. 10

RHAN 2

eglurder

5     Eglurder: yr amcan cyffredinol 11

6     Eglur i bwy?. 11

7     Eglurder: symlrwydd v manwl-gywirdeb. 11

8     Testun dwyieithog clir. 12

9     Cyfyngiadau ymarferol ar sicrhau’r canlyniad mwyaf eglur. 12

10       Eglurder: technegau drafftio. 13

RHAN 3

STRWYTHUR A THREFNIADAETH

11       Adrodd y stori 14

12       Y drefniadaeth a’r penawdau. 14

13       Trefn y deunyddiau. 15

14       Atodlenni 15

15       Cyfeiriadau tuag ymlaen. 15

16       Darpariaethau sy’n cynnig trosolwg. 16

17       Strwythur adrannau, erthyglau a rheoliadau: y cysylltiad rhwng is-adrannau. 16

18       Strwythur adrannau, erthyglau a rheoliadau: ail frawddegau. 17

19       Is-benawdau. 18

20       Hyd yr adran, yr erthygl a’r rheoliad. 19

RHAN 4

IAITH

PENNOD 1

IAITH GLIR

21       Iaith Glir. 20

PENNOD 2

BRAWDDEGAU

22       Cystrawen y frawddeg:  “talpiau ystyr” byr. 21

23       Cystrawen y frawddeg: geiriau diangen. 21

24       Cystrawen y frawddeg: trefn cydrannau’r frawddeg. 23

25       Cystrawen y frawddeg: rhaffu is-gymalau a lleoli is-gymalau. 23

26       Cystrawen y frawddeg: brawddegau amodol 24

27       Cystrawen y frawddeg: brawddegau cywasgedig. 26

28       Brawddegau: dewiswch y stâd weithredol yn hytrach na’r goddefol 26

29       Brawddegau: defnyddiwch y cadarnhaol yn hytrach na’r negyddol 27

PENNOD 3

GEIRIAU AC YMADRODION

30       Geiriau ac ymadroddion. 31

31       Geiriau newydd. 40

32       Amrywiadau rhanbarthol ar eiriau Cymraeg. 41

PENNOD 4

UNIGOL A LLUOSOG

33       Cyrff corfforaethol: lluosog ynteu unigol 42

PENNOD 5

RHIFAU A DYDDIADAU

34       Rhifolion. 42

35       Trefnolion. 43

36       Dyddiadau. 43

37       Canrannau. 43

RHAN 5

DRAFFTIO SY'N NIWTRAL O RAN RHYW

38       Beth yw drafftio sy’n niwtral o ran rhyw?. 44

39       Rhagenwau rhyw-benodol 44

40       Cronni rhagenwau. 46

41       Ailadrodd yr enw.. 46

42       Defnyddio gair neu ymadrodd niwtral fel “person”, “any person”, “every person” neu “no person”  47

43       Defnyddio label 47

44       Dileu cyfeiriadau yn ôl 48

45       Hepgor rhagenwau. 48

46       Defnyddio “the”, “a” neu “that” neu “those”  yn lle’r rhagenw.. 49

47       Defnyddio “whose” yn ateb. 50

48       Defnyddio’r goddefol yn hytrach na’r gweithredol 50

49       Defnyddio’r lluosog yn hytrach na’r unigol 51

50       Defnyddio rhangymeriad yn hytrach na berf 52

51       Defnyddio is-gymal sy’n gweithredu fel ansoddair – defnyddio ‘who’ yn ateb. 52

52       Defnyddio berf yn hytrach nag enw + rhagenw.. 54

53       Crybwyll y trosedd nid y troseddwr. 54

54       Defnyddio rhagenwau lluosog ar gyfer enwau unigol 54

55       Ymdrin â’r ffurf atblygol “himself”. 55

56       Enwau rhyw-benodol yn Saesneg. 56

57       Enwau rhyw-benodol yn Gymraeg. 57

58       Enwau Cymraeg sy’n gorffen ag ‘-wr’ a ‘-wraig’ 57

59       Enwau Cymraeg â’r ôl-ddodiad ‘-ydd’ 58

60       Enwau Cymraeg: defnyddio parau. 60

61       Enwau Cymraeg: geiriau newydd. 62

62       Enwau ag un ffurf ar gyfer y ddwy ryw.. 62

63       Diwygio Deddfau sydd eisoes yn bod. 63

64       Deddfiadau rhyw-benodol 64

65       Y Teyrn. 64

66       Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, yr Ysgrifennydd Gwladol a deiliaid swyddi eraill 64

RHAN 6

TECHNEGAU DRAFFTIO

PENNOD 1

PARAGRAFFU

67       Rhagymadrodd. 65

68       Dwy set o baragraffau. 65

69       “Brechdanau”. 65

70       Cysyllteiriau. 66

71       Atalnodi 69

72       Diddymu a diwygio. 69

73       Paragraffau heb rifau (rhestrau) 69

PENNOD 2

DIFFINIADAU

74       Mathau o ddiffiniad. 71

75       Ble i osod diffiniadau - Biliau. 71

76       Ble i osod diffiniadau – offerynnau statudol 72

77       Dewis label 73

78       Darpariaeth weithredol mewn diffiniadau. 73

79       Diffiniadau sy’n cynnwys croesgyfeiriadau. 73

80       Rhestrau o ddiffiniadau. 74

81       Pwyntiau technegol eraill 74

82       Mynegeion. 75

PENNOD 3

CROESGYFEIRIO

83       Defnyddio croesgyfeiriadau. 76

84       Disgrifiadau mewn cromfachau. 76

85       Croesgyfeiriadau. 77

PENNOD 4

GEIRIAU SY'N CYFLWYNO ATODLENNI

86       Yr angen am eiriau cyflwyno. 78

87       Ffurfiau posibl 78

PENNOD 5

STRWYTHURAU GWAHANOL I GYFLEU'R NEGES

88       Tablau. 80

89       Fformwlâu. 82

90       Datganiadau dull 83

PENNOD 6

DARPARIAETHAU TROSOLYGU

91       Rhagarweiniad. 84

92       Trosolygon Deddfau, Gorchmynion neu Reoliadau cyfan. 84

93       Trosolygon Rhannau, Penodau ac Atodlenni 85

94       Adrannau sy’n cynnwys trosolygon. 85

95       Effaith weithredol ac anweithredol 86

96       Diwygio trosolygon. 86

RHAN 7

DIDDYMU A DIWYGIO

PENNOD 1

DIWYGIO'R TESTUN

97       Gwahniaethau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. 87

98       Mewnosod a disodli 87

99       Diddymu a dirymu. 88

100     Disodli geiriau, neu ychwanegu at eiriau, yn y lle cyntaf y maent yn digwydd. 89

101     Disodli geiriau, neu ychwanegu at eiriau, ym mhob lle y maent yn digwydd. 89

102     Mewnosod ar ddechrau darpariaeth. 90

103     Mewnosod testun ar ddiwedd darpariaeth. 90

104     Rhannau o is-adran. 90

105     Rhestrau. 91

106     Lleoliad adran newydd. 91

107     Darpariaethau heb rifau. 91

108     Faint o destun i’r ddisodli 91

109     Disgrifiad mewn cromfachau. 92

110     Atodlenni o ddiwygiadau. 93

111     Diwygio penawdau adrannau etc. 93

112     Atalnodi 94

113     Ailddefnyddio rhifau. 94

114     Ychwanegu darpariaethau â rhif – defnyddio’r wyddor Saesneg neu’r wyddor Gymraeg  94

115     Ychwanegu darpariaethau ar ddechrau cyfres. 95

116     Ychwanegu darpariaethau ar ddiwedd cyfres. 95

117     Mewnosod darpariaethau cyfan rhwng darpariaethau presennol 95

118     Mewnosodiadau sy’n arwain at gyfres o fwy na 26 o adrannau, erthyglau neu reoliadau newydd  96

119     Mewnosodiadau sy’n arwain at gyfres o fwy na 26 o baragraffau â llythrennau. 96

PENNOD 2

AMRYWIADAU ANNHESTUNOL

120     Amrywiadau annhestunol a diwygiadau testunol 96

121     Angen osgoi’r ffurfiau sy’n cael eu defnyddio mewn diwygiadau testunol 97

122     “Modification”. 98

PENNOD 3

DIWYGIO DARPARIAETHAU SYDD HEB EU CYCHWYN ETC

123     Diwygio darpariaeth nad yw mewn grym.. 99

124     Diwygio darpariaeth sy’n dibynnu ar ddiddymiad sydd heb ei gychwyn. 100

RHAN 8

DARPARIAETHAU GWEITHREDOL

PENNOD 1

CYFNODAU AMSER

125     Rhagarweiniad. 102

126     Dechrau cyfnod: ffracsiynau o ddiwrnodau. 102

127     “Gan ddechrau ar”, “oddi ar”, “ar ôl” “beginning with”, “from”, “after”. 103

128     “Cyfnod o” “the period of”. 104

129     “O fewn” “within”, “cyn pen” “before the end of”. 104

130     Unedau o amser. 104

131     Dyddiau heblaw dyddiau gwaith. 105

PENNOD 2

PWERAU I WNEUD IS-DDEDDFWRIAETH

132     Atynnu adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946. 106

133     Gweithdrefn penderfyniad negyddol 107

134     Gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol 107

135     Offerynnau cyfun. 107

136     Lleoli’r ddarpariaeth ynglŷn â’r weithdrefn. 108

RHAN 9

Y DARPARIAETHAU TERFYNOL MEWN BIL

137     Trefn weithredol 110

138     Croes-bennawd. 111

139     Rhychwant a chymhwyso. 111

140     Cychwyn adeg y Cydsyniad Brenhinol 111

141     Cychwyn ar ddiwedd cyfnod penodedig. 112

142     Cychwyn drwy orchymyn. 112

143     Cychwyn drwy orchymyn: darpariaethau atodol 112

144     Enw byr. 113

 


RHAN 1

Rhagymadrodd

1                    Diben y canllawiau hyn

(1)      Mae’r ddogfen hon yn nodi’r prif egwyddorion a thechnegau y mae Llywodraeth Cymru’n eu defnyddio wrth ddrafftio’i deddfwriaeth. Prif fwriad y canllawiau yw bod yn arweiniad i aelodau Swyddfa y Cwnsleriaid Deddfwriaethol sy’n drafftio Biliau Cynulliad a gynigir gan Lywodraeth Cymru, swyddogion eraill yn Llywodraeth Cymru sy’n drafftio offerynnau statudol Cymru, cyfieithwyr deddfwriaeth a golygyddion testunau deddfau. Fe allai’r canllawiau fod yn fuddiol hefyd i swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy’n drafftio is-ddeddfwriaeth nad yw’n cael ei gwneud drwy offeryn statudol ac i unrhyw un sy’n drafftio Biliau Cynulliad heblaw Biliau’r Llywodraeth.  

(2)      Caiff y ddogfen ei diwygio o dro i dro a threfnir bod y fersiwn diweddaraf ar gael ar-lein ar dudalennau Swyddfa y Cwnsleriaid Deddfwriaethol ar wefan Llywodraeth Cymru [insert link].

(3)      Os oes gennych awgrymiadau ynglŷn â newidiadau neu ychwanegiadau at yr egwyddorion a’r technegau sydd wedi’u nodi yn y ddogfen hon, anfonwch nhw at:

Dylan Hughes, Y Prif Gwnsler Deddfwriaethol – Dylan.Hughes@Cymru.gsi.gov.uk

 

2                    Cyd-destun y canllawiau hyn

(1)      Fel arfer, bydd deddfwriaeth sy’n cael ei gwneud yng Nghymru yn cael ei gwneud yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Pan fydd deddfwriaeth yn cael ei gwneud yn ddwyieithog, mae’r ddau destun i’w trin at bob diben fel petai eu statws yn gydradd â’i gilydd.[1] Mae hyn yn gofyn am ofal ar ran y sawl sy’n drafftio deddfau Cymru, er mwyn sicrhau bod y ddau destun yn dweud yr un peth a hynny mewn modd sy’n parchu cystrawennau a phriod-ddulliau’r naill iaith a’r llall.

(2)      Mae angen hefyd i’r ffordd Gymreig o ddrafftio deddfwriaeth gymryd i ystyriaeth sut mae’r Cynulliad a’r cyhoedd yn ymateb i waith drafftio Deddfau’r Cynulliad a’r is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r canllawiau hyn yn cymryd i ystyriaeth nifer o argymhellion a wnaed mewn ymateb i adborth, yn enwedig gan Bwyllgorau Deddfau’r Cynulliad a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol y trydydd Cynulliad (2007-2011). 

3                    Cydnabyddiaeth

Mae rhan sylweddol o’r ddogfen hon wedi’i seilio ar ganllawiau Swyddfa Cwnsleriaid Seneddol y Deyrnas Unedig a chydnabyddir eu cyfraniad atynt â diolch. Cafwyd cyfraniad arwyddocaol at y testun hefyd gan Uned Cyfieithu Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Cafwyd ysbrydoliaeth mewn mannau eraill hefyd, gan gynnwys cynadleddau a chyhoeddiadau Cymdeithas Cwnsleriaid Deddfwriaethol y Gymanwlad a llawlyfrau swyddfeydd eraill sy’n drafftio’r gyfraith mewn awdurdodaethau cyfraith gyffredin ledled y byd.

4                    Defnyddio’r canllawiau yn y ddogfen hon

Rhaid i’r egwyddorion a’r technegau yn y ddogfen hon gael eu defnyddio mewn modd hyblyg. Mae’r her wrth ddrafftio yn amrywio yn ôl y sefyllfa benodol ac yn aml ceir nifer o atebion i gwestiwn drafftio penodol. Oherwydd hyn, mae’n amhosibl drafftio deddfwriaeth drwy ddilyn rheolau syml yn ddiwyro; mae’r dasg yn gofyn i’r drafftiwr feddwl yn greadigol ac arfer ei grebwyll i weld a fydd techneg ddrafftio benodol yn sicrhau’r canlyniad gorau ym mhob achos. Y canlyniad gorau yw deddfwriaeth sy’n rhoi ei effaith i’r polisi yn y modd cliriaf posibl.


 

RHAN 2

EGLURDER

Eglurder, effeithiolrwydd, ac ymarferoldeb

5                    Eglurder: yr amcan cyffredinol

(1)      Eglurder yw amcan cyffredinol drafftwyr deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Rhaid i ddeddfwriaeth fod yn effeithiol, ond mae’n methu bod yn effeithiol os nad yw’n ddigon eglur.

(2)      Bydd drafft effeithiol yn sicr o  ran ei effaith, yn gywir ac yn gwireddu’r amcanion polisi sydd y tu ôl i’r ddeddfwriaeth.  Mae bod yn glir yn golygu ei gwneud mor hawdd ag y bo modd i’r darllenwyr ddeall yr hyn sy’n cael ei ddweud. Hyd yn oed os bydd drafft yn ddigon clir i fod yn effeithiol, mae’n dal yn bosibl ei gwneud yn haws ei deall.  Dylai ymgais y drafftiwr i fod yn glir fynd y tu hwnt i’r ymdrech leiaf sy’n angenrheidiol.

6                    Eglur i bwy?

(1)      Dylai’r drafftiwr gael ei arwain gan fuddiannau’r darllenydd, gan gofio y bydd amrediad eang o fathau gwahanol o ddarllenydd fel arfer.  Mae’r darllenwyr yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad, grwpiau lobïo ac aelodau o’r cyhoedd sy’n ymddiddori mewn deddfwriaeth ddrafft pan fydd y gwaith craffu’n digwydd ac yn y pen draw y rhai a fydd yn defnyddio’r ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei deddfu neu ei gwneud. Mae’r defnyddwyr hyn yn cynnwys cynghorwyr proffesiynol a’r llysoedd ac mae’n hanfodol bod y gwaith drafftio’n creu’r canlyniad cywir os caiff ei brofi yn y llys. Ond mae’r unigolion a’r cyrff y bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt hefyd yn ddefnyddwyr, ac mae angen i’w hanghenion hwythau wrth ddefnyddio’r gyfraith gael eu cymryd i ystyriaeth. 

(2)      Gall anghenion darllenwyr fod yn wahanol yn ôl pwy ydyn nhw.  Gall yr hyn sy’n hawdd gan un set o ddarllenwyr fod yn anodd  gan set arall ac mae angen taro cydbwysedd rhwng buddiannau cyferbyniol a rhoi eu pwysau priodol iddynt wrth ddrafftio.

7                    Eglurder: symlrwydd v manwl-gywirdeb

(1)      I fod yn eglur rhaid bod yn syml ac yn fanwl-gywir ac mae galwadau’r naill a’r llall yn golygu bod angen cyfaddawd rhyngddynt. Bydd y syml yn aml yn fanwl-gywir a bydd y manwl-gywir yn aml yn syml, ond nid yw’r naill yn dilyn o’r llall.  Gall gormod o bwyslais ar symlrwydd arwain at ddiffyg manwl-gywirdeb ac amheuaeth ynghylch effaith y gyfraith.  Mae’n anochel y bydd cyfraith sy’n cael ei drafftio mewn ymgais diwyro i fod yn fanwl-gywir yn arwain at gymhlethdod “and complexity is a definite step along the way to obscurity”.[2] 

(2)      Mae angen i ddrafftwyr gydnabod y tyndra rhwng symlrwydd a manwl-gywirdeb a defnyddio’u profiad a’u barn i daro’r cydbwysedd iawn. Rhaid i ddrafftwyr uwch helpu drafftwyr is i feithrin y medrau a’r crebwyll angenrheidiol. Nid ar chwarae bach y mae taro’r cydbwysedd iawn.

8                    Testun dwyieithog clir

Mae’n wir fel arfer (ond nid bob amser) bod testun Saesneg y ddeddfwriaeth yn cael ei llunio cyn y testun Cymraeg. Mae hyn yn golygu bod y testun Cymraeg cychwynnol yn cael ei lunio gan gyfieithwyr deddfwriaeth y llywodraeth cyn cael ei wirio i sicrhau ei fod yn cyfateb yn gyfreithiol â’r testun Saesneg terfynol. Mae’n bwysig na ddylai’r testun Cymraeg ddilyn cystrawen y Saesneg yn annaturiol, ac ni ddylai’r Saesneg ddilyn cystrawen y Gymraeg yn annaturiol ychwaith. Mae i’r ddau destun yr un statws yn y gyfraith ac wrth wirio’r gyfatebiaeth gyfreithiol rhwng y ddau dylid canolbwyntio ar bwyso a mesur a ydy’r un effaith gyfreithiol wedi’i sicrhau. Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud drwy iaith naturiol a modern yn y ddau fersiwn.

9                    Cyfyngiadau ymarferol ar sicrhau’r canlyniad mwyaf eglur

(1)      Mae yna bethau sy’n effeithio ar eglurder deddfwriaeth nad ydynt o dan reolaeth y drafftiwr yn y pen draw. Ond ym mhob achos mae gan y drafftiwr rôl fel eiriolydd yn y llywodraeth o blaid agweddau at brosiectau deddfwriaeth sy’n hybu cyfreithiau clir.

(2)      Os cafodd Deddf neu offeryn statudol eu diwygio sawl tro o’r blaen, dylai cynnig newydd ynglŷn â diwygiad beri i’r rhai sy’n ymwneud â’r gwaith feddwl o ddifrif am ddiweddaru’r gyfraith mewn testun wedi’i gydgrynhoi er mwyn sicrhau ei fod yn fwy hwylus i’r cyhoedd. Neu os oes bwriad i ddiwygio Deddf Seneddol neu offeryn statudol uniaith Saesneg bydd hynny’n golygu y bydd y gyfraith sylfaenol yn dal yn uniaith Saesneg – byddai ail-wneud y gyfraith yn golygu llunio testun Cymraeg hefyd, gan wella’r cyfle i gyrchu’r gyfraith drwy’r Gymraeg.

(3)      Mae’n ddigon posibl y bydd rhesymau dilys pam nad yw Gweinidogion neu adrannau am gydgrynhoi darpariaethau yr un pryd â bwrw ymlaen â diwygio’r ddeddfwriaeth: er enghraifft, gall fod angen adnoddau nad ydyn nhw ar gael yn hwylus neu, yn achos Bil, gallai darpariaethau sydd wedi’u pennu ond a allai fod yn ddadleuol gael eu hagor i gael eu trafod a’u diwygio. Mater i’r Gweinidogion ar y cyd, ac nid i’r drafftiwr, yw’r penderfyniad terfynol ar sut i fwrw ymlaen mewn achos fel hyn, ond rôl y drafftiwr yw sicrhau bod y materion hyn yn dod i sylw’r penderfynwyr. Os yw’r drafftwyr yn gofidio nad yw’r materion hyn yn cael eu hystyried neu os awgrymir dulliau a allai amharu ar y cyfle i gyrchu’r ddeddfwriaeth, dylai’r materion gael eu codi drwy gadwyn reoli yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ac, os oes angen hynny, gyda’r Cwnsler Cyffredinol. Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd yw cleient y drafftiwr, nid adrannau neu Weinidogion unigol ac mae’n rhaid rhoi ystyriaeth briodol i’r budd polisi mewn cyfraith glir ar y cyd â’r ystyriaethau polisi a’r ystyriaethau ymarferol eraill.

(4)      Un ystyriaeth ymarferol bwysig i ddrafftwyr yw’r amser sydd ar gael at y gwaith drafftio. Mae drafftiau yn aml yn cael eu llunio o dan gyfyngiadau tyn ar amser ac yn dibynnu ar gyfraniadau polisi y gall fod angen iddynt gymryd ystod eang o fuddiannau i ystyriaeth. Gall hyn effeithio ar y gwaith drafftio tua diwedd paratoi Bil neu set o reoliadau. Mae gwaith i wella eglurder yn cymryd amser, ac weithiau fydd yr amser ddim ar gael.

(5)      I grynhoi, nod y drafftiwr yw gwneud drafft mor hawdd ei ddeall ag y gellir yn yr amser sydd ar gael, a hynny o fewn y terfynau a bennir gan y Gweinidogion a’r Cwnsler Cyffredinol.

10                Eglurder: technegau drafftio

Mae’r rhannau a ganlyn o’r canllawiau yn disgrifio’r technegau o dan reolaeth y drafftiwr sy’n hybu eglurder. 


 

RHAN 3

strwythur a threfniadaeth

11                Adrodd y stori

(1)      Nid yw darllenydd darn o ddeddfwriaeth yn gwybod beth yw’r neges nes i honno gael ei chyfleu. Mae hyn yn wahanol i safle parti mewn cytundeb masnachol, y gellir rhagdybio ei fod yn gwybod, yn gyffredinol o leiaf, yr hyn sy’n cael ei ddweud yn  y cytundeb. Gan hynny, mae’n arbennig o bwysig mynd â’r darllenydd drwy’r stori y mae angen ei hadrodd yn y ddeddfwriaeth mewn ffordd resymegol.

(2)      Gall fod gan wahanol ddarllenwyr ddiddordeb mewn gwahanol agweddau ar y stori: er enghraifft, gall fod gan y Gweinidogion ddiddordeb mewn sut mae’r ddeddfwriaeth yn cydweddu â pholisi cyffredinol, ond bydd gan gynghorwyr proffesiynol fwy o ddiddordeb ym manylion y gyfraith. Gall hyn ddylanwadu ar sut mae’r stori’n cael ei hadrodd.

12                Y drefniadaeth a’r penawdau

(1)      Un peth sy’n effeithio’n fawr ar eglurder testun yw ei drefn. Gall rhannu’r ddeddfwriaeth yn Rhannau, Penodau etc, a’r geiriau a ddewisir ar gyfer penawdau’r rhain a’r geiriau a ddewisir ar gyfer penawdau adrannau, erthyglau a rheoliadau helpu’r darllenydd. Mae’n haws deall testun os yw’r pwnc wedi’i bennu ar y dechrau. Mae rhannau, penodau a phenawdau yn helpu’r darllenydd i adnabod y pynciau.

(2)      Mae o gymorth os yw penawdau adrannau, erthyglau a rheoliadau yn rhoi syniad mor llawn â phosibl o’r cynnwys, gan gadw’r pennawd yn rhesymol fyr hefyd (bydd llawer o ddrafftwyr yn ceisio sicrhau nad yw eu penawdau’n ymestyn i’r ail linell). Ond mae’n bosibl nad oes agen i bennawd adran ailadrodd y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan bennawd Pennod neu Ran.

(3)      Mae yna berthynas rhwng penawdau a’i gilydd, nid yn unig rhwng y penawdau a’r adran. Wrth feddwl am strwythur a threfniadaeth y deunyddiau, mae’n fuddiol dychmygu penawdau’r adrannau (neu’r erthyglau neu’r rheoliadau), y Penodau a’r Rhannau fel y maen nhw wedi’u nodi yn y tabl cynnwys. Wrth i’r drafft ddatblygu dylai’r drafftwyr ailddarllen y tabl cynnwys yn gyson i sicrhau ei fod yn dal yn ddilys.

(4)      Dylai pob adran, erthygl a rheoliad gael pennawd. Os nad oes ffordd amlwg i grynhoi cynnwys adran, erthygl neu reoliad newydd, gall hynny fod yn arwydd bod angen eu cadw gydag is-adrannau’r adran, yr erthygl neu’r rheoliad blaenorol (gweler paragraff 20 isod).

 

13                Trefn y deunyddiau

(1)      Mae’n helpu’r darllenydd os yw’r deunyddiau yn y ddeddfwriaeth wedi’u gosod mewn trefn resymegol, fel bod y gosodiadau diweddarach yn adeiladu ar y rhai cynharach.

(2)      Gallai’r technegau a ganlyn helpu yn hyn o beth—

(a)      trefnu’r darpariaethau yn nhrefn amser; er enghraifft – yn gyntaf darpariaethau sy’n ymwneud â’r cais am drwydded, wedyn dyroddi’r drwydded, wedyn amodau’r drwydded, wedyn ei hadnewyddu ac yn olaf ei dirymu;

(b)      grwpio darpariaethau sydd â phwnc cyffredin gyda’i gilydd;

(c)      grwpio cysyniadau cysylltiedig gyda’i gilydd;

(d)      mynegi syniadau tebyg mewn darpariaethau sydd â strwythur tebyg;

(e)      gosod y darpariaethau cyffredinol a phwysig yn gyntaf.

14                Atodlenni

(1)      Yn aml, os oes perygl y gallai’r manylion gymylu’r brif stori, bydd yn fuddiol rhannu’r deunyddiau yn brif ddarpariaethau (adrannau, erthyglau neu reoliadau) ac atodlenni. 

(2)      Mae’r enghreifftiau lle y gallai atodlen fod yn fuddiol yn cynnwys—

(a)      darpariaeth dechnegol nad yw’n debyg o fod o ddiddordeb i lawer o ddarllenwyr;

(b)      deunyddiau maith sy’n gwyro ryw ychydig oddi ar y brif stori;

(c)      diddymiadau neu ddirymiadau;

(d)      cyfres hir o fân ddiwygiadau i’r testun;

(e)      tablau mawr a rhestrau maith iawn;

(f)       testun cytuniadau.

15                Cyfeiriadau tuag ymlaen

(1)      At ei gilydd, nid yw cyfeiriad ar unrhyw adeg at ddeunyddiau y mae angen eu deall ar yr adeg honno ond nad ydynt yn ymddangos tan yn nes ymlaen o fawr o gymorth. Mae’n ddigon posibl bod hyn yn dangos y byddai’n well ad-drefnu’r deunyddiau.

(2)      Ond mae cyfeiriad at ddeunyddiau yn nes ymlaen (neu at ddeunyddiau blaenorol) sy’n berthnasol ond nad oes angen eu deall nawr o reidrwydd yn gallu bod yn fuddiol. Gall gael ei gynnwys mewn cromfachau (e.e. “gweler adran X”).

 

 

16                Darpariaethau sy’n cynnig trosolwg

(1)      Gall adran ar ddechrau Bil, neu ar ddechrau Rhan neu Bennod, sy’n esbonio’r hyn sy’n dilyn, helpu’r darllenydd i ymdopi â darn hir o ddeddfwriaeth lle mae’r tabl cynnwys yn rhy hir i roi darlun clir.

(2)      Un enghraifft yw adran 2 o Ddeddf Treth Incwm 2007, sy’n dweud bod y Ddeddf yn cynnwys 17 o Rannau, ac sydd wedyn yn nodi’n fyr beth sydd ym mhob Rhan.

(3)      Mae gan y Ddeddf honno ddarpariaeth drosolygu ehangach hefyd yn adran 1, sy’n gosod y Ddeddf yn ei chyd-destun â Deddfau eraill sy’n darparu ar gyfer treth incwm.

(4)      Gallai darpariaeth drosolygu fod o fudd mewn darnau byrrach o ddeddfwriaeth; er enghraifft, os yw’r darpariaethau o sylwedd yn ymwneud â phwnc annelwig neu os gallent fod yn anodd i’r cyfan neu i rai o’r darllenwyr tebygol.

(5)      I gael rhagor o ddarpariaethau ynghylch drafftio’r darpariaethau trosolygu, gweler Pennod 6 ynghylch technegau drafftio.

17                Strwythur adrannau, erthyglau a rheoliadau: y cysylltiad rhwng is-adrannau

(1)      Mae is-adran (neu baragraff mewn erthygl neu mewn rheoliad) fel arfer yn gallu cael ei darllen yng  ngoleuni is-adran flaenorol yn yr un adran (neu erthygl neu reoliad). Does dim angen ailadrodd deunyddiau fel arfer sydd wedi’u sefydlu ynghynt.

 

ENGHRAIFFT

 

(1)     Caiff person wneud cais i’r cyngor am drwydded i chwarae cerddoriaeth.

(2)     Rhaid i gais o dan is-adran (1) gynnwys yr wybodaeth a ragnodir.

(3)     Os bydd y cyngor yn cael cais gan berson o dan is-adran (1), caiff y cyngor ddyroddi trwydded i’r person.

(4)     Rhaid i drwydded a ddyroddir o dan is-adran (3) fod ar y ffurf a ragnodir.

(5)     Mae trwydded a ddyroddir o dan is-adran (3) yn awdurdodi’r deiliad i chwarae cerddoriaeth fel y mae’r drwydded yn ei dangos.

 

(1)     A person may apply to the council for a permit to play music.

(2)     An application under subsection (1) must contain the prescribed information.

(3)     On receiving an application made by a person under subsection (1), the council may issue a permit to the person.

(4)     A permit issued under subsection (3) must be in the prescribed form.

(5)     A permit issued under subsection (3) authorises the holder to play music as indicated in the permit.

 

Gallai hyn gael ei aralleirio fel a ganlyn–

 

(1)     Caiff person wneud cais i’r cyngor am drwydded i chwarae cerddoriaeth.

(2)     Rhaid i’r cais gynnwys yr wybodaeth a ragnodir.

(3)     Caiff y cyngor ddyroddi trwydded i’r ceisydd.

(4)     Rhaid i’r drwydded fod ar y ffurf a ragnodir.

(5)     Mae’r drwydded yn awdurdodi’r deiliad i chwarae cerddoriaeth fel y mae’r drwydded yn ei dangos.

 

(1)     A person may apply to the council for a permit to play music.

(2)     The application must contain the prescribed information.

(3)     The council may issue a permit to the applicant.

(4)     The permit must be in the prescribed form.

(5)     The permit authorises the holder to play music as indicated in the permit.

 

(2)      Mae’n fuddiol os gall yr is-raniad agoriadol mewn darpariaeth roi syniad i’r darllenydd o’r hyn sydd o dan sylw yn y ddarpariaeth, yn enwedig os yw’n cyflwyno pwnc newydd. Er enghraifft, os yw adran yn creu effaith gyfreithiol benodol os oes amodau’n cael eu bodloni, gall fod yn fwy buddiol datgan yr effaith cyn rhestru’r amodau.

18                Strwythur adrannau, erthyglau a rheoliadau: ail frawddegau

(1)      Fel rheol, bydd pob brawddeg mewn adran, erthygl neu reoliad yn ddarpariaeth ar wahân ac iddi ei rhif ei hun. Ond, does dim rheol yn erbyn cael mwy nag un frawddeg mewn darpariaeth sydd wedi’i rhifo. Mae’n debyg y bydd y cysylltiad rhesymegol rhwng is-raniadau yn agosach mewn rhai achosion na’i gilydd. Mae ail frawddeg yn caniatáu i’r drafftiwr wahaniaethu rhwng dwy lefel o gysylltiad rhwng is-adrannau yn yr un adran; neu ymdrin ag achosion lle byddai gosod ail syniad mewn darpariaeth ar wahân yn arwain at ormod o bwyslais arno.

 

 

 

ENGHRAIFFT (adran 108, Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996)

(1)   A party to a construction contract has the right to refer a dispute arising under the contract for adjudication under a procedure complying with this section.

For this purpose “dispute” includes any difference.

(2)   The contract shall include provision in writing so as to

(a) enable a party to give notice at any time of his intention to refer a dispute to adjudication;           

(b) provide a timetable [etc].

(2)      Yn yr enghraifft hon, dim ond dau brif osodiad sydd – yr hawl i gyfeirio anghydfod at broses ddyfarnu a’r hyn y mae’n rhaid i’r contract ei ddweud am gyfeiriadau o’r fath. Rhywbeth sy’n eilaidd i’r syniad cyntaf yw ystyr y gair “dispute”, ac efallai na fyddai’n fuddiol ei drin fel pe bai yr un mor bwysig â’r ddau syniad arall.

19                Is-benawdau

Weithiau gall gwybodaeth fod yn fwy hwylus i’r darllenydd os yw wedi’i gosod o dan gyfres o is-benawdau (hyd yn oed o fewn yr un is-bennawd).  Un enghraifft yw adran 836(3) o Ddeddf Treth Incwm 2007:

 

“836 Jointly held property

[(1), (2)]

(3)        But this treatment does not apply in relation to any income within any of the following exceptions.

            Exception A

            Income to which neither of the individuals is beneficially entitled.

            Exception B

Income in relation to which a declaration by the individuals under section 837 has effect (unequal beneficial interests).

            Exception C

            Income to which Part 9 of ITTOIA 2005 applies (partnerships).

            Exception D

            Income arising from a UK property business which consists of, or so far as it includes, the commercial letting of furnished holiday accommodation (within the meaning of Chapter 6 of Part 3 of ITTOIA 2005).

            Exception E

            Income consisting of a distribution arising from property consisting of –

(a)        shares in or securities of a close company to which one of the individuals is beneficially entitled to the exclusion of the other, or

(b)        such shares or securities to which the individuals are beneficially entitled in equal or unequal shares.

“Shares” and “securities” have the same meaning as in section 254 of ICTA.

Exception F

Income to which one of the individuals is beneficially entitled so far as it is treated as a result of any other provision of the Income Tax Acts as-

(a)        the income of the other individual, or

(b)        the income of a third party.”

 

20                Hyd yr adran, yr erthygl a’r rheoliad

(1)      Dylai drafftwyr geisio osgoi adrannau, erthyglau neu reoliadau sy’n cynnwys mwy na deg o is-adrannau neu o baragraffau.

(2)      Ond unwaith eto, mater i’w bwyso a’i fesur yw hyn: os oes yna stori hunangynhwysol i’w hadrodd, fe allai fod yn fwy cyfleus i’r darllenydd gael y cyfan mewn un adran sydd ychydig yn hirach nag mewn dwy neu fwy o adrannau byrrach.

(3)      Fe all fod yn fuddiol hefyd os yw’r rhaniad yn adrannau yn dilyn y rhaniad yn y syniadau. Er enghraifft, os oes rhaid ichi wneud darpariaeth ar gyfer tri achos gwahanol, ond bod angen mwy o ddarpariaeth mewn un achos nag yn y ddau arall, mae’n dal yn bosibl mai un adran i bob achos yw’r peth hawsaf, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod un o’r adrannau’n hirach nag y byddech yn dymuno iddi fod fel arall.


RHAN 4

IAITH

PENNOD 1

IAITH GLIR

21                Iaith Glir

(1)      Dylai deddfwriaeth fod mewn Cymraeg a Saesneg safonol modern, gan adlewyrchu’r defnydd cyffredinol.

(2)      Dylai’r drafftwyr ddefnyddio iaith glir, cyn belled ag y bo modd.

(3)      Mae hyn yn golygu y dylai’r drafftiwr—

(a)      defnyddio geiriau syml a chyfarwydd yn hytrach nag ymadroddion cymhleth a geiriau anarferol;

(b)      osgoi defnyddio geiriau tramor;

(c)      osgoi defnyddio geiriau hynafol;

(d)      osgoi defnyddio jargon, yn enwedig ymadroddion llafar y llywodraeth ac acronymau sydd heb eu hesbonio;

(e)      osgoi cynnwys gormod o syniadau ym mhob brawddeg neu “dalp o ystyr” (gweler paragraff 22). 

(4)      Weithiau, fydd hi ddim yn bosibl nac yn synhwyrol mynegi cysyniadau cymhleth mewn iaith sy’n hawdd i unrhyw un ei deall. Gall ymadroddion technegol fod yn briodol pan fydd termau o’r fath yn cael eu deall yn iawn gan brif gynulleidfa’r ddeddfwriaeth.

(5)      Gall ymadroddion technegol fod yn well hefyd pe bai unrhyw ymgais i fynegi eu hystyr mewn iaith bob dydd yn arwain at ddarpariaethau hirwyntog a fyddai’n anodd eu deall neu’n ansicr eu heffaith.

(6)      Serch hynny, rhaid bod yna gyfiawnhad llwyr dros ddefnyddio iaith dechnegol.

(7)      Mae angen i ddrafftwyr, cyfieithwyr a golygyddion testunau gydweithio i sicrhau bod iaith glir yn cael ei defnyddio yn y testunau Cymraeg a Saesneg. 

 


 

pennod 2

brawddegau

22                Cystrawen y frawddeg:  “talpiau ystyr” byr

(1)      Dylai drafftwyr osgoi’r blociau hir o destun di-fwlch sy’n nodweddu mathau traddodiadol o ysgrifennu cyfreithiol ac sydd yn aml yn destun gwawd a beirniadaeth.

(2)      I ddeall y neges sy’n cael ei chyfleu mewn brawddeg, mae angen i’r darllenydd wybod cystrawen y frawddeg gyfan. Mae brawddegau maith iawn yn aml yn cynnwys nifer o syniadau; cyn iddo ddeall y neges, mae’n rhaid i’r darllenydd gadw’r holl syniadau hyn yn ei feddwl nes cyrraedd diwedd y frawddeg. Mae brawddegau’n mynd yn anodd eu deall os oes ynddyn nhw nifer o elfennau ar ben y goddrych a’r ferf; mwyaf yn y byd o elfennau ychwanegol, mwyaf anodd yw deall y frawddeg.

(3)      Mae’r ddirnadaeth hon yn aml yn arwain at annog drafftwyr i ysgrifennu “brawddegau byr”; gwell argymhelliad yw ysgrifennu “talpiau ystyr” byr.[3] Ni fyddai’n briodol glynu’n ddiwyro at bolisi o frawddegau byr yn unig, megis uchafswm geiriau. Un enghraifft o sefyllfa lle na fyddai’n synhwyrol gosod pen draw ar hyd y frawddeg fyddai gosodiad bod deiliad swydd i gael nifer o bwerau gwahanol mewn cyd-destun penodol; gallai rhestr o’r pwerau hynny (wedi’i his-rannu’n briodol fesul paragraff) gyda geiriau agoriadol priodol fod yn well na chyfres o frawddegau yn dechrau â’r un geiriau – a allai fod yn dân ar groen rhywun. Dylai gwybodaeth gael ei rhoi i’r darllenydd mewn talpiau bach: gall pob un o’r talpiau hyn gael ei gynnwys mewn ymadrodd neu baragraff ar wahân a’r rheiny gyda’i gilydd yn ffurfio yn frawddeg (hirach).

(4)      Yn aml, mae un frawddeg sy’n cynnwys is-gymalau yn anos ei deall na chyfres o frawddegau sy’n mynegi’r un byrdwn. Felly, yn ddelfrydol dylai brawddeg gynnwys un syniad yn unig, neu dylai gael ei rhannu’n dalpiau ystyr, bob un yn cynnwys un syniad yn unig. Er enghraifft, gall amodau gael eu rhannu’n is-adrannau o baragraffau ar wahân neu hyd yn oed yn adrannau, erthyglu neu reoliadau ar wahân, fel y bo’n briodol.

23                Cystrawen y frawddeg: geiriau diangen

(1)      Gall brawddegau clogyrnaidd gael eu cwtogi drwy ddileu geiriau diangen. Mae’r paragraffau a ganlyn yn cynnwys awgrymiadau i ddrafftwyr.

(2)      Osgowch droi berfau’n enwau. Mae ffurfiau o’r fath yn arwain at frawddegau hirach.

 

ENGHREIFFTIAU

“rhaid i awdurdod lleol ystyried”

“a local authority must consider”

Nid

“rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth”

“a local authority must give consideration”.

 

“caiff myfyriwr cymwys geisio am grant”

“an eligible student may apply for a grant”

Nid

“caiff myfyriwr cymwys wneud cais am grant”.

“an eligible student may make an application for a grant”.

 

Yn gyffredinol, mae hyn yn fwy cyson hefyd â chystrawen naturiol y frawddeg wrth ddrafftio yn Gymraeg e.e. “defnyddio’r Gymraeg” ac nid “y defnydd o’r iaith Gymraeg”.

(3)      Osgowch groesgyfeirio’n ddiangen. Meddyliwch yn ofalus a oes angen ymadroddion fel “yn ddarostyngedig i baragraff (x)”.  

(4)      Osgowch restrau o ddewisiadau amgen: ystyriwch derm cyffredinol, ynghyd â diffiniad o bosibl.

(5)      Osgowch ddefnyddio “y fath … â” ac “y cyfryw …â” neu “such…as” yn ddiangen.

 

ENGHRAIFFT

“darparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru”

“provide any information required by the Welsh Ministers”

 Nid

“darparu’r fath wybodaeth (y cyfryw wybodaeth) ag sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru”

“provide such information as is required by the Welsh Ministers”

(6)      Osgowch ddefnyddio “yna” neu “there is” a “there are” yn ddiangen.

ENGHRAIFFT

“os oes unrhyw wybodaeth ar gael”

“if any information is available”

Nid

“os oes yna wybodaeth ar gael”

“if there is any information available”

           

(7)      Osgowch eiriau di-alw-amdanynt neu hynafol fel “hereby”, “herein”, “hereafter” (gweler paragraff 30 (geiriau ac ymadroddion)).

24                Cystrawen y frawddeg: trefn cydrannau’r frawddeg

(1)      Gall brawddeg sy’n rhy hir neu frawddeg gymhleth gael ei rhannu yn ôl ei chydrannau er mwyn taro ar y ffordd orau i ad-drefnu’r syniadau ynddi. Gall hyn gael ei wneud drwy gymryd y camau a ganlyn:

(a)               dod o hyd i’r goddrych a’r brif ferf;

(b)               nodi elfennau eraill y frawddeg a’u perthynas â’r goddrych a’r ferf;

(c)                ystyried beth yw’r elfennau ychwanegol: ai amodau, goleddfiadau, eithriadau, ymhelaethiadau, rhesymau neu ganlyniadau;

(d)               ystyried a yw’r elfennau ychwanegol yn cyfeirio’n fwy uniongyrchol at elfennau ychwanegol eraill nag at y goddrych a’r brif ferf;

(e)               nodi’r elfennau sy’n hanfodol i’r syniad sylfaenol sy’n cael ei gyfleu gan y frawddeg;

(f)                 ailddrafftio’r darpariaethau drwy gadw’r elfennau hanfodol ynghyd mewn un frawddeg neu un talp ystyr, a gosod yr elfennau nad ydyn nhw’n angenrheidiol mewn brawddegau neu dalpiau ystyr byrrach ar wahân.[4]

25                Cystrawen y frawddeg: rhaffu is-gymalau a lleoli is-gymalau

(1)      Mae brawddegau sy’n anodd eu deall yn aml yn cynnwys gorfod o gymalau neu is-gymalau, neu mae ganddyn nhw grwpiau o eiriau mewn mannau sy’n eu hatal rhag cael eu deall neu sy’n creu amwysedd.

(2)      Berf-goddrych-gwrthrych yw trefn y frawddeg glasurol yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ceir goddrych-berf-gwrthrych. Os oes modd, osgowch osod geiriau rhwng y goddrych a’r gwrthrych yn Gymraeg a rhwng y goddrych a’r brif ferf yn Saesneg.

                                    

ENGHRAIFFT

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi trwydded i’r ceisydd os bodlonir yr amodau gofynnol.

The Welsh Ministers may issue a licence to the applicant if the required conditions are met.

Nid

Caiff Gweinidogion Cymru, os bodlonir yr amodau gofynnol, ddyroddi trwydded i’r ceisydd.

The Welsh Ministers may, if the required conditions are met, issue a licence to the applicant.

(3)      Wrth ddrafftio brawddegau Saesneg sy’n cynnwys nifer o gymalau, dylai’r drafftwyr ystyried y cwestiynau a ganlyn:

(a)               Oes gormod o wybodaeth cyn goddrych y frawddeg? (Mae brawddegau sy’n canghennu i’r chwith, lle ceir dau neu ragor o amodau cyn datgan y rheol gyfreithiol, yn anos eu deall.)

(b)               Oes gormod o wybodaeth rhwng y goddrych a’r ferf?

(c)                Oes gormod o wybodaeth rhwng y ferf a’r gwrthrych neu’r cyflenwad?

(d)               Oes gormod o wybodaeth ar ddiwedd y frawddeg?

(e)               Oes gormod o wybodaeth rhwng rhagenw perthynol a’i ragflaenydd.

(4)      Wrth ddrafftio brawddegau Cymraeg sy’n cynnwys nifer o gymalau, dylai’r drafftwyr ystyried y cwestiynau a ganlyn:

(a)   Oes gormod o wybodaeth cyn y brif ferf? (Mae brawddegau sy’n canghennu i’r chwith, lle ceir dau neu ragor o amodau cyn datgan y rheol gyfreithiol, yn anos eu deall.)

(b)   Oes gormod o wybodaeth rhwng y ferf a’r goddrych?

(c)   Oes gormod o wybodaeth rhwng y goddrych a’r gwrthrych?

(d)   Oes gormod o wybodaeth ar ddiwedd y frawddeg?

(5)      Nid ydys yn awgrymu na all gwybodaeth gael ei gosod yn y mannau hyn mewn brawddeg; ond fe ddylai’r drafftwyr warchod rhag gosod gormod o wybodaeth yn y mannau hyn.

26                Cystrawen y frawddeg: brawddegau amodol

(1)      Gall lleoliad amodau mewn brawedig effeithio ar ei heglurder. Hwyrach y bydd y canllawiau a ganlyn yn helpu’r drafftiwr i lunio brawddegau clir.

(2)      Os un rhag-amod sydd, mae fel arfer yn well ei osod ar y dechrau.

 

ENGHRAIFFT

Os yw person wedi cyrraedd 18 oed, mae ganddo hawl i gael y budd-dal.

If a person has attained the age of 18, he or she is entitled to receive the benefit.

 

(3)      Os un amod dilynol sydd, mae fel arfer yn well ei osod ar ôl y prif gymal.

 

ENGHRAIFFT

Mae gan denant diogel hawl i gael ad-daliad rhent, ac eithrio yn ystod unrhyw gyfnod pryd y mae’n ddarostyngedig i orchymyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

A secure tenant is entitled to a rent rebate, except during any period in which he or she is subject to an anti-social behaviour order.

 

(4)      Os oes sawl amod neu eithriad, mae fel arfer yn well datgan y prif osodiad yn gyntaf a rhestru’r amodau neu’r eithriadau wedyn.

 

ENGHRAIFFT

 

“Mae gan berson hawl i’r grant os yw’r person-

(a) yn preswylio fel arfer yng Nghymru,

(b) yn mynychu sefydliad addysgiadol yn llawn amser, ac

(c) yn 18 oed neu’n hŷn.

 

“A person is entitled to the grant if the person-

(a) is ordinarily resident in Wales,

(b) is attending an educational institution full-time, and

(c) has attained the age of 18.”

 

 Nid

 

“Os yw person yn preswylio fel arfer yng Nghymru, yn mynychu sefydliad addysgiadol yn llawn amser, ac yn 18 oed neu’n hŷn, mae gan y person hwnnw hawl i grant.”

“If a person is ordinarily resident in Wales, is attending an education institution full-time, and has attained the age of 18, that person is entitled to a grant.”

27                Cystrawen y frawddeg: brawddegau cywasgedig

(1)      Ni ddylai drafftwyr fod yn rhy brin eu geiriau, os gallai ychydig eiriau yn rhagor wneud eu drafftiau’n fwy eglur. 

(2)      Bydd problemau’n codi i’r darllenwyr os bydd termau sydd wedi’u diffinio yn cael eu defnyddio’n ormodol. 

(3)      Math arall o gywasgu annymunol yw pan fydd drafftwyr yn ceisio cynnwys gormod o achosion mewn un frawddeg neu un fformiwla.

(4)      Mae drafftio drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth arall yn enghraifft arall o ddrafftio cywasgedig a dylai’r dechneg gael ei hosgoi. Yn gyffredinol, annymunol yw drafftio mewn ffordd sy’n peri i’r darllenydd gyfeirio at ddeddfwriaeth arall er mwyn i ddarpariaeth gael ei deall.

(5)      Ond mewn rhai achosion mae’n gallu bod yn well drafftio drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth arall os byddai’r dewis arall yn golygu ailadrodd gormodol ar ddarpariaethau sydd ar y llyfr statudau, yn enwedig os yw’r darpariaethau’n faith neu’n gymhleth.

28                Brawddegau: dewiswch y stâd weithredol yn hytrach na’r goddefol

(1)      Mae fel arfer yn gliriach defnyddio’r stâd weithredol yn hytrach na’r goddefol.

 

ENGHRAIFFT

Mae’n haws deall

 

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad

The Welsh Ministers must give a notice

 

na –

 

Rhaid i hysbysiad gael ei roi gan Weinidogion Cymru.

A notice must be given by the Welsh Ministers.

 

(2)      Ond fe all y  goddefol fod yn briodol os yw’r gweithredydd yn ddibwys, yn gyffredinol neu’n anhysbys.

 

ENGHRAIFFT

Gallai

 

Os rhoddir hysbysiad i’r Awdurdod…

If a notice is given to the Authority ….

 

fod yn briodol os nad oes gwahaniaeth pwy fyddai’n rhoi’r hysbysiad.

 

(3)      Gall y goddefol fod yn ddefnyddiol hefyd fel techneg i osgoi iaith ryw-benodol wrth ddrafftio (gweler paragraff 48).

(4)      Gall ffurfiau amhersonol y Gymraeg fod yn well am resymau arddull: er enghraifft, i osgoi defnyddio ffurfiau berfol personol llai cyffredin.

 

ENGHRAIFFT

Gallai

 

Os llofnodwyd yr adroddiad ganddynt yn ystod y cyfnod perthnasol

 

fod yn haws ei ddeall nag –

 

Os llofnodasant yr adroddiad yn ystod y cyfnod perthnasol

 

29                Brawddegau: defnyddiwch y cadarnhaol yn hytrach na’r negyddol

(1)      Mae yn aml yn haws deall y cadarnhaol na’r fersiwn negyddol o’r un peth.

(2)      Ond mae hyn yn dibynnu ar natur y gosodiad ac ar effaith gyffredinol yr hyn sy’n cael ei ddweud.  Gall fod yn well mynegi gwaharddiad yn y negyddol.

 

ENGHRAIFFT

 

Mae

Siaradwch ar ôl y dôn

Speak after the tone

 

yn haws ei deall na–

 

Peidiwch â siarad nes i  chi glywed y dôn

Do not speak until you hear the tone

 

ENGHRAIFFT

 

Mae’n debyg bod

Peidiwch â cherdded ar y gwair

Do not walk on the grass

 

yn haws ei ddeall ar unwaith na–

 

Cerddwch ar y llwybrau yn unig

Walk only on the pathways

 

(3)      Gall rhai cystrawennau cadarnhaol yn Saesneg gael eu mynegi drwy gystrawen negyddol yn y Gymraeg.

 

                                ENGHRAIFFT

 

Gall

The authority may only grant permission after it has consulted with the public (cystrawen gadarnhaol)

gael ei ddrafftio yn Gymraeg fel

Ni chaiff yr awdurdod ond roi caniatâd ar ôl iddo ymgynghori â’r cyhoedd (cystrawen negyddol)

 

(4)      Yn aml, mae’n well osgoi’r negyddol wrth fynegi swm.

 

ENGHRAIFFT

 

Byddai yn aml yn gliriach mynegi

nid llai na 25%

not less than 25%

 

drwy ddweud -

o leiaf 25%

at least 25%

neu  

25% neu fwy

25% or more.

 

(5)      Gwell osgoi negydd dwbl. Ond sylwch nad yw hynny’n bosibl bob tro.

 

ENGHRAIFFT

 

Nid yw

Nid yw Gweinidogion Cymru wedi ardystio na wnaed cais

The Welsh Ministers have not certified that no application was made

 

yn golygu’r un peth â –

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi ardystio bod cais wedi ei wneud

The Welsh Ministers have certified that an application was made.

 

(6)      Hyd yn oed pan fydd negydd dwbl yn cael ei osgoi mewn Saesneg, gall fod yn naturiol cael dwy ffurf negyddol yn y gystrawen Gymraeg gyfatebol.

 

                                    EXAMPLES

                                    Mae’n bosibl cyfieithu

No person may make an application

                                    fel hyn -

                                    Ni chaiff neb wneud cais

 

                                    Mae’n bosibl cyfieithu

Only an applicant may apply for costs

                                    fel hyn -

                                    Ni chaiff ond ceisydd hawlio costau


 

pennod 3

geiriau ac ymadroddion

30                Geiriau ac ymadroddion

 

Bydd/Will

Mae “bydd”/”will” wedi’i ddefnyddio weithiau pan fo gwneuthurwyr is-ddeddfwriaeth yn gosod rhwymedigaeth arnynt eu hunain. Gwell gosod rhwymedigaeth mewn deddfwriaeth mewn termau gwrthrychol, gan osod y rhwymedigaeth yn hytrach na datgan bwriad.

 

ENGHRAIFFT

“Rhaid cydnabod ceisiadau a ddaw i ddwylo Gweinidogion Cymru cyn pen saith niwrnod”

“Applications received by the Welsh Ministers must be acknowledged within seven days”

Nid

“Bydd ceisiadau a ddaw i ddwylo Gweinidogion Cymru yn cael eu cydnabod cyn pen saith niwrnod”.

“Applications received by the Welsh Ministers will be acknowledged within seven days”

 

Comprise

            Ni ddylid defnyddio “comprise” os ydych yn golygu “include” neu “contain”.

            Er enghraifft –

            Byddai’n well drafftio

The Act comprises of a number of regulation making provisions.

            fel hyn -

            The Act includes/contains a number of regulation making provisions.

 

Prif ystyr “comprise” yw “consist of”, “to be made up of”.

Er enghraifft -

This section comprises regulation making provisions. 

Yr un yw’r ystyr o ddefnyddio “comprise” yn y stâd oddefol.

Er enghraifft-

This section is comprised of regulation making provisions.

 

Ansafonol, fodd bynnag, yw defnyddio, “comprise of”  yn y stâd weithredol.

Er enghraifft-

Byddai’n well drafftio

This section comprises of regulation making provisions.

fel hyn -

This section consists of regulation making provisions.

 

Hereby, hitherto, hereinafter, hereinbefore etc

Ni ddylai “hereby” a’r geiriau eraill sy’n dechrau â “here-” gael eu defnyddio a hynny am eu bod yn hynafol ac fel arfer yn ddiangen. Fe all fod yn fuddiol defnyddio “hereby” os oes angen cyfeirio at ddarpariaeth, ond mae’n debyg y bydd geiriau mwy penodol yn ateb yr angen yn well (e.e. “the board is abolished by this regulation”).

 

Nid…ond, dim ond…, … yn unig/Only

Mae’n hawdd gosod y gair “only” a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y lle anghywir, felly rhaid i’r drafftwyr ofalu. Mae’r brawddegau yn yr enghraifft sy’n dilyn yn dangos y broblem. Sylwch fod yr enghreifftiau Cymraeg weithiau yn caniatáu cystrawen bwyslais. Sylwch hefyd ar yr amwysedd yn (c), a allai olygu’r un peth ag (a) neu (d), ac ar yr amwysedd yn (g), a allai olygu’r un peth ag (e) neu (i).

 

(a) Only the local authority may give the eligible student the grant.

(a) Ni chaiff ond yr awdurdod lleol roi’r grant i’r myfyriwr cymwys/Dim ond yr awdurdod lleol a gaiff roi’r grant i’r myfyriwr cymwys/Yr awdurdod lleol yn unig a gaiff roi’r grant i’r myfyriwr cymwys.

 

(b) The only local authority may give the eligible student the grant.

(b) Yr unig awdurdod lleol a gaiff roi’r grant i’r myfyriwr cymwys.

 

(c) The local authority only may give the eligible student the grant.

(c) Yr awdurdod lleol yn unig a gaiff roi’r grant i’r myfyriwr cymwys.

 

(d) The local authority may only give the eligible student the grant.

(d) Ni chaiff yr awdurdod lleol ond rhoi’r grant i’r myfyriwr cymwys./Dim ond rhoi’r grant i’r myfyriwr cymwys a gaiff yr awdurdod lleol.

 

(e) The local authority may give only the eligible student the grant.

(e) Ni chaiff yr awdurdod lleol roi’r grant ond i’r myfyriwr cymwys./I’r myfyriwr cymwys yn unig y caiff yr awdurdod lleol roi’r grant./Dim ond i’r myfyriwr cymwys y caiff yr awdurdod lleol roi’r grant.

 

(f) The local authority may give the only eligible student the grant.

(f) Caiff yr awdurdod lleol roi’r grant i’r unig fyfyriwr cymwys.

 

(g) The local authority may give the eligible student only the grant.

(g) Ni chaiff yr awdurdod lleol roi ond y grant i’r myfyriwr cymwys./Y grant yn unig y caiff yr awdurdod lleol ei roi i’r myfyriwr cymwys./Dim ond y grant y caiff yr awdurdod lleol ei roi i’r myfyriwr cymwys.

 

(h) The local authority may give the eligible student the only grant.

(h) Caiff yr awdurdod lleol roi’r unig grant i’r myfyriwr cymwys.

 

(i) The local authority may give the eligible student the grant only.

(i) Ni chaiff yr awdurdod lleol roi ond y grant i’r myfyriwr cymwys./ Y grant yn unig y caiff yr awdurdod lleol ei roi i’r myfyriwr cymwys./Dim ond y grant y caiff yr awdurdod lleol ei roi i’r myfyriwr cymwys.

 

Neu/ynteu/or

Yn Saesneg nid yw “or” bob amser yn anghysylltiol (y naill neu’r llall, ond nid y ddau).  Mae dwy ffordd o fynegi “or” yn Gymraeg.  Fel arfer, pan na fydd “or” yn anghysylltiol, defnyddir “neu”. Ond pan fydd “or” yn anghysylltiol, defnyddir y ffurf ysgrifenedig “ynteu” (a gaiff ei ynganu’n “’ta” ar lafar). 

Byddai pŵer i osod amodau ynglŷn â grantiau neu fenthyciadau yn cael ei ddarllen fel rheol fel pe bai’n caniatáu amodau ynglŷn â’r naill neu’r llall neu â’r ddau.

 

ENGHRAIFFT

Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr—

(a) dangos unrhyw ddogfen berthnasol, neu

(b) darparu unrhyw wybodaeth berthnasol.

 

The regulator may require the employer to—

(a) produce any relevant document, or

(b) provide any relevant information.

 

Yn yr enghraifft hon, mae’n ymddangos yn annhebyg bod bwriad i’r pwerau gael eu harfer yn y naill achos ond nid yn y llall. Ond mewn achosion eraill gall fod yn llai eglur, fel y gwelir yn yr enghraifft a ganlyn.

 

ENGHRAIFFT

Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr—

(a) talu dirwy, neu

(b) cymryd camau o ddisgrifiad a bennir gan y rheoleiddiwr.

 

The regulator may require the employer to—

(a) pay a fine, or

(b) take action of a description specified by the regulator.

 

Byddai fersiwn Cymraeg ag ‘ynteu’ yn ei gwneud yn fwy eglur bod (a) a (b) yn nacáu ei gilydd.

 

Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr—

(a) talu dirwy, ynteu

(b) cymryd camau o ddisgrifiad a bennir gan y rheoleiddiwr.

 

Mae angen gofal felly. Efallai bod modd egluro’r bwriad drwy egluro yn y geiriau agoriadol fod y ddau ddewis yn opsiynau derbyniol; er enghraifft mewn darpariaeth ynglŷn â chosb a fyddai’n caniatáu “gosod dirwy neu gyfnod o garchar o hyd at ddwy flynedd, neu’r ddau.” /“the imposition of a fine or imprisonment for a period of up to 2 years or both”.

 

“O’r Ddeddf hon”, “o’r adran hon”, “o’r Atodlen hon”)/“of this Act”, “of this section”, “of this Schedule” etc

Mae hyn yn ymwneud â defnyddio “o’r Ddeddf hon”, “o’r adran hon” ac “o’r Atodlen hon” etc a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol mewn cysylltiad â chyfeiriadau at adrannau, is-adrannau a pharagraffau mewn Atodlen etc.

 

Fel rheol gyffredinol, dylid osgoi defnyddio’r ymadroddion hyn.

 

Ond maen nhw’n gallu ateb diben defnyddiol:

 

(a)      mewn cyd-destunau lle gallai “uchod” neu “isod” gael eu defnyddio fel arall (gweler uchod): gall fod rhesymau ynglŷn â chymesuredd neu bwyslais sy’n golygu, er enghraifft, fod “o’r Ddeddf hon” yn well nag “uchod” neu “isod”;

(b)      pan geir cyfeiriad mewn Atodlen at “y Rhan hon” neu at “Rhan 2” a bod yr Atodlen a’r Ddeddf sy’n ei chynnwys wedi’u rhannu’n Rhannau; gall fod yn ddymunol ychwanegu “o’r Ddeddf hon” neu “o’r Atodlen hon” i egluro at ba Ran y cyfeirir;

(c)      pan geir cyfeiriad at Bennod o’r Rhan y ceir y cyfeiriad ynddi a bod Rhan arall o’r Ddeddf hefyd wedi’i rhannu’n Benodau; gall fod yn ddymunol ychwanegu “o’r Rhan hon” at y cyfeiriad er lles eglurder.

Mae’r un egwyddorion yn gymwys wrth defnyddio’r ymadroddion Saesneg cyfatebol.

 

Ond/but

Does dim rheol yn erbyn gosod “Ond” neu “But” ar ddechrau brawddeg, ac ar adegau gall hyn fod yn ddefnyddiol. Ond ni ddylid gor-wneud. Mae geiriau diangen neu ormod o bwyslais yn tynnu sylw’r darllenydd.

Mae “ond” neu “but” cychwynnol yn ddiangen os yw’n amlwg beth bynnag fod yr ail osodiad yn goleddfu’r cyntaf. Er enghraifft, does dim angen “ond” neu “but” cychwynnol o flaen gosodiad i’r perwyl “Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys”/”Nothing in this section applies” neu “Nid yw is-adran (x) yn gymwys”/ “Subsection (x) does not apply”.

 

Pan fo/Where

Weithiau, mae’n glir bod “pan fo” yn well nag “os”, ac weithiau mae’n glir bod “os” yn well na “pan fo”, ond ar adegau gallai’r naill neu’r llall gael ei ddefnyddio. Mae’r un peth yn wir am yr ymadroddion Saesneg cyfatebol “where” ac “if”.

Mae “pan fo” (“where”) yn ddefnyddiol wrth ddatgan achos (neu set o amgylchiadau) lle y bydd gosodiad diweddarach yn gymwys.

Mae “os” (“if”) yn ddefnyddiol wrth ddatgan posibilrwydd. 

Ond mae’r ddau yn gorgyffwrdd, gan y gall achos fod yn bosibilrwydd hefyd: o dan yr amgylchiadau hynny, yn aml gall “os” (“if”) yn haws ei ddeall ar amrantiad (ac mae’n fwy cryno).

 

           ENGHRAIFFT

 

           Yn hytrach na -

Pan fo hysbysiad yn cael ei gyflwyno i berson, [yna mae rhywbeth yn dilyn],

Where a person is served with a notice,[then something follows],

           fe allech chi ddweud -

           Os cyflwynir hysbysiad i rywun, [yna mae rhywbeth yn dilyn]

If a person is served with a notice, [then something follows].

 

Provided that…

Dylid osgoi defnyddio amod y cyfreithiwr i gyflwyno amodau, cyfyngiadau neu eithriadau. Ffurf hynafol yw “provided that…” ac mae wedi’i beirniadu gan nifer o awduron sy’n dadlau o blaid defnyddio iaith glir mewn gwaith drafftio cyfreithiol.[5] 

Mae gweld y geiriau hyn mewn brawddeg weithiau yn arwydd bod y frawddeg yn rhy hir.

Amwys yw’r geiriau “provided that”.  Gall yr ymadrodd gael ei ddefnyddio i gyflwyno amodau, cyfyngiadau neu eithriadau neu i gyflwyno gosodiad newydd nad yw’n goleddfu’r deunydd blaenorol nac yn gosod cyfyngiad arno.

Os cyflwyno cyfyngiad neu amod yw’r bwriad, dylai’r drafftwyr ystyried geiriau syml fel ‘if’, ‘but’, ‘when’ neu ‘however’.

Does dim angen cyflwyniad i ddarpariaeth newydd nad yw’n wir gyfyngiad neu amod.

 

Same

Ni ddylai “same” nac “of the same” gael eu defnyddio yn lle dweud “it” neu “them”. Yn aml gallant gael ei hepgor yn llwyr; er enghraifft “The notice must be in writing and the local authority must deposit two copies of the same in each public library in its area”.

 

Save

Ni ddylid defnyddio “save” os ydych yn golygu “but” neu “except”.

 

 

Shall

Gall “shall” gael ei ddefnyddio yn Saesneg i ddynodi’r dyfodol, i ddynodi rhwymedigaeth neu mewn ffordd ddatgeiniol. Polisi Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio yw defnyddio cyn lleied ag y gellir ar “shall” mewn deddfwriaeth er mwyn lleihau’r amwysedd hwn. Does dim un term cyfatebol yn Gymraeg sy’n mynegi pob un o ystyron “shall” yn Saesneg, ac felly nid yw’r un broblem yn codi yn y testun Cymraeg. Yn Gymraeg mae’r dyfodol yn cael ei fynegi drwy ddefnyddio ffurf bresennol/dyfodol y ferf neu drwy gystrawen gwmpasog sy’n cyfuno ffurfiau dyfodol y ferf ‘bod’ a’r berfenw perthnasol.  Mynegir rhwymedigaeth drwy amryw o enwau, ansoddeiriau a rhagddodiaid (e.e. rhaid, gofynnol, i). Bydd gosodiadau datgeiniol yn cael eu mynegi at ei gilydd drwy ddefnyddio trydydd person ffurf orchmynnol y ferf (e.e. bydded). 

Ceir sawl dewis arall yn lle “shall” a all gael eu defnyddio yn ôl y cyd-destun—

·         “must” “rhaid” yng nghyd-destun rhwymedigaethau (er y gall “is to be” ac “it is the duty of” fod yn ddewisiadau priodol mewn cyd-destunau penodol);

·         “there is to be” “bydd” yng nghyd-destun sefydlu cyrff statudol newydd etc.;

·         defnyddio’r amser presennol mewn darpariaethau ynghylch cymhwyso, effaith, rhychwant neu gychwyn; yn Gymraeg gellir gwahaniaethu rhwng y presennol syml a’r presennol parhaol;

·         “is amended as follows” “wedi ei ddiwygio fel a ganlyn” mewn darpariaethau sy’n cyflwyno cyfres o ddiwygiadau;

·         is repealed”“wedi ei ddiddymu” yng nghyd-destun diddymiadau  sy’n sefyll ar eu pen eu hunain;

·         “is to be” “i’w” yng nghyd-destun darpariaethau sy’n ymwneud ag offerynnau statudol (ac, os yw’n briodol, “may not” “ni chaiff” fel dewis arall yn lle “shall not”).

Un rheswm dros beidio ag ymwrthod â “shall” fyddai am ei fod yn ymddangos mewn testun sydd i’w fewnosod yn agos i ddarpariaethau presennol sy’n defnyddio shall” yn yr un ystyr.

 

Thereby, thereafter, thereto, therefrom, etc

I ddarllenwyr modern mae geiriau â’r rhagddodiad “there-” yn ymddangos yn hen-ffasiwn a dylent gael eu hosgoi. Yn yr un modd â geiriau “here-”, fe all fod rhyw ychydig o ddiben eu defnyddio, er mwyn cyfeirio yn ôl yn achos y geiriau “there-”. Mae cyfeiriad yn ôl sy’n angenrheidiol yn well fel arfer o’i fynegi â geiriau mwy penodol. 

 

 

Uchod ac isod/above and below

Ni ddylai drafftwyr ddefnyddio cyfeiriadau at “rheoliad X uchod” neu “rheoliad Y isod”, neu at “regulation X above” neu “regulation Y below” oni bai bod angen hynny yn y cyd-destun er mwyn gwahaniaethu rhwng darpariaethau’r offeryn a’r darpariaethau mewn offeryn, Deddf neu Fesur arall.

 

Unrhyw/any

Yn Saesneg, ni ddylai drafftwyr ddefnyddio “any” pan fydd y bannod amhendant “a” yn gwneud y tro. Dim ond pan olygir “unrhy un a phob un” y dylid defnyddio “unrhyw” ac “any”. Gall “unrhyw” ac “any” fod yn amwys hefyd—

Er enghraifft –

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw sefydliad y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli cynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru.

The Welsh Ministers must consult any organisation appearing to them to be representative of the agricultural producers in Wales.

Mae hyn yn amwys am nad yw’n glir ai pob sefydliad o’r fath sydd o dan sylw, ynteu unrhyw un ohonynt.

 

Y fath/…o’r fath/y cyfryw…/Such

Dylid osgoi “y fath …”, “…o’r fath”, “y cyfryw ” yn Gymraeg os yw’n ddigon da defnyddio’r fannod neu ansoddair dangosol. Yn yr un modd, ni ddylai “such” gael ei ddefnyddio os bydd “the”, “a” neu “that” yn gwneud y tro.

Os yw “such” yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio yn ôl at rywbeth, rhaid gofalu ynglŷn â faint sydd i’w godi gan y gosodiad blaenorol.

Er enghraifft, os yw’r drafft yn dweud “such period”, ydy hynny’n golygu’r cyfnod o 12 mis a grybwyllwyd, ynteu’r cyfnod hwnnw ynghyd ag un neu ragor o’r amodau a gynhwyswyd yn y ddarpariaeth gynharach sy’n peri bod y cyfnod yn hirach neu’n fyrrach o dan amgylchiadau penodol?

 

Yn benodol/In particular

Mae’r ymadroddion “yn benodol” ac “in particular” yn cael eu defnyddio’n gyffredin mewn deddfwriaeth i ddangos nad yw rhestr ddilynol o bethau yn gynhwysfawr:

Enghraifft

Mae’r pŵer hwn yn cynnwys, yn benodol, -

                        (a)…

                        (b)…

 This power includes, in particular,-

(a)…

(b)…

           

 

Neu gallant gael eu defnyddio i ddangos nad yr unig beth a olygir yw un enghraifft sy’n cael ei rhoi:

Enghraifft

At ddibenion hyrwyddo’r amcanion yn adran X, caiff Gweinidogion Cymru wneud Y yn benodol.

For the purpose of furthering the objectives in section X, the Welsh Ministers may, in particular, do Y.

 

Cafwyd enghreifftiau yn y trydydd Cynulliad pan na wnaeth Aelodau o’r Cynulliad a fu’n craffu ar ddeddfwriaeth a oedd gerbron y Cynulliad na rhai o’r ymgynghoreion ddeall y modd y mae “yn benodol” ac “in particular” yn cael eu defnyddio fel hyn.  Argymhellir y dylai drafftwyr ddefnyddio dulliau eraill i ddynodi na fwriedir i restr fod yn gynhwysfawr neu nad oes fwriad i un peth a bennir fod yr unig beth.

Enghraifft

Mae’r pŵer yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol,-

           (a)…

           (b)…

           .

The power includes, but is not limited to,-

(a)…

(b)…

           .

Enghraifft

At ddibenion hyrwyddo’r amcanion, caiff Gweinidogion Cymru wneud X ymhlith pethau eraill.

For the purpose of furthering the objectives, the Welsh Ministers may, among other things, do X.

 

 

Yn ddarostyngedig i/Subject to

Nid yw bob amser yn ddefnyddiol dweud “Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran x”/ This section is subject to section x”  . Gall fod yn well bod yn fwy manwl-gywir ynghylch yr union berthynas rhwng y gosodiadau (e.e. “Nid yw’r adran hon yn gymwys i …(gweler adran x)/ “This section does not apply to... (see section x)”.

Gall fod modd defnyddio ymadrodd arall hefyd: er enghraifft, “ond gweler adran x”/ “but see section x”. Neu gall fod modd datgan yn fyr i ba achos y mae rheol wahanol yn gymwys dwy ddweud, er enghraifft, “ac eithrio” “except” neu “oni bai” “unless”  (fel yn “Oni bai bod y person dan sylw yn iau na 30 oed” “Unless the person concerned is under 30”).

Gall y berthynas rhwng y darpariaethau fod yn arbennig o anodd ei dilyn os yw “yn ddarostyngedig i” “subject to” yn digwydd ar ddechrau’r frawddeg. Efallai y bydd yn well dechrau â’r prif osodiad ac wedyn dweud bod yna amod (a hynny mewn ail frawddeg o bosibl).

Fel arall, efallai y bydd modd hepgor “yn ddarostyngedig i” “subject to” yn llwyr, yn enwedig os yw’r gosodiad amodol yn agos at y gosodiad y mae’n ei amodi – pryd y gellir disgwyl i’r darllenydd ddeall y berthynas rhwng y ddau heb gymorth ychwanegol.

Mae /“yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn”/“subject to what follows” a “subject as follows” yn gallu bod yn amwys iawn a dylid eu hosgoi oni bai ei bod yn ddigon amlwg o’r cyd-destun p’un yn union o’r darpariaethau canlynol y cyfeirir ati. Os oes amheuaeth, dywedwch pa ddarpariaeth yn union yr ydych yn ei golygu (neu mynegwch y berthynas mewn modd arall).

Weithiau bydd yn amhosibl osgoi croesgyfeiriadau cyffredinol fel “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau yn Neddfau’r Dreth Gorfforaethau”/“Subject to the provisions of the Corporation Tax Acts” ond mae’n bosibl nad ydynt yn gwbl ystyrlon i ddarllenwyr anarbenigol. Os nad oes modd osgoi’r cyfeiriad, ceisiwch gynnwys rhestr i ddangos ble mae’r ddarpariaeth arall wedi’i gwneud.

 

31                Geiriau newydd

(1)      Dylai geiriau newydd gael eu hosgoi yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Ar adegau prin mae’n bosibl y bydd angen defnyddio geiriau newydd yn Gymraeg; er i’r Gymraeg gael ei defnyddio fel iaith cyfraith am ganrifoedd lawer mae deddfwriaeth a llawer o’r meysydd technegol sy’n gysylltiedig â hi yn beuoedd cymharol newydd yn y Gymraeg.

(2)      Gwelir hyn weithiau drwy gymryd gair sydd eisoes yn bod ond nad yw wedi cael ei ddefnyddio’n gyffredin mewn Cymraeg modern a rhoi ystyr newydd iddo. Mae’r gair ‘mangre’ (a’r ffurf dreigledig ‘fangre’) yn cael ei ddefnyddio yn adran 41 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i gyfleu ystyr ‘premises’.

(3)      Bu’r gair ‘premises’ yn broblem ers tro byd mewn deddfwriaeth Gymraeg nes i’r gair ‘mangre’ (sef lle neu leoliad) gael ei fenthyca er mwyn drafftio offerynnau statudol rai blynyddoedd yn ôl gan roi’r ystyr benodol iddo. Yn yr un modd, yn adran 37 o Fesur y Gymraeg 2011, cafodd y gair ‘neilltuedig’ (a oedd eisoes yn bod yn yr ystyr ‘gosod ar wahân’ neu ‘gadw o’r neilltu’) ei fenthyca i’w ddefnyddio i gyfleu’r Saesneg ‘qualifying’ fel yn ‘qualifying person’ a ‘qualifying service delivery standard’. ‘Cymwys’ a ddefnyddir fel rheol i gyfleu ‘qualifying’, ond penderfynwyd benthyg gair arall am fod ‘cymwys’ hefyd yn golygu ‘applicable’ a bod ‘penodol gymwys’ eisoes yn cael ei ddefnyddio yn y Mesur i gyfleu ‘specifically applicable’ a bod ‘cymwysadwy’ yn cael ei ddefnyddio i olygu ‘potentially applicable’.

(4)      Wrth fathu termau newydd, dylid cadw at yr arferion terminolegol gorau. Dylai drafftwyr a chyfieithwyr ddilyn y Canllawiau Safoni Termau a gyhoeddwyd ar y cyd gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

32                Amrywiadau rhanbarthol ar eiriau Cymraeg

(1)      Mae angen i’r Gymraeg a’r Saesneg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth gael eu deall gan siaradwyr ym mhob rhan o Gymru ac yn gyffredinol felly dylech osgoi defnyddio tafodiaith ac ymadroddion llafar. Er hynny, mae yna adegau prin pan nad oes gair Cymraeg sy’n dderbyniol ledled Cymru ac yn yr achosion hyn mae amrywiadau rhanbarthol yn cael eu defnyddio wrth ddrafftio deddfwriaeth Gymraeg; er enghraifft, Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004  (The High Hedges (Fees) (Wales) Regulations 2004) lle cafodd ‘gwrychoedd’ a ‘perthi’ eu defnyddio ar gyfer ‘hedges’ .

(2)      Does dim amrywiadau wedi’u gweld mewn Mesurau Cynulliad, er bod y cwestiwn wedi codi. Ceir dau air Cymraeg am ‘milk’: ‘llaeth’ a ‘llefrith’. Yn adran 1(1)(b) o Fesur Cig Coch (Cymru) 2010 dim ond ‘llaeth’ sy’n cael ei ddefnyddio. Y rheswm am hyn yw bod un o’r ddau air yn fwy cyfarwydd na’r llall, ac yn cael ei ddeall ym mhob rhan o Gymru, er bod y ddau yn cael eu defnyddio. Yn yr achos hwn, barnwyd nad oedd yn werth torri ar draws llif y testun, sy’n anochel wrth grybwyll geiriau amgen. Mae hyn yn dangos bod angen defnyddio technegau drafftio mewn modd hyblyg er mwyn cael y canlyniad gorau.


 

pennod 4

unigol a lluosog

33                Cyrff corfforaethol: lluosog ynteu unigol

(1)      Yn Saesneg, gall awdurdodau lleol a chyrff corfforaethol eraill gael eu trin fel enwau lluosog neu enwa unigol; yn Gymraeg, bydd enw unigol bob amser yn cael ei drin fel enw unigol, ac enw lluosog fel enw lluosog.

(2)      At ei gilydd, dylai awdurdod lleol neu gorff corfforaethol arall gael ei drin yn Saesneg fel enw unigol.

(3)      Ond, wrth ddiwygio testun deddfwriaeth sy’n defnyddio’r lluosog yn Saesneg, fe all fod angen dilyn y patrwm er mwyn osgoi dryswch.

 

pennod 5

rhifau a dyddiadau

34                Rhifolion

(1)      Ffigurau a ddylai gael eu defnyddio fel rheol ar gyfer pob rhif uwchlaw deg.

(2)      Ffigurau a ddylai gael eu defnyddio hefyd ar gyfer rhifau hyd at ddeg a chan gynnwys deg sy’n ymwneud â symiau o arian, amserau neu gyfnodau o amser, oedran, dyddiadau, unedau mesur neu mewn cyd-destun lled-fathemategol.

(3)      Mewn cyd-destunau eraill, dylai’r rhifau hyd at ddeg a chan gynnwys deg gael ei rhoi mewn geiriau neu eu mynegi fel ffigurau gan ddibynnu ar yr hyn sy’n ymddangos yn fwyaf naturiol neu briodol yn y cyd-destun o dan sylw.

(4)      Dylai rhif ar ddechrau brawddeg gael ei roi ar ffurf geiriau fel rheol.

(5)      Dylech osgoi cymysgu geiriau a ffigurau wrth gyfeirio, mewn un cyd-destun, at bethau o’r un fath.

(6)      Mewn testunau Cymraeg, mae’r pwyntiau arddull fewnol a ganlyn wedi’u mabwysiadu:

(a)      y system ugeiniol draddodiadol sydd i’w defnyddio, yn hytrach na’r system ddegol;

(b)      o 11 ymlaen, y patrwm ’11 o ddiwrnodau’  sydd i’w ddilyn, yn hytrach nag ’11 diwrnod’

(c)      bydd ffigurau’n peri treiglad fel petaent yn eiriau e.e.  ‘2 bwynt’, ‘6 phwynt’, ‘8 bwynt’.

(d)      mae 7 ac 8 yn peri treiglad meddal (ac eithrio mewn geiriau sy’n dechrau â ‘d’ neu ‘m’).

(e)      mae ‘blwydd’ ‘blynedd’ a ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifol ac eithrio 2,  3 a 4 gan ddefnyddio’r ffurfiau ‘deng’, ‘deuddeng’ a ‘pymtheng’.

(f)       y ffurfiau ‘deng’, ‘deuddeng’ a ‘pymtheng’ sydd i’w defnyddio gyda geiriau sy’n dechrau â llafariad e.e. ‘pymtheng awdurdod’ neu ag ‘m-’ e.e. ‘deng mis’.

 

35                Trefnolion

(1)      Ni ddylai’r trefnolion uwchlaw 10fed gael eu rhoi ar ffurf geiriau;

(2)      Dylai’r cwestiwn a ddylai rhifau islaw 11 gael eu rhoi ar ffurf geiriau neu beidio gael ei ateb yng ngoleuni’r hyn sy’n ymddangos yn fwyaf naturiol neu briodol yn y cyd-destun o dan sylw.

36                Dyddiadau

(1)      Rhifau a ddylai gael eu defnyddio.

(2)      Ni ddylai’r terfyniadau Saesneg -st, -rd a -th na’r terfyniadau Cymraeg –ydd, -fed, -ed, -ain etc mewn cyfuniad â ffigurau ar gyfer dyddiadau gael eu defnyddio yng nghorff deddfwriaeth.

37                Canrannau

“%” a ddylai gael ei ddefnyddio yn hytrach na “per cent”, “y cant”.


 

rhan 5

drafftio sy’n niwtral o ran rhyw

Cyffredinol

38                Beth yw drafftio sy’n niwtral o ran rhyw?

(1)      Mae Penderfyniad y Llywydd o ran Ffurf Briodol Biliau Cyhoeddus ar gyfer Deddfau’r Cynulliad yn datgan na ddylai testun Bil “ddefnyddio iaith ryw-benodol oni bai nad oes modd mynegi ystyr y ddarpariaeth mewn unrhyw ffordd arall (e.e. mae’r ddarpariaeth yn un sy’n ymwneud â phobl o ryw benodol yn unig)”.[6]  Defnyddio iaith ryw-benodol hefyd yw un o’r seiliau y caiff Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ddefnyddio i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad am offeryn statudol o dan reol sefydlog 21.2.[7]

(2)      Mae drafftio sy’n niwtral o ran rhyw yn golygu na ddylai cystrawennau’r drafftwyr, pan fo dewisiadau addas ar gael, awgrymu mai dim ond dynion sy’n gwneud pethau penodol, megis dal swydd.  Yn gyffredinol, dim ond i gyfeirio at bersonau o’r naill ryw neu’r llall y dylai iaith ryw-benodol gael ei defnyddio (er enghraifft, mewn darpariaethau ynglŷn ag absenoldeb mamolaeth i fenywod).

(3)      Mae hyn yn codi her i ddrafftwyr o ran gwneud drafftiau mor eglur ag y bo modd. Mae’r paragraffau a ganlyn yn ystyried nifer o dechnegau a all gael eu defnyddio i ddrafftio mewn modd sy’n niwtral o ran rhyw a hynny heb orgymhlethu’r testun.  

(4)      Fydd y technegau ddim yn addas ym mhob cyd-destun.  Dylai’r drafftiwr ddewis y dechneg sy’n gweithio orau ym mhob cyd-destun sy’n codi. 

Rhagenwau rhyw-benodol

39                Rhagenwau rhyw-benodol

(1)      Roedd yr hen arfer wrth ddrafftio Saesneg yn unig, sef defnyddio rhagenwau rhyw-benodol,  yn dibynnu yn rhannol ar Ran 6 o Ddeddf Dehongli 1978 lle mae rhagenw rhyw-benodol (y rhagenw gwrywaidd fel arfer) yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at berson a allai fod yn wryw neu’n fenyw.  Roedd hyn yn golygu defnyddio “he” yn hytrach na “he or she” neu “he, she or it”, ac yn yr un modd yn achos “him” a “his”.

(2)      Er mwyn drafftio’n niwtral o ran rhyw yn Saesneg, ni ddylai’r arfer hwn gael ei or-ddefnyddio. Mae’r adrannau a ganlyn yn nodi nifer o ddulliau a all gael eu defnyddio i helpu i ddileu rhagenwau rhyw-benodol. Mae’r ystyriaethau wrth ddrafftio yn Gymraeg yn wahanol.

(3)      Yn Gymraeg, mae’r rhagenwau gwrywaidd yn cyfeirio at enwau gwrywaidd ac mae’r rhagenwau benywaidd yn cyfeirio at enwau benywaidd – nid yw rhyw’r sawl y cyfeirir ato yn berthnasol[8].  Mae hyn yn golygu nad oes angen osgoi rhagenwau rhyw-benodol Cymraeg yn yr un ffordd ag yn Saesneg. 

(4)      Rhagdybiaeth y Ddeddf Dehongli yw y bydd holl ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn cael ei drafftio yn Saesneg, ac nid yw’n cymryd y Gymraeg nac ieithoedd eraill i ystyriaeth.  Gan hynny, nid yw adran 6 yn berthnasol i’r Gymraeg. 

(5)      Yn yr un modd â llawer o ieithoedd eraill fel Ffrangeg, Sbaeneg a Rwsieg, mae gan y Gymraeg system o genedl enwau sy’n golygu bod pob enw unigol naill ai’n wrywaidd neu’n fenywaidd.  Nid arwydd o ryw sydd yma, ond label traddodiadol y gramadegwyr. 

(6)      Mae rhagymadrodd Geiriadur yr Academi yn nodi hyn: “it would be just as logical to classify nouns as red nouns and green nouns, or as round nouns and square nouns”.  Ar y llaw arall, does dim cenedl ramadegol mewn Saesneg, ac mae rhagenwau Saesneg yn cyfeirio felly at ryw y sawl y cyfeirir ato.

(7)      Er bod cyfatebiaeth yn Gymraeg fel arfer rhwng rhyw a chenedl enw o ran enwau sy’n dynodi personau (e.e. teitlau swyddi, perthnasau, rolau etc.[9]) nid yw hyn yn wir bob tro.  Gwrywaidd yw cenedl ‘plentyn’, ac felly y rhagenw gwrywaidd ‘ef’ a’r rhagenw meddiannol gwrywaidd ‘ei’ sy’n peri treiglad meddal sy’n cael eu defnyddio wrth gyfeirio at y gair, hyd yn oed os merch yw’r plentyn.

(8)      Gall y rhagenwau gwrywaidd a benywaidd gael eu defnyddio yn Gymraeg os bydd dau enw, y naill yn wrywaidd a’r llall yn fenywaidd, yn cael eu defnyddio, ond dylech osgoi parau o ragenwau (megis ef/hi, ganddo ef/ganddi hi) cyn belled ag y gallwch.[10]

(9)      Yn Gymraeg, dylai’r rhagenw ddilyn cenedl ramadegol yr enw bob tro hyd yn oed os bydd y drafft Saesneg yn defnyddio his/her (sef cystrawen a ddylai gael ei hosgoi  yn Saesneg hefyd – gweler isod).

 

            ENGHRAIFFT—

            If a parent sends his or her child to the school > Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol

 

40                Cronni rhagenwau

(1)      Pur gyffredin yng ngwaith drafftio Saesneg cyfredol llywodraeth Cymru yw defnyddio “he or she” yn hytrach na “he”.  Gellid dadlau nad yw hyn yn wirioneddol niwtral o ran rhyw ac y dylid ei osgoi oni bai nad oes ffordd well o ddrafftio’n niwtral o ran rhyw.

(2)      Mae defnyddio gormod ar “he or she” yn arwain at frawddegau clogyrnaidd ac mae’n tynnu sylw oddi ar y mater dan sylw. Mae’r effaith yn waeth byth pan fydd angen rhagenw nad yw’n rhyw-benodol hefyd i grybwyll y posibilrwydd y gallai’r person y cyfeirir ato fod yn gorff yn hytrach nag yn unigolyn (hynny yw "he, she or it").

41                Ailadrodd yr enw

(1)      Defnyddio enw yn lle’r rhagenw yw’r dechneg fwyaf arferol ac effeithiol i osgoi rhagenwau Saesneg rhyw-benodol.   Yn y cywair ffurfiol yn Gymraeg, nid yw bob amser yn hanfodol nac yn ddymunol defnyddio unrhyw ragenw yn y cystrawennau cyfatebol.

 

                        ENGHRAIFFT—

Mae person yn peidio â bod yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd os yw’n…

A person ceases to be the chair or the deputy chair if the person…

Yn hytrach na

Mae person yn peidio â bod yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd os yw ef yn…

A person ceases to be the chair or the deputy chair if he or she

 

A member of the Tribunal may resign the office of member.

Yn hytrach na

A member of the Tribunal may resign his or her office.

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler adran 16(3))

 

(2)      Yn aml, bydd defnyddio enw yn lle rhagenw fel hyn yn gwella eglurder y drafft Saesneg, gan nad oes rhaid i’r darllenydd fynd yn ôl i weld beth yw rhagflaenydd y rhagenw.

(3)      Yr anfantais wrth ailadrodd y goddrych yw y gall hyn weithiau arwain at ddarpariaethau clogyrnaidd.   Dylai’r dechneg gael ei defnyddio â gofal os oes angen ailadrodd yr enw sawl tro, gan y gall fynd yn rhy drwsgl.

42                Defnyddio gair neu ymadrodd niwtral fel “person”, “any person”, “every person” neu “no person”

(1)      Gall fod yn briodol defnyddio gair neu ymadrodd Saesneg niwtral, megis “person”, yn lle’r rhagenw.

 

                        ENGHRAIFFT—

After a person’s term as a member ends, the person may carry out the duties of a member in respect of a matter that was referred to the Commission.

Yn hytrach na

After a member’s term ends, he or she may carry out the duties of a member in respect of a matter that was referred to the Commission.

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler adran 39(9))

 

(2)      Yn yr achos hwn, byddai’n amhriodol ailadrodd yr enw “member” ym mhob achos a hynny am fod y ddarpariaeth yn ymdrin â sefyllfa lle nad yw’r person yn aelod mwyach (am fod cyfnod y person fel aelod wedi dod i ben).

43                Defnyddio label

(1)      Weithiau, gall effaith andwyol ailadrodd enw gael ei lleddfu dwy ddefnyddio llythyren yn label ar gyfer enw a fyddai fel arall yn ymddangos dro ar ôl tro: 

 

ENGHRAIFFT—

Os yw person (“C”) yn gwneud cais o dan yr adran hon, mae gan C hawl i…

If a person (“C”) makes a claim under this section, C is entitled...

 

(2)      Gallwch osgoi ailadrodd teitlau o hyd, er enghraifft “Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” drwy ddefnyddio label byrrach e.e. “y Prif Arolygydd” ac ychwanegu diffiniad:

ENGHRAIFFT—

Yn y [Mater hwn][rheoliadau hyn], ystyr “y Prif Arolygydd” yw Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

In [this Matter][these regulations], “the Chief Inspector” means the Chief Inspector of Education and Training in Wales.

 

(3)      Sylwch na fydd defnyddio llythyren yn label ar gyfer enw er mwyn osgoi defnyddio’r rhagenw ddim yn creu’r un effaith yn Gymraeg ag yn Saesneg.  Er bod modd defnyddio llythyren yn label yn Gymraeg (gweler yr enghraifft yn is-adran (1)), mae llythrennau’r wyddor yn cael eu trin fel geiriau benywaidd (ac nid fel geiriau â chenedl niwtral fel yn Saesneg). Ond, nid yw’r ffaith bod y llythyren yn fenywaidd ei chenedl yn Gymraeg yn awgrymu mai menyw yw’r person a gynrychiolir gan y llythyren.

44                Dileu cyfeiriadau yn ôl

(1)      Gall ailadrodd yr enw fod yn drwsgl os oes nifer o gyfeiriadau yn ôl, ond weithiau bydd cyfeiriad yn ôl yn ddiangen a gall yr un canlyniad gael ei sicrhau drwy newid cystrawen y frawddeg neu drwy ddefnyddio gair cyfystyr neu ymadrodd gwahanol.

 

ENGHRAIFFT—

The claimant should as far as possible be put in the position that would have prevailed if the breach had not occurred.

Yn hytrach na

The claimant should as far as possible be put in the position he would have been in had the breach not occurred.

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

45                Hepgor rhagenwau

Weithiau gall rhagenw gael ei hepgor yn llwyr, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ailysgrifennu’r frawddeg.  Mae hyn yn aml yn ffordd gryno a chlir i sicrhau drafft sy’n niwtral o ran rhyw.

 

 

 

                        ENGHRAIFFT—

 

                        If satisfied that all the conditions are fulfilled, the Inspector may…

Yn hytrach na

If he or she is satisfied that all the conditions are fulfilled, the Inspector may…

 

                        A member of the Tribunal may resign office…

Yn hytrach na

A member of the Tribunal may resign his or her office…

 

A fisheries officer may issue and register a licence after determining that the applicant has met the licence requirements.

Yn hytrach na

A fisheries officer may issue a licence and he or she may register the licence if he or she considers that the applicant has met the licence requirements.

 

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

46                Defnyddio “the”, “a” neu “that” neu “those”  yn lle’r rhagenw

Gall bannod “the” neu “a” neu ddangosolion fel “that” neu “those” gael eu defnyddio weithiau yn lle’r rhagenw.

 

                        ENGHRAIFFT—

 

In accordance with the terms of employment….

Yn hytrach na

In accordance with his or her terms of employment…

 

The Minister may not appoint a relative to the position of Deputy Minister.

Yn hytrach na

The Minister may not appoint any of his or her relatives to the position of Deputy Minister.

 

An applicant must include with the application…

Yn hytrach na

An applicant must include with his or her application…

 

The Commissioner shall advise the complainant in the report under subsection 2.

Yn hytrach na

The Commissioner shall advise the complainant in his or her report under subsection 2.

(Yn yr achos hwn, mae is-adran (2) yn dweud mai’r Comisiynydd sy’n cyhoeddi’r adroddiad, felly does dim angen cyfeirio at “his report”).

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

 

47                Defnyddio “whose” yn ateb

Yn achlysurol, bydd modd defnyddio’r ffurf “whose”, sydd heb genedl, i ddatrys problem drafftio gan hepgor y rhagenw.

 

ENGHRAIFFT—

This section confers no immediate authority on the auditor, whose powers remain dormant until the occurrence of the contingency.

Yn hytrach na

This section confers no immediate authority on the auditor.  His powers remain dormant until the occurrence of the contingency.

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

 

48                Defnyddio’r goddefol yn hytrach na’r gweithredol

(1)      Drwy ddefnyddio cystrawennau goddefol di-asiant yn Saesneg mae modd osgoi defnyddio rhagenwau personol rhyw-benodol. Ond gall y cystrawennau goddefol hynny fod yn llai clir na’r cystrawennau gweithredol cyfatebol a gallant beri amwysedd[11] (gweler paragraff 28).

 

ENGHRAIFFT—

The Secretary of State must submit a memorandum explaining why the order has not been laid…

Instead of

The Secretary of State must submit a memorandum explaining why he has not laid the order…

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

 

(2)      Ond ni ddefnyddir rhagenwau personol yn yr un ffordd yn Gymraeg ac mae troi'r gweithredol yn oddefol yn ateb penodol i broblem sy'n codi yn y Saesneg.

 

(3)      Mewn Cymraeg llenyddol safonol, mae’r rhagenw’n cael ei hepgor beth bynnag mewn gosodiad niwtral (un heb bwyslais neu gyferbyniad), e.e. ‘ysgrifennodd lythyr’ – ‘[he/she] wrote a letter’.  At bwyslais neu gyferbyniad yn unig y defnyddir y rhagenwau ategol:  bydd ‘ysgrifennodd ef lythyr’ neu ‘ysgrifennodd hi lythyr’ yn pwysleisio mai ef neu hi a ysgrifennodd y llythyr ac nid rhywun arall.  Oherwydd hyn, er bod troi’r gweithredol yn oddefol yn ddefnyddiol yn Saesneg, does dim gwahaniaeth yn y Gymraeg o ran bod yn niwtral rhwng y ddau ryw – nid yw ‘ysgrifennwyd llythyr’ yn fwy niwtral o ran rhyw nag ‘ysgrifennodd lythyr’.   

 

49                Defnyddio’r lluosog yn hytrach na’r unigol

(1)      Mae’n well defnyddio’r unigol fel arfer, ond mae’r lluosog yn gallu cael ei ddefnyddio i osgoi rhagenw rhyw-benodol mewn achosion anodd cyhyd ag na fydd hynny’n creu amwysedd. 

                        ENGHRAIFFT—

 

                        Occupiers must notify the Authority of any changes in their address.

Yn hytrach na

An occupier must notify the Authority of any change in his address.

 

Members of the Tribunal may resign their offices…

 

Yn hytrach na

A member of the Tribunal may resign his or her office…

 

Borrowers who are not prompt in making payments under their mortgage risk losing their homes.

Yn hytrach na

A borrower who is not prompt in making payments under his mortgage risks losing his home.

(2)      Dyma un dechneg a all fod yn fuddiol yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.

(3)      Defnyddiwn y gair ‘athro’ fel enghraifft; er nad oes enw ‘niwtral’ a fydd yn cynnwys yr unigol gwrywaidd (‘athro’) a’r unigol benywaidd (‘athrawes’), derbynnir yn gyffredinol fod lluosog y ffurf wrywaidd ‘athro’ (sef ‘athrawon’) yn cyfeirio at athrawon, athrawon ac athrawesau, neu hyd yn oed athrawesau, a hynny er gwaethaf y ffaith bod y ffurf luosog benywaidd yn bodoli (‘athrawesau’)

(4)      Wrth ymdrin ag enwau rhyw-benodol fel ‘athro/athrawes’, gall defnyddio’r lluosog (‘teachers’) yn y drafft Saesneg fod o gymorth, a dylid ystyried gwneud hynny pan nad yw’n arwain at amwysedd.

50                Defnyddio rhangymeriad yn hytrach na berf

                        ENGHRAIFFT—

 

A person must record the name of the manufacturer when acquiring any medicinal product.

Yn hytrach na

A person must record the name of the manufacturer when he or she acquires any medicinal product.

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

 

51                Defnyddio is-gymal sy’n gweithredu fel ansoddair – defnyddio ‘who’ yn ateb

Rhagenw sy’n rhydd rhag rhyw yw “who” a gall fod yn ddefnyddiol wrth osgoi’r angen am gyfeiriad yn ôl sydd naill ai’n cynnwys rhagenw rhyw-benodol neu’n ailadrodd enw.

 

ENGHRAIFFT—

 

A person who concludes that exercising a power would assist it to comply with those duties must seek to exercise that power.

Yn hytrach na

If a person concludes that the exercise of a power would assist it to comply with those duties he or she must seek to exercise that power.

 

A testator who makes a bequest intending that the beneficiary’s own property be disposed in a particular way must make this condition express. 

Yn hytrach na

If a testator makes a bequest with the intention that the beneficiary dispose of his own property in a particular way, he must make this condition express. 

 

                        A person who has obtained a licence may keep a dangerous animal.

                        Yn hytrach na

                        If a person obtains a licence, he may keep a dangerous animal.

 

A mortgagee who exercises a power to sell mortgaged property may not…

Yn hytrach na

Where a mortgagee exercises a power to sell mortgaged property he may not….

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

 

 

 

 

52                Defnyddio berf yn hytrach nag enw + rhagenw

 

                        ENGHRAIFFT—

If satisfied that an application meets the relevant criteria, the Secretary of State must consent to it.

                        Yn hytrach na

If satisfied that an application meets the relevant criteria, the Secretary of state must give his consent to it.

 

The Commissioner may consent…

Yn hytrach na

The Commissioner may give his consent….

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 39(9))

 

53                Crybwyll y trosedd nid y troseddwr

 

                        ENGHRAIFFT—

 

                        It is an offence to fail to comply with this regulation.

                        Yn hytrach na

A person commits an offence if he or she fails to comply with this regulation.

 

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler paragraff 16(3))

 

54                Defnyddio rhagenwau lluosog ar gyfer enwau unigol

(1)      Mae’n bosibl defnyddio “they” (a’r ffurfiau gramadegol cyfatebol: “them”, “themselves” a “their”) yn rhagenw sy’n niwtral o ran rhyw wrth gyfeirio at enw unigol, ond dadleuol yw’r arfer hwn yn Saesneg.

 

 

ENGHRAIFFT—

 

If a person contravenes this regulation, they commit an offence.

Yn hytrach na

If a person contravenes this regulation, he or she commits an offence.

 

(2)      Mae yna gynseiliau llenyddol i arfer o’r fath pan fydd elfen luosog yn cael ei hawgrymu (e.e. “anyone” neu “a person”), ond mae’n debyg ei bod yn well osgoi’r arfer. 

(3)      Fe allai’r ateb hwn ei gwneud yn anos dibynnu ar rif rhagenw yn y dyfodol i wybod yn at beth yn union y cyfeirir.   Yn yr achos hwn gall fod yn well ailadrodd yr enw:

ENGHRAIFFT—

 

If a person contravenes this regulation, that person commits an offence.

 

(4)      Yn Gymraeg, at enwau lluosog yn unig y gall y rhagenw lluosog cyfatebol ‘hwy’ gyfeirio.  Hyd yn oed os yw’r testun Saesneg yn dweud ‘if a chairman decides to retire they must inform the Assembly’, mae hyn yn golygu bod angen i’r Gymraeg ddefnyddio’r rhagenw gwrywaidd unigol i gyd-fynd â chenedl a rhif ‘cadeirydd’

55                Ymdrin â’r ffurf atblygol “himself”

(1)      Gwelir y gair atblygol “himself” o dro i dro, a gallwch ymdrin ag ef mewn amryw o ffyrdd.

(2)      Mewn rhai cyd-destunau, mae “personally” yn ddewis amgen derbyniol yn lle “himself”.

 

ENGHRAIFFT—

 

Liability will arise even though the owner is not personally guilty of a wrongful act.

Yn hytrach na

Liability will arise even though the owner is guilty of no wrongful act himself.

 

 

(3)      Os yw “himself” yn wrthrych i’r ferf, gall fod angen defnyddio ffurf wahanol.

 

ENGHRAIFFT—

 

Where there has been a breach the innocent party may be entitled to terminate the contract and be released from further performance of obligations under the contract.

Yn hytrach na

Where there has been a breach the innocent party may be entitled to terminate the contract and release himself from further performance of his obligations.

(Does dim cyfieithiad yma gan fod cenedl enwau’r Gymraeg yn golygu nad oes problem o safbwynt bod yn niwtral o ran rhyw: gweler adran 39(9))

Enwau rhyw-benodol

56                Enwau rhyw-benodol yn Saesneg

(1)      Mae cwestiynau anodd yn codi ynghylch pa enwau y dylid barnu eu bod yn rhyw-benodol a pha rai y dylid barnu eu bod yn rhyw-niwtral.

(2)      Yn Saesneg, at ei gilydd, mae angen osgoi geiriau sy’n gorffen â “-man” er mwyn sicrhau drafft sy’n niwtral o ran rhyw (oni bai eich bod yn bwriadu cyfeirio at unigolyn penodol o ryw benodol). 

(3)      Dylid defnyddio ffurf amgen yn lle geiriau fel “chairman”, “deputy chairman”, “workman”, “policeman” etc.  Yn lle “chairman” a “deputy chairman”, mae Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn defnyddio “chair” a “deputy chair”, ond mae’r dewisiadau posibl eraill yn cynnwys “president”, “convenor”, “leading member” a “principal member”.   Gall yr union eiriad ddibynnu ar gyd-destun y deddfiad.

(4)      Bydd angen i ddrafftwyr ffurfio barn ynghylch beth yw dewis rhyw-niwtral derbyniol, gan fod defnyddio “-person” (yn lle “-man”) fel ôl-ddodiad yn gallu bod yn ddadleuol hefyd o dan rai amgylchiadau.

(5)       Gellir barnu bod geiriau Saesneg nad ydynt yn gorffen â “-man”, ond sydd â ffurfiau benywaidd, e.e. “testator”, “actor”, “manager”, fel petaent yn rhyw-niwtral er gwaethaf bodolaeth  y ffurfiau benywaidd (e.e. “testatrix”, “actress” a “manageress”).

(6)      Dylai’r terfyniad “-ess” gael ei osgoi pryd bynnag y bo modd gan ei fod yn aml yn ddifrïol, neu’n cael ei weld felly (er enghraifft, defnyddiwch “actor” nid “actress; “author” nid “authoress”).

57                Enwau rhyw-benodol yn Gymraeg

(1)      Yn yr un modd ag yn Saesneg, mae i rai enwau Cymraeg ffurf sydd fel petai’n rhagdybio mai dyn ac nid menyw fydd yn dal swydd benodol. 

(2)      Yr ôl-ddodiad ‘-man’ sydd i rai o’r enwau mwyaf problemus yn Saesneg yn aml, ac yn Gymraeg mae’r enwau mwyaf problemus yn gorffen ag ‘-wr’ (o’r gair ‘gŵr’), e.e. ‘cyfarwyddwr’, neu yn gyfansoddeiriau sy’n cynnwys ‘dyn’ e.e. ‘dyn tân’.

(3)      Yn Gymraeg, mae gan lawer o’r enwau sy’n cyfeirio at swyddi, rolau, safleoedd etc. ffurfiau gwrywaidd a benywaidd (e.e. ‘athro’ ac ‘athrawes’ ar gyfer ‘teacher’).  Ôl-ddodiad yr enw (neu’r prifair mewn cyfansoddeiriau) sy’n dynodi pa ffurf sy’n dynodi pa ryw. 

(4)      Er bod gan lawer o deitlau swyddi ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, nid yw teitlau swyddi’n rhyw-benodol fel arfer, ac eithrio ‘athro’ ac ‘athrawes’, gan fod y ffurf ‘wrywaidd’ yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer y gwrywaidd a’r benywaidd ran amlaf.  Fel y crybwyllwyd uchod, yn achos ‘athro/athrawes’, gall y lluosog fod yn ddefnyddiol.

 

58                Enwau Cymraeg sy’n gorffen ag ‘-wr’ a ‘-wraig’

(1)      Pan gaiff enw Cymraeg ei ffurfio drwy ychwanegu ôl-ddodiad at enw neu fôn berfol, cenedl ramadegol yr ôl-ddodiad sy’n llywodraethu cenedl ramadegol enw Cymraeg.  Yr ôl-ddodiaid personol mwyaf cyffredin yw ‘-wr’ ac ‘-ydd’ (er bod eraill, megis ‘-yn’, ‘-adur’ ac ‘-or’). Gwrywaidd yw’r rhai sydd newydd gael eu crybwyll, ond gall ôl-ddodiaid cyfatebol gael eu ffurfio sy’n fenywaidd o ran eu cenedl ramadegol, sef ‘-wraig’, ‘-yddes’, ‘-en’, ‘-dures’ ac ‘-ores’.

(2)      Mae enwau sy’n gorffen ag ‘-wr’ yn benodol yn codi cwestiynau ynghylch bod yn niwtral o ran rhyw a hynny am fod ganddyn nhw yn aml ffurf fenywaidd gyfatebol sy’n gorffen â ‘-wraig’ ac am eu bod felly yn cael eu dehongli fel petaent yn cyfeirio at wrywod yn unig.  Ceir rhestr o enghreifftiau yn y tabl a ganlyn.

 

arbenigwr

arbenigwraig

specialist

cyfarwyddwr

cyfarwyddwraig

director (directrix, directress)

cyfreithiwr

cyfreithwraig

lawyer

cynorthwywr

cynorthwywraig

assistant

gweinyddwr

gweinyddwraig

administrator (administratrix)

gweithiwr

gweithwraig

worker

gofalwr

gofalwraig

carer

hyfforddwr

hyfforddwraig

trainer

myfyriwr

myfyrwraig

student

newyddiadurwr

newyddiadurwraig

journalist, reporter

rheolwr

rheolwraig

manager (manageress)

 

(3)      Dyma ble gall dryswch godi.  Mae’r ôl-ddodiaid benywaidd uchod yn cael eu defnyddio’n ddi-wahân i greu enw sy’n cyfeirio’n unswydd at y rhyw fenywaidd, ond nid yw’n dilyn bod y ffurfiau gwrywaidd yn cyfeirio’n unswydd at y rhyw wrywaidd.  Yn hytrach, y gwir amdani yn aml yw mai’r ffurfiau gwrywaidd yw’r ffurfiau sylfaenol, a bod y ffurfiau benywaidd yn amrywiadau arnyn nhw.

59                Enwau Cymraeg â’r ôl-ddodiad ‘-ydd’

(1)      Er mai gwrywaidd o ran eu cenedl ramadegol yw enwau sy’n gorffen ag ‘-ydd’ ac er y gall ffurf fenywaidd gyfatebol gael ei chreu drwy ychwanegu ‘–es’, bernir yn gyffredinol eu bod yn fwy niwtral o ran rhyw[12]

(2)      Mae’n ymddangos bod y rhagdybiaeth yma wedi codi oherwydd er bod ‘gŵr’ yn cyfateb i ‘dyn, ‘dyn priod’ neu ‘oedolyn gwryw’ (a bod ‘gwraig’ yn cyfateb i ‘menyw’, ‘menyw briod, ‘oedolyn benyw’), doedd gan yr ôl-ddodiaid ‘-ydd’ ac ‘-yddes’ ddim statws cysylltiedig fel geiriau annibynnol, ac y bernir felly eu bod yn fwy niwtral.  Ceir rhestr o rai o’r enwau mwyaf cyffredin sydd wedi’u ffurfio ag ‘-ydd’ yn y tabl a ganlyn.

 

cydlynydd

co-ordinator

cyfieithydd

translator

cyfrifydd

accountant

cynhyrchydd

producer

derbynnydd

receptionist; receiver

dylunydd

designer

gohebydd

correspondent; reporter

golygydd

editor

goruchwylydd

supervisor

llyfrgellydd

librarian

peiriannydd

engineer

rhaglennydd

programmer

seicolegydd

psychologist

trefnydd

organizer

ymchwilydd

researcher

ymgynghorydd

consultant

 

(3)      Er nad oes y fath beth ag enw heb genedl yn Gymraeg, cafwyd gwrthwynebiad yn y gorffennol gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal yn erbyn mynegi teitlau swyddi yn Gymraeg  â’r terfyniad gwrywaidd ‘-wr’ heb gynnwys hefyd y ffurf fenywaidd gyfatebol ‘-wraig’, a awgrymodd y dylid defnyddio ‘-ydd’ gan dybio bod hynny’n fwy niwtral. Mae’n ymddangos bod hyn yn dilyn yr ymgais i sicrhau dewisiadau eraill yn lle’r terfyniad ‘-man’ yn Saesneg, ond nid yw rheol sy’n gymwys mewn un iaith o reidrwydd yn gallu cael ei thrawsosod i iaith arall. 

(4)      Ceir anawsterau ynglŷn ag unrhyw ymgais i ragnodi’r ôl-ddodiad ‘-ydd’ yn hytrach na ffurfiau ag ‘-wr’ mewn teitlau swyddi ar y sail bod ‘-wr’ yn ‘fwy gwryw’ nag ‘-ydd’

(5)      Mae’r berthynas rhwng ‘-ŵr’ ac ‘-ydd’ a’r ffurfiau benywaidd a lluosog perthynol mor agos nes eu bod yn gallu ffurfio parau neu setiau cymysg eu morffoleg.  Er enghraifft, mae’r ffurfiau unigol ‘ymwelydd’ a ‘peiriannydd’ yn rhoi’r ffurfiau lluosog ‘ymwelwyr’ a ‘peirianwyr’, a cheir llawr o enghreifftiau tebyg eraill.

(6)      Ceir enghreifftiau hefyd o ychwanegu’r ffurfiau ‘-wr’ ac ‘-ydd’ at yr un bôn, ond lle nad yw’r ddau air yn gydgyfnewidiol, gan fod iddynt ystyron sydd ychydig yn wahanol. 

 

ENGHRAIFFT—

ysgrifennydd sy’n golygu ‘secretary’, ac ‘ysgrifennwr sy’n golygu ‘writer’;

cynghorydd’ sy’n golygu ‘councillor’, a ‘cynghorwr’ sy’n golygu ‘counsellor’;

rheolwr neu ‘rheolwraig sy’n golygu ‘manager’, a ‘rheolydd sy’n golygu ‘control, regulator’, sef dyfais sy’n rheoleiddio pethau. 

 

Mae hyn yn pwysleisio’r pwynt nad yw bob amser yn bosibl chwilio am ddewisiadau amgen ymarferol, sydd i fod yn niwtral o ran rhyw, yn lle’r terfyniad ‘-wr’.

 

(7)      Gall fod ffurfiau benywaidd cyfatebol i enwau sy’n gorffen ag ‘-ydd’ hefyd.

 

            ENGHRAIFFT—

Drwy ychwanegu ‘-es’:

            Cadeirydd                   

            Cadeiryddes               

            Trysorydd                   

            Trysoryddes                

 

(8)      Gall y ffurf fenywaidd fod yn afreolaidd, a defnyddio’r ôl-ddodiad ‘-wraig’:

ENGHRAIFFT—

            Darlithydd                  

            Darlithwraig               

Cyfieithydd                 

Cyfieithwraig              

 

(9)      Gall yr ôl-ddodiad benywaidd ‘-es’ gael ei ychwanegu hefyd at nifer o ôl-ddodiaid enwol gwrywaidd eraill i greu dewisiadau benywaidd.

 

ENGHRAIFFT—

                                                gwrywaidd                              benywaidd

                  -adur                                 cofiadur                                   cofiadures

                  -mon                                  plismon                                   plismones

                  -or                                     actor                                        actores

                  -ych                                   eurych                                                 euryches

 

60                Enwau Cymraeg: defnyddio parau

(1)      Dylai fod yn glir erbyn hyn fod enwau Cymraeg yn aml yn dod mewn parau rhyw-benodol.

(2)      Mae’n ymddangos y gallai fod yn bosibl defnyddio parai o enwau gwrywaidd a benywaidd i ateb cwestiwn iaith ryw-niwtral, ond mae hyn yn achosi problemau ynddo’i hun. 

(3)      Mae cenedl yr enw yn Gymraeg yn arwain at ystyriaethau gramadegol eraill heblaw’r rhaniad rhwng “ef” a “hi”.  Yn bwysicaf oll, gall cenedl enw beri treiglad. 

(4)      Bydd y treiglad yn amrywio yn ôl cenedl yr enw (ac nid yn ôl rhyw’r person y cyfeirir ato).  Byddech yn dweud ‘mae John yn nyrs dda’, lle mae’r ansoddair ‘da’ yn treiglo ar ôl yr enw benywaidd ‘nyrs’.  Does dim ots mai dyn yw’r nyrs o dan sylw.

(5)      Byddai defnyddio parau o enwau gwrywaidd a benywaidd yn golygu bod angen parau o ragenwau gwrywaidd a benywaidd cyfatebol (ef/hi, ganddo ef/ganddi hi) yn ogystal â’r treigladau cyfatebol.  Byddai hynny’n arwain at ddrafftio clogyrnaidd, annaturiol, a dylech osgoi hynny.

(6)      Problem arall wrth ddefnyddio parau yw nad yw bob amser yn bosibl gwneud hynny mewn modd cyson a diamwys a hynny am fod amrywiadau ystyr weithiau rhwng ffurfiau er gwaethaf y berthynas forffolegol rhyngddynt. 

(7)      Er enghraifft, mae ‘ysgrifennydd’ yn golygu ‘secretary’, mae’n wrywaidd o ran cenedl ac yn cael ei ddefnyddio wrth sôn am wrywod a menywod mewn rolau swyddogol gyda chymdeithasau neu adrannau llywodraeth.  Ar y llaw arall, mae’r ffurf fenywaidd gyfatebol ‘ysgrifenyddes’ yn cael ei defnyddio wrth sôn am fenywod yn unig, ac mae’n golygu cynorthwyydd swyddfa. 

(8)      Gan fod ‘ysgrifenyddes’ mor amlwg o ryw-benodol, mae’n well defnyddio teitlau eraill yn Saesneg, megis ‘personal assistant’ er mwyn i derm mwy rhyw-niwtral gael ei ddefnyddio yn Gymraeg, megis ‘cynorthwyydd personol’.

(9)      Hyd yn oed pan nad oes ystyron mor fanwl-gywir â hyn i’r amrywiadau ar y ffurf, mae i’r ffurf fenywaidd gynodiadau yn aml sy’n awgrymu israddoldeb.  Er enghraifft, ‘manager’ yw ystyr ‘rheolwr’, sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer gwrywod a menywod.  Ar y llaw arall, at fenywod yn unig y bydd yr amrywiad benywaidd ‘rheolwraig’ (sy’n cyfateb i ‘manageress’) yn cyfeirio ac i rai siaradwyr mae’n awgrymu statws is[13]

(10)  Mae hyn yn wir am lawer o eiriau sy’n gorffen ag ‘-yddes’, ac mae’r datblygiad sy’n defnyddio’r terfyniadau ‘-wraig/-yddes’ mewn ymdrech i fod yn niwtral o ran rhyw wedi’i feirniadu gan rai am ei fod fel petai’n diraddio proffesiynau penodol.  Mae rhai yn canfod cynodiadau difrïol a rhywiaethol mewn rhai terfyniadau benywaidd Cymraeg yn yr un ffordd ag bydd rhai yn canfod cynodiadau difrïol a rhywiaethol mewn terfyniadau benywaidd Saesneg, megis “authoress”, “poetess”, “usherette” etc. 

(11)  Dylid osgoi defnyddio parau o eiriau fel ‘athro/athrawes’ yn Gymraeg os oes modd.   Gall ffurfiau lluosog gael eu defnyddio pan fo’n briodol os yw hynny o gymorth (cyhyd ag na fyddant yn creu amwysedd).

(12)  Fel arall, os oes modd dewis gair arall nad yw’n codi cynodiadau rhyw mor amlwg, yna y gair hwnnw a ddylai gael ei ddefnyddio.  Er enghraifft, gall ‘pennaeth’ gael ei ddefnyddio yn lle ‘prifathro/prifathrawes’. 

(13)  Fel a wnaed ym Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, gall hyn gael ei ehangu wrth ymdrin yn benodol â ‘pennaeth ysgol’ (sef prifathro neu brifathrawes ysgol) a ‘pennaeth sefydliad’  (sef pennaeth sefydliad addysg uwch).

61                Enwau Cymraeg: geiriau newydd

(1)      Ni all technegau ieithyddol sydd o bosibl yn gweithio mewn Saesneg gael eu trosglwyddo’n gyfan gwbl i’r Gymraeg.  Yn hytrach na dyfeisio terfyniadau benywaidd sydd i fod yn gyfartal drwy ddefnyddio ‘-wraig’, neu derfyniadau sydd i fod yn niwtral drwy ddefnyddio ‘-ydd’, yr ateb ar gyfer teitlau swyddi Cymraeg, mae’n ymddangos, yw bod angen atgyfnerthu’r neges y gall y terfyniadau ‘-wr’ ac ‘-ydd’ (ac yn wir unrhyw deitl swydd sy’n wrywaidd o ran cenedl ramadegol) fod yr un mor gymwys i ddynion a menywod.  Nid yw cenedl ramadegol ynghlwm wrth ryw y person.

(2)      Y polisi yn gyffredinol yw defnyddio termau sydd wedi ennill eu plwyf yn hytrach na bathu termau newydd i ateb yr angen i fod yn niwtral o ran rhyw. 

(3)      Fel rheol, gan ddilyn y safbwynt a geir yng Ngeiriadur yr Academi, ni ddylai’r terfyniad ‘-ydd’ gael ei ddefnyddio oni bai ei fod yn digwydd yn naturiol, a dylai ffurfiau annaturiol fel cyfarwyddwr/wraig gael eu hosgoi hefyd.    Ond nid pob achos sy’n ddu a gwyn, a gall fod mwy nag un posibilrwydd. 

(4)      Mae yna adegau pan nad oes term wedi ennill ei blwyf yn Gymraeg i gyfateb i derm Saesneg, pan fo’r dystiolaeth o blaid term Cymraeg presennol yn wan, neu pan fo enw sy’n gorffen yn ‘-ydd’ yr un mor dderbyniol â ffurf gyfatebol yn ‘-wr’.  O dan yr amgylchiadau hyn, gall term sydd eisoes yn bod gael ei anwybyddu er mwyn defnyddio un gwell, neu gall term hollol newydd gael ei greu.  Mewn sefyllfa o’r fath, dylid rhoi blaenoriaeth i enwau sy’n gorffen ag ‘-ydd’ yn hytrach nag enwau sy’n gorffen ag ‘-wr’.

 

                        ENGHRAIFFT—

 

    Mae’r term ‘mabwysiadwr’ i’w gael, ond gwan yw’r dystiolaeth hanesyddol.  Manteisiwyd ar y cyfle felly i defnyddio’r term ‘mabwysiadydd’.

62                Enwau ag un ffurf ar gyfer y ddwy ryw

Ceir nifer o deitlau swydd yn y Gymraeg sydd ag un ffurf yn unig i’r ddwy ryw.  Mae’r enwau hyn fel arfer (ond nid bob amser) yn wrywaidd eu cenedl ramadegol, ond yn gallu cyfeirio at wrywod neu fenywod.  Yn gyffredinol, nid yw’r geiriau hyn yn codi cwestiynau o ran bod yn rhyw-niwtral, a does dim angen bathu geiriau newydd.

 

                        ENGHRAIFFT—

 

 

            Mecanic (g)                

            Meddyg[14] (g)              

            Nyrs (b)                                  

            Bydwraig (b)              

            Pennaeth(g)               

            Pensaer (g)                 

            Porthor (g)                 

            Saer (g)                      

            Swyddog (g)               

            Tiwtor (g)                   

            Warden (g)                                         

Eithriadau ac anawsterau

63                Diwygio Deddfau sydd eisoes yn bod

(1)      Mae anhawster yn codi wrth ddiwygio Deddfau neu is-ddeddfwriaeth sydd wedi’u drafftio mewn modd nad yw’n niwtral o ran rhyw. 

(2)      Er y gall fod modd defnyddio technegau rhyw-niwtral i eirio diwygiadau i destun darpariaethau a gafodd eu geirio yn wreiddiol mewn termau rhyw-benodol, mae’n eglur y bydd achosion lle na fydd yn bosibl gwneud hynny.  Weithiau bydd angen ailysgrifennu darpariaeth o’r dechrau’n deg er mwyn gwneud diwygiad mân iawn mewn termau rhyw-niwtral, ac fe allai hynny greu problemau ymarferol, yn ogystal â chymylu gwir ddiben y diwygiad.

(3)      Mae angen pwyso a mesur yn ofalus pan fydd diwygiadau’n cael eu gwneud i offerynnau na chawsant eu drafftio mewn termau rhyw-niwtral.  Er enghraifft, os yw’r offeryn sy’n cael ei ddiwygio yn defnyddio “chairman”, bydd angen i’r drafftiwr ddiwygio’r offeryn gwreiddiol fel bod pob cyfeiriad at “chairman” yn cael ei ddisodli gan ddewis arall sy’n niwtral o ran rhyw).  Ond os nad yw’n ymarferol gwneud newidiadau fel hyn drwy’r trwch, ni ddylai’r drafftwyr ddefnyddio “chair” yn y diwygiad, a gadael “chairman” yn y prif offeryn, heb wneud rhywbeth i egluro’r sefyllfa i’r sawl sy’n darllen y testun diwygiedig ar ôl i hwnnw gael ei gydgrynhoi; er enghraifft drwy fewnosod darpariaeth i egluro bod cyfeiriadau at “chair” a “chairman” i’w dehongli fel pe baent yn golygu’r un peth.

64                Deddfiadau rhyw-benodol

Bydd adegau pan fydd drafftio rhyw-benodol yn dal yn briodol (er enghraifft mewn deddfiadau ynghylch priodi neu ysgaru).[15]

65                Y Teyrn

Dylai drafftwyr barhau i gyfeirio mewn termau rhyw-benodol at y teyrn a hynny yn unol â rhyw y teyrn cyfredol.  

66                Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, yr Ysgrifennydd Gwladol a deiliaid swyddi eraill

Ni ddylai cyfeiriadau at Brif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, yr Ysgrifennydd Gwladol a deiliaid swyddi eraill ddilyn rhyw deiliad cyredol y swydd.


 

RHAN 6

technegau drafftio

pennod 1

paragraffu

67                Rhagymadrodd

(1)      Un ffordd amlwg o sicrhau bod brawddeg yn haws ei threulio yw rhannu’r testun yn baragraffau wedi’u rhifo. Ond dylai’r drafftwyr ofalu nad ydynt yn gor-wneud eu paragraffu. Nid yw’r ffaith bod modd troi testun yn baragraffau yn golygu bod rhaid gneud hynny. Weithiau gall fod yn well cael testun di-dor, heb ei rannu’n eitemau ar wahân o gwbl.

(2)       Mae’r bennod hon yn rhoi canllawiau ar baragraffau.[16]

68                Dwy set o baragraffau

(1)      Peidiwch â gosod dwy set neu fwy o baragraffau yn yr un frawddeg (er enghraifft yn yr un adran).

 

ENGHRAIFFT (i’w hosgoi)—

 

Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn –

(a)      nad yw’r awdurdod yn debyg o gyrraedd y targed, neu

(b)      nad yw’r awdurdod yn debyg o gyrraedd y targed mewn amser rhesymol,

caiff Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â’r awdurdod

(c)      diwygio’r targed, neu

(d)      ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi esboniad.

 

(2)      Yn hytrach, rhannwch y gosodiad yn ddau fel bod un gyfres yn y naill baragraff a’r llall.

69                “Brechdanau”

(1)      Brechdan yw’r gystrawen a ganlyn—

ENGHRAIFFT

Os yw arolygydd yn credu’n rhesymol -

(a)      bod mangreoedd sy’n syrthio o fewn y Rhan hon yn an-ffit i bobl fyw ynddynt,

(b)      eu bod er hynny wedi’u meddiannu, ac

(c)      bod bywyd neu iechyd y meddianwyr mewn perygl,

caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon.

 

(2)      Gall y gystrawen hon atal pobl rhag deall, yn enwedig os yw’r prif osodiad wedi’i gadw tan y diwedd (fel yn yr enghraifft uchod). Mae yn aml yn bosibl symud y gosodiad yn y geiriau sydd heb eu hindeintio ar y diwedd fel ei fod yn ymddangos yn y geiriau agoriadol, ac fel arfer bydd y canlyniad yn haws ei ddeall. Yn hytrach na’r testun uchod, fel allech chi ddweud hyn—

Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os yw’r arolygydd yn credu’n rhesymol—

(a)      bod mangreoedd sy’n syrthio o fewn y Rhan hon yn an-ffit i bobl fyw ynddynt,

(b)      eu bod er hynny wedi’u meddiannu, ac

(c)      bod bywyd neu iechyd y meddianwyr mewn perygl.

70                Cysyllteiriau

(1)      Gwnewch yn siŵr ei bod yn glir a yw’r paragraffau i fod i weithredu’n gronnol  ar y cyd â’i gilydd ynteu yn lle ei gilydd fel dewisiadau amgen.

(2)      Ni ddylid cael cymysgedd o gysyllteiriau, hynny yw cysyllteiriau gwahanol ar ddiwedd paragraffau gwahanol yn yr un ddarpariaeth.

Paragraffau cronnol neu amgen

 

(3)      Pan fo darpariaeth yn cael ei gosod ar ffurf paragraffau, gellir bwriadu i’r paragraffau weithredu’n gronnol, neu fel arall gellir bwriadu iddynt weithredu fel dewisiadau amgen. Yn y naill achos neu’r llall, mater i’r drafftiwr yw sicrhau bod y bwriad yn amlwg i’r darllenydd.

(4)      O ran “or” yn Saesneg, mae’r drafftiwr yn wynebu’r broblem ieithyddol y gall “or” fynegi ystyr gynhwysol (hynny yw bod cyfeiriad at A neu B yn golygu A neu B neu’r ddwy) ac ystyr gyferbyniol (hynny yw bod cyfeiriad at A neu B yn golygu A ynteu B ond nid y ddwy) (mae’r sefyllfa yn y Gymraeg yn wahanol -  gweler y cofnod ar “or/neu/ynteu” yn adran 30). Mae Dickerson[17] yn awgrymu hyn: “Observation of legal usage suggests that in most cases “or” is used in the inclusive rather than the exclusive sense”. Gall y dehongliad hwn gael ei ategu, neu ei nacáu, gan y cyd-destun.

 

ENGHRAIFFT

Where an animal is taken into possession, a magistrates’ court may order-

(a)      that specified treatment be administered to the animal, or

(b)      that the animal be sold or destroyed.

 

Nid yw’n ymddangos y dylai’r llys orfod dewis rhwng (a) a (b). Felly mae’n debyg y dylai’r “or” ar ddiwedd (a) gael ei ddarllen yn yr ystyr gynhwysol.

Ar y llaw arall, yn (b), byddai’n hurt pe bai’r llys yn gorchymyn gwerthu’r anifail a’i ddifa, felly mae’n debyg y dylai “or” gael ei ddarllen yn yr ystyr gyferbyniol.

(5)      Gall fod yn demtasiwn hepgor “or” o ddarpariaethau er mwyn osgoi unrhyw awgrym o ystyr gyferbyniol ac efallai egluro’r bwriad yn y geiriau agoriadol. Ond pan fo’n amlwg o’r cyd-destun y byddai’r darpariaethau yn cael eu darllen mewn ystyr gynhwysol, fe all fod yn well o safbwynt eglurder neu gysondeb ar draws y llyfr statudau pe bai arfer gyffredin y Saesneg yn cael ei ddilyn, a defnyddio “or”.

(6)      Weithiau bydd yn ddymunol ei gwneud yn glir bod y ddau ddewis amgen yn opsiynau derbyniol. Er enghraifft, gallai darpariaeth yn caniatáu gosod “a fine or a term of imprisonment” gael ei dehongli o blaid diffynnydd fel pe bai’n golygu na allai’r ddwy gosb gael eu rhoi gyda’i gilydd. Felly, os dymunir caniatáu ddwy gosb gyda’i gilydd, mae’n debyg ei bod yn well dweud hynny.

(7)      Gall problemau tebyg godi ynglŷn ag “and”. Pe bai’r llys, yn yr enghraifft uchod, yn cael y pŵer i orchymyn rhoi triniaeth i’r anifail ac i’r anifail gael ei werthu neu ei ddifa, a fyddai’n rhaid i’r llys wneud y ddau? Unwaith eto, fodd bynnag, mae’n debyg y bydd y cyd-destun yn rhoi’r ateb.

Defnyddio un cysylltair

 

(8)      Yn aml bydd yn ddigon gosod y cysylltair priodol ar ddiwedd y paragraff olaf ond un a dibynnu ar yr ymhlygiad (yn niffyg dim byd i ddangos yn wahanol) fod pob un o’r paragraffau blaenorol wedi’i wahanu gan yr un cysylltair hefyd.

(9)      Er hynny, os nad yw’r “and” neu’r “or” yn ymddangos ond ar ddiwedd y paragraff olaf ond un, rhaid i’r darllenydd aros tan hynny cyn gwybod ai paragraffau cronnol ynteu rhai cyferbyniol sydd yno. Efallai na fydd hyn yn fuddiol gyda rhestr hir o baragraffau.

(10)  Gallwch ddweud “and” neu “or” ar ddiwedd pob paragraff wrth gwrs, ond mae hynny’n gallu bod yn drwsgl.

 

Dim cysylltair

 

(11)  Mae hefyd yn bosibl osgoi un cysylltair drwy egluro yn y geiriau agoriadol ai paragraffau cronnol ynteu paragraffau cyferbyniol sy’n dilyn.

 

ENGHRAIFFT

 

A person who applies for a licence must send with the application a copy of [all] [at least one] of the following documents—-

(a)      the person’s birth certificate;

(b)      the person’s passport;

(c)      the person’s driving licence.

 

Rhaid i berson sy’n ceisio am drwydded anfon gyda’r cais gopi [o’r cyfan] [o un o leiaf] o’r dogfennau a ganlyn—

(a)      tystysgrif eni’r person;

(b)      pasbort y person;

(c)      trwydded yrru’r person.

 

(12)  Gall hyn fod yn llawdrwm mewn gosodiad syml, pan allai “and” neu “or” fod yn well.

(13)  Yn achos penawdau vires penodol, mae’r cysylltair yn aml yn cael ei hepgor. Arfer cyffredin hefyd yw peidio ag ehangu’r geiriau agoriadol i gyfeirio at “unrhyw rai neu’r cyfan o’r canlynol yn gymwys”, gan ddibynnu yn hytrach ar y cyd-destun i roi’r ateb cywir.

 

ENGHRAIFFT

 

The Welsh Ministers may by order make provision about—

(a)      the form of an application;

(b)      the procedure for making an application;

(c)      the fee to be paid by an applicant.

 

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth ynghych y canlynol—

(a)      ffurf cais;

(b)      gweithdrefn gwneud cais;

(c)      y ffi sydd i’w thalu gan geisydd.

 

Mae’n ymddangos yn yr enghraifft hon ei bod yn ddigon clir y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch unrhyw rai o’r pethau a grybwyllir neu ynghylch y cyfan ohonynt.

71                Atalnodi

(1)      Yn achos rhestr syml o baragraffau sy’n cael eu cysylltu gan gysylltair, gellir defnyddio coma neu hanner colon.

(2)      Os yw’r paragraffau’n cael eu dilyn gan destun heb ei indeintio a hwnnw i bob pwrpas yn parhau’r gosodiad a gafwyd yn y testun cyn y paragraffau, y coma a ddylai gael ei ddefnyddio ac nid yr hanner colon (gweler yr enghraifft o “frechdan” uchod).

(3)      Gall hanner colon fod yn fwy priodol na choma pan nad oes cysylltair (hynny yw pan fo’r paragraffau i bob pwrpas yn nodi materion nad oes perthynas benodol rhyngddynt a’i gilydd – gweler yr enghreifftiau uchod).

72                Diddymu a diwygio

(1)      Os ydych yn diddymu paragraff sy’n gorffen â chysylltair, mae angen bod yn glir a ydych yn diddymu’r cysylltair neu beidio.

(2)      Mewn achosion lle na fyddai tynged y cysylltair yn ddigon clir fel arall, eglurwch y sefyllfa drwy ychwanegu geiriau megis “(ynghyd â’r “a” sy’n ei ddilyn)” neu “(ond nid y “neu” sy’n ei ddilyn)”.

73                Paragraffau heb rifau (rhestrau)

Does dim angen i baragraffau gael rhifau neu lythrennau. Weithiau gall fod yn ddefnyddiol dangos rhestr o bethau ar ffurf paragraffau heb rifau na llythrennau, yn enwedig os nad yw’r rhestr yn rhy hir ac os yw’r cofnodion yn gymharol fyr. Gall hyn fod yn syniad da hefyd os yw’r rhestr yn debyg o gael ei diwygio’n aml.

 

 

ENGHRAIFFT

In this section “award for bravery” means -

the Victoria Cross,

the George Cross,

the Albert Medal,

the Edward Medal, [etc.][18]


pennod 2

diffiniadau

74                Mathau o ddiffiniad

(1)      Ceir pedwar math o ddiffiniad yn fras

(a)      Diffiniadau o gysyniadau pwysig na all y darllenydd ddeall yr hyn sy’n dilyn hebddynt.

ENGHRAIFFT

Yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006, yr hyn a olygir wrth “animal” (adran 1) a “protected animal” (adran 2).

(b)       Diffiniadau a fabwysiedir er hwylustod wrth ddrafftio.

ENGHRAIFFT

Yn y Ddeddf hon, ystyr “Deddf 2002” yw Deddf Menter 2002.

Dylid defnyddio cyn lleied â phosibl o ddiffiniadau o’r math hwn. Maent yn debyg o fod yn llai cyfleus i’r darllenydd nag i’r drafftiwr.

(c)      Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion a fydd yn cael eu deall yn gyffredinol, ond lle mae agen mesur o sicrwydd neu o eglurhad.

ENGHREIFFTIAU

Yn y Ddeddf hon, ystyr “plentyn” yw person o dan 18 oed.

Yn y Ddeddf hon, mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth.

(d)       Diffiniadau sydd, er hwylustod, yn gwneud mân addasiad i’r hyn y byddai gair neu ymadrodd yn ei olygu fel arall.

ENGHRAIFFT

Yn y Ddeddf hon, mae “cyflogaeth” yn cynnwys hunan-gyflogaeth.

Yn achlysurol yn unig y dylai’r math hwn o ddiffiniad gael ei ddefnyddio hefyd.

75                Ble i osod diffiniadau - Biliau

(1)      Os unwaith yn unig y defnyddir y term sy’n cael ei ddiffinio, dylai’r diffiniad ymddangos yn yr un ddarpariaeth (er enghraifft yn yr un adran).

(2)      Os yw’r term a ddiffinnir yn cael ei ddefnyddio fwy nag unwaith—

(a)      dylai diffiniad o’r math cyntaf a’r ail fath uchod gael eu gosod ar y dechrau fel rheol, gan na fydd y darllenydd yn deall yr hyn sy’n cael ei ddweud fel arall. Gan hynny, dylai ymddangos naill ai yn y lle cyntaf y gwelir y term diffiniedig neu, os yw’n fwy cyfleus, mewn darpariaeth ragarweiniol ar ddiffiniadau.

(b)      gall diffiniad o’r trydydd math uchod gael ei adael fel arfer tan y diwedd;

(c)      gall diffiniad o’r pedwerydd math uchod hefyd gael ei adael tan y diwedd fel arfer, oni bai bod yna berygl y câi’r darllenydd ei gamarwain yn ddifrifol.

(d)      dylai diffiniadau sy’n cael eu rhoi ar y dechrau gael eu mynegeio er mwyn i’r darllenydd weld mewn un lle a yw’r term wedi’i ddiffinio neu beidio. Nid yw hyn yn gymwys os unwaith yn unig y defnyddir y term diffiniedig.

(3)      Mae adran ddehongli draddodiadol felly yn cynnwys—

(a)      cofnodion wedi’u mynegeio ar gyfer diffiniadau sydd eisoes wedi’u rhoi (er enghraifft “Yn y Rhan hon, mae i x yr ystyr a roddwyd yn adran 1”), a

(b)      mân ddiffiniadau o’r trydydd a’r pedwerydd math uchod.

(4)      Osgowch roi diffiniad ar gyfer adran sydd i ddod: “Yn yr adran hon a’r adran nesaf, ystyr x yw y”.  Efallai na fydd darllenydd yr adran nesaf yn gweld y diffiniad. Os oes angen hynny, ailadroddwch y diffiniad.

76                Ble i osod diffiniadau – offerynnau statudol

(1)      Yr arfer sydd wedi hen ennill ei blwyf ynglŷn ag offerynnau statudol yw bod y ddarpariaeth gyffredinol ar ddiffiniadau yn ymddangos yn agos i ddechrau’r offeryn yn hytrach nag ar y diwedd fel a geir yn achos Deddfau.

(2)      Mae’n ymddangos bod y ddwy agwedd wahanol mewn deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig wedi codi’n bennaf yn sgil y weithdrefn seneddol wrth ystyried gwelliannau i filiau. Ceir safbwyntiau gwahanol ar briod ragoriaethau gosod y darpariaethau dehongli cyffredinol ar y dechrau neu ar y diwedd. Mae rhai o’r farn bod rhestru pob diffiniad, ni waeth pa mor ddibwys y bo, ar y dechrau  yn tynnu sylw oddi ar y brif stori. Mae eraill yn dadlau bod hyn yn ffordd fwy effeithlon i’r darllenwyr ddod o hyd i’r diffiniadau.[19] Bid a fo am ragoriaethau’r gwahanol ddulliau, bydd y mwyafrif o ddefnyddwyr deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn gyfarwydd â lleoliad arferol y darpariaethau dehongli cyffredinol mewn deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ac felly dylai’r arfer o osod y darpariaethau dehongli cyffredinol ar ddechrau offerynnau statudol barhau.

(3)      Er bod yr holl dermau diffiniedig i’w gweld mewn rhestr tua’r dechrau, mae’n dal yn bosibl y bydd drafftwyr o’r farn, wrth ddrafftio, mai cyflwyno a diffinio cysyniad mewn erthygl neu reoliad o sylwedd yw’r peth hawsaf. Gallai rheoliad Y gyflwyno  a diffinio’r cysyniad ac os yw’r cysyniad yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn y rheoliadau, byddai’r ddarpariaeth ddehongli yn dweud “X has the meaning given in regulation Y”/ “mae i X yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad Y”.  Hefyd, pan fo diffiniad yn hir neu’n gymhleth fe allai’r ddarpariaeth ddehongli unwaith eto groesgyfeirio at ddarpariaeth sy’n dod yn nes ymlaen e.e. “X has the meaning given in regulation Y”/ “mae i X yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad Y”.

(4)      Pan fo term yn cael ei ddefnyddio unwaith yn unig, dylai’r diffiniad ymddangos yn yr un ddarpariaeth (e.e. yr un rheoliad).

77                Dewis label

(1)      Osgowch labeli camarweiniol (ac, ar y llaw arall, peidiwch â rhoi ystyr i derm diffiniedig na fyddai’r darllenydd yn ei disgwyl).

ENGHRAIFFT (i’w hosgoi)

Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at olion bysedd yn cynnwys olion traed.

(2)      Yn ddelfrydol, dylai’r term diffiniedig ei hun roi awgrym o’i ystyr i’r darllenydd.

ENGHRAIFFT

Byddai “PACE” neu “Deddf 1984” yn well label ar Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 na dweud “y brif Ddeddf”.

(3)      Yn yr un modd, dylai termau di-liw fel “y person perthnasol” gael eu disodli os oes modd gan rywbeth sy’n cynnig mwy o help.

(4)      Gall defnyddio’r un label i ddynodi pethau gwahanol yn yr un darn o ddeddfwriaeth beri dryswch.

78                Darpariaeth weithredol mewn diffiniadau

Bernir mai arfer gwael yw cynnwys deunyddiau gweithredol mewn diffiniad. Er enghraifft, gellir caniatáu dweud bod “rheoliadau” yn golygu rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ond byddai cynnwys gweithdrefn y Cynulliad yn y diffiniad yn ormod.

79                Diffiniadau sy’n cynnwys croesgyfeiriadau

(1)      Os bwriedir i’r ddeddfwriaeth ddefnyddio term sydd eisoes wedi’i ddiffinio yn y modd a ddymunir mewn deddfwriaeth arall, gall fod yn ddefnyddiol benthyca’r diffiniad o’r ddeddfwriaeth arall honno.

(2)      Mae o leiaf ddwy ffordd i wneud hyn

ENGHREIFFTIAU—

In this Act, “health care” has the same meaning as in the Health Act 2006 (see section 98).

In this Act, “health care” has the meaning given by section 98 of the Health Act 2006.

(3)      Efallai mai’r dull cyntaf fydd yr unig un sy’n bosibl pan nad yw ystyr y gair neu’r ymadrodd yn y Ddeddf gynharach wedi’i rhoi mewn un lle ond bod rhaid ei ddehongli ar sail nifer o ddarpariaethau gwahanol. Gallai’r dull hwn fod yn well hefyd os yw’r gyfraith achosion wedi ymhelaethu ar y diffiniad a’ch bod chithau am dynnu sylw at y gyfraith achosion honno.

(4)      Mewn achosion eraill, gall yr ail ffurf fod yn well am ei bod yn fyrrach. Ond ystyriwch wedyn a fyddai’n well byth copïo’r diffiniad.

(5)      Os yw testun Cymraeg deddfwriaeth yn croesgyfeirio at ddiffiniad sydd i’w weld yn nhestun deddfwriaeth uniaith Saesneg, y ffordd i wneud hyn yw cyfeirio at y diffiniad Saesneg yn y testun Cymraeg.

ENGHRAIFFT—

Yn y Ddeddf hon, mae i “gofal iechyd” yr un ystyr â “health care” yn Neddf Iechyd 2006 (gweler adran 98).

80                Rhestrau o ddiffiniadau

(1)      Mewn rhai achosion, gall fod yn synhwyrol rhestru diffiniadau yn nhrefn y cysyniadau (e.e. pan fo pob diffiniad yn adeiladu ar yr un blaenorol).

(2)      Ond yn nhrefn yr wyddor y dylai’r diffiniadau gael eu rhestru ran amlaf. Trefnir y diffiniadau Saesneg yn ôl trefn yr wyddor Saesneg a threfnir y diffiniadau Cymraeg yn ôl trefn yr wyddor Gymraeg.  Yn y diffiniadau Cymraeg, mae’r fannod (“y” neu “yr”) yn cael ei hanwybyddu ond mae arddodiaid yn cyfrif.  Diffiniadau sy’n dechrau â rhifau (e.e. yn Saesneg “the 2002 Act” means the Enterprise Act 2002”) a ddylai ymddangos gyntaf a hynny yn nhrefn y rhifau. ‘Ystyr “Deddf 2002” yw Deddf Menter 2002’ fyddai’r diffiniad Cymraeg cyfatebol, ac o dan ‘d’ y dylai gael ei restru felly.

(3)      Mewn rhestr o ddiffiniadau, dylai pob cofnod orffen â hanner colon. Ni ddylid defnyddio cysylltair.

(4)      Dylai’r term diffiniedig yn fersiwn Saesneg y testun gynnwys y term diffiniedig Cymraeg hefyd mewn print italig fel hyn—

“local authority” (“awdurdod lleol”) means…..

(5)      Yn yr un modd, dylai’r term diffiniedig yn y fersiwn Cymraeg gynnwys y Saesneg wrth ei ochr mewn print italig. Y rheswm am hyn yw hwyluso cymhariaeth rhwng y fersiynau o’r testun yn y ddwy iaith. Mae’r diffiniadau’n debyg o ymddangos mewn trefn wahanol yn y ddwy iaith.

(6)      Ni ddylid gwneud hyn yn achos diffiniad unigol nac yn achos rhestrau o ddiffiniadau sydd heb eu gosod yn nhrefn yr wyddor.

81                Pwyntiau technegol eraill

(1)      Nid yw “oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall” / “unless the context otherwise requires”  yn arbennig o ddefnyddiol. Peidiwch â’i ddefnyddio o gwbl os nad oes achos lle mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall: mewn achos o’r fath gall fod yn well dweud beth yw’r ystyr yn y cyd-destun hwnnw.

(2)      Mae rhai awduron yn erbyn defnyddio diffiniad er mwyn defnyddio term sy’n cael ei ddefnyddio mewn diffiniad arall yn unig, oni bai mai dyna’r unig ffordd i sicrhau bod y diffiniad arall yn hydrin.

(3)      Dylai fod yn glir ym mha ran o’r ddeddfwriaeth y bydd y diffiniad yn gymwys: felly, defnyddiwch “yn y Ddeddf hon”/ “in this Act”, “yn yr adran hon” / “in this section” ac ati oni bai nad oes dim amheuaeth yn bosibl.

(4)      Ran amlaf, nid yw’n amlwg bod unrhyw fantais benodol i’w chael o ddweud “at ddibenion y Ddeddf hon, ystyr x yw y” “for the purposes of this Act, x means y” yn hytrach nag “Yn y Ddeddf hon, ystyr x yw y” / “In this Act, x means y”.

82                Mynegeion

Erbyn hyn mae llawer o Ddeddfau’n cynnwys mynegai o’r ymadroddion sydd wedi’u diffinio. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol os oes nifer fawr o ddiffiniadau yn y Ddeddf.


pennod 3

croesgyfeirio

83                Defnyddio croesgyfeiriadau

(1)      Gall croesgyfeiriadau fod yn waith arbennig o anodd i’r darllenydd, felly mae’n fuddiol defnyddio cyn lleied â phosibl arnynt. Mae modd gwneud hyn weithiau drwy ad-drefnu’r deunyddiau.

(2)       At ei gilydd, mae’n ddefnyddiol cyfeirio at reol neu osodiad o sylwedd, yn hytrach na’r ddarpariaeth statudol sy’n eu cynnwys (nad yw’n debyg o fod o ddiddordeb i’r darllenwyr).

ENGHRAIFFT

Bwriwch fod is-adran (1) yn dweud—

(1) Rhaid i gwmni basio penderfyniad cyn [gwneud rhywbeth].

(1) A company must pass a resolution before [doing something].

 

a bod angen eithriad ar gyfer cwmnïau bach.

Fe allai’r ddarpariaeth ddweud

(2) Nid yw is-adran (1) yn gymwys yn achos cwmni bach.

(2)  Subsection (1) does not apply in the case of a small company.

 

Ond yn lle dweud wrth y darllenwyr am “is-adran (1)”, gallai fod yn fwy defnyddiol dweud—

(2) Nid oes angen penderfyniad yn achos cwmni bach.

(2) No resolution is required in the case of a small company.

 

(3)      Os oes gwir angen croesgyfeiriad, efallai bod modd sicrhau ei fod yn haws i’r darllenydd dwy ychwanegu geiriau sy’n disgrifio effaith y ddarpariaeth y cyfeirir ati.

84                Disgrifiadau mewn cromfachau

(1)      Yn gyffredinol bydd yn fuddiol rhoi disgrifiad mewn cromfachau o ddarpariaeth y cyfeirir ati. Ond bydd angen i’r drafftiwr ystyried pa mor ddefnyddiol yw’r geiriau disgrifio o’u cymharu ag anfantais torri ar draws llif y testun. Mae llai o angen rhoi disgrifiad mewn cromfachau groesgyfeiriad at ddarpariaeth yn yr un Bil.

(2)      Disgrifiad ac nid dyfyniad yw’r disgrifiad mewn cromfachau, sef pennawd yr adran neu’r Atodlen y cyfeirir ati yn aml, er nad yw hynny’n angenrheidiol. Er enghraifft, gall y pennawd fod wedi’i ddyfeisio yng nghyd-destun penawdau eraill y Ddeddf o dan sylw, ond heb fod yn arbennig o ddefnyddiol ar ei ben ei hun.

(3)      Dylid egluro a yw’r disgrifiad mewn cromfachau yn ymwneud ag is-adran benodol neu â rhan benodol arall o’r testun, neu â’r adran yn gyffredinol. Os yw’n ymwneud â’r adran yn gyffredinol, gall ffurf debyg i’r canlynol fod yn ddefnyddiol:

ENGHRAIFFT

Yn adran 1 (disgrifiad o adran 1), yn is-adran (1)…

In section 1 (description of section 1), in subsection (1)...

yn lle

Yn adran 1(1) (disgrifiad o adran 1)…

In section 1(1) (description of section 1).....

85                Croesgyfeiriadau

(1)      Os dywedir bod rhywbeth “yn ddarostyngedig i” / “subject to” rhywbeth arall, mae’n bosibl na fydd yn hawdd deall ar unwaith y berthynas rhyngddynt.  Yn benodol, gall hyn fod yn wir os ceir “yn ddarostyngedig i” / “subject to” ar ddechrau’r frawddeg.  Yn aml byddai’n well cael trefn arall, er enghraifft ychwanegu gosodiad ar y diwedd, megis “ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran X” / “but this is subject to section X”. 

(2)      Mae’n bosibl hefyd y bydd modd defnyddio ymadrodd arall: er enghraifft, gallai “ond gweler adran X” “but see section X”  fod yn ddigon, neu gall fod modd datgan yn grymn i ba achos y mae rheol arall yn gymwys drwy ddweud (er enghraifft) “ac eithrio” “except” neu “oni bai” “unless” “ (fel a geir yn “Oni bai bod y person dan sylw o dan 30 oed” “Unless the person concerned is under 30”.).

(3)      Bydd croesgyfeiriad cyffredinol megis “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddfau’r Dreth Gorfforaeth” “Subject to the provisions of the Corporation Tax Acts”  (adran 7(2) ICTA 1988) yn ddiystyr i bawb ond y darllenydd mwyaf arbenigol.  Mewn achosion o’r fath, os nad oes modd osgoi’r croesgyfeiriad, ceisiwch gynnwys rhestr o ble mae’r ddarpariaeth berthnasol arall wedi’i gwneud.


pennod 4

geiriau sy’n cyflwyno atodlenni

86                Yr angen am eiriau cyflwyno

(1)      Mae’r bennod hon yn ymwneud â’r geiriau a ddefnyddir i gyflwyno Atodlen sy’n cynnwys gosodiadau deddfwriaethol sy’n sefyll ohonynt eu hunain (er enghraifft, Atodlen o ddiwygiadau i Ddeddfau eraill).

(2)      Nid yw’r bennod yn ymwneud, felly, â’r canlynol

·         achosion lle mae’r Atodlen yn barhad o osodiad deddfwriaethol yng nghorff y Bil, megis rhestr neu dabl (un enghraifft amlwg yw Atodlen o ddiddymiadau, nad yw’n ddim mwy na rhestr o ddeddfiadau y cyfeirir atynt yn yr adran sy’n rhoi eu heffaith i’r diddymiadau); nac

·         achosion lle nad yw’r Atodlen yn rhan o osodiad deddfwriaethol o gwbl, gan gynnig gwybodaeth yn unig (e.e. mynegai neu destun cytuniad).

(3)      Pan fo darn o ddeddfwriaeth yn cynnwys Atodlen sy’n sefyll ohoni ei hun, yr arfer bob tro yw ei chyflwyno yn un o'r adrannau, yr erthyglau neu’r rheoliadau yn y ddogfen (naill ai’r adran y mae’n ymwneud agosaf â hi neu, os nad yw’n ymwneud ag adran arall, adran newydd).

(4)      Swyddogaeth y geiriau sy’n cyflwyno Atodlen sy’n sefyll ohoni ei hun yw cyfeirio at fodolaeth yr Atodlen a rhoi awgrym o gynnwys yr Atodlen.

87                Ffurfiau posibl

(1)      Un fformwla gyffredin sy’n cael ei defnyddio i gyflwyno Atodlen yw dweud rhywbeth fel hyn

Mae Atodlen 3 ([disgrifiad cryno o gynnwys yr Atodlen]) yn cael effaith.

Schedule 3 ([brief description of Schedule contents]) has effect.

 

(2)      Mae’r fformwla hon yn sicr yn cyflawni’r swyddogaethau uchod. Er hynny, i fod yn fanwl does dim angen dweud bod yr Atodlen yn “cael effaith”. Mae iddi effaith p’un a fydd y ddarpariaeth yn dweud hynny neu beidio.

(3)      Ceir ffyrdd eraill i gyflwyno Atodlen sy’n cyflawni’r swyddogaethau uchod yr un mor dda.

ENGHREIFFTIAU

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach am Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd....

Schedule 1 makes further provision about the Senior President of Tribunals....

 

Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau Atodlen 16 i Ddeddf 1999 (cynllun teithio am ddim yn Llundain)

Schedule 1 contains amendments of Schedule 16 to the 1999 Act (the London free travel scheme)

 

Mae Atodlen 5 yn diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i ddarparu am wneud cynlluniau lleihau gwastraff.

Schedule 5 amends the Environmental Protection Act 1990 to provide for the making of waste reduction schemes.

 

(4)      Techneg arall a ddefnyddiwyd yn ddiweddar, ac sy’n glir iawn yn cyflawni swyddogaeth y geiriau  cyflwyno fel rhyw fath o arwydd ffordd, yw defnyddio fformwla “gweler”.

ENGHRAIFFT

Am ddarpariaeth am newidiadau yn rhanbarthau etholiadol y Cynulliad a dyraniad seddau i’r rhanbarthau hynny gweler Atodlen 1 (adran 2(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006)

For provision about alterations in the Assembly electoral regions and in the allocation of seats to those regions see Schedule 1 (section 2(5) of the Government of Wales Act 2006).

 

(5)      Mae’r holl dechnegau hyn, a ffurfeiriau eraill sy’n cyflawni’r swyddogaethau a grybwyllwyd uchod, yn dderbyniol.

(6)      Mae’n bwysig sicrhau bod y disgrifiad o’r Atodlen yn fanwl-gywir a’i fod yn ymdrin â phopeth sydd yn yr Atodlen.


pennod 5

strwythurau gwahanol i gyfleu’r neges

88                Tablau

Mae tabl yn aml yn ffordd gymen a chlir i nodi nifer o achosion ynghyd â’r rheol sy’n gymwys i bob un: gweler, er enghraifft, adran 9 o Fesur Teithio Dysgwyr (Cymru) 2008:

9        Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant

 

(1)   Mae'r adran hon yn gymwys os gwneir trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 mewn cysylltiad â dysgwyr o fath a ddisgrifir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl a ganlyn.

(2)   Rhaid gwneud trefniadau hefyd yn unol â'r adrannau hynny mewn cysylltiad â'r dysgwyr o fath a ddisgrifir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl.

(3)   Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) beidio â bod yn llai ffafriol na'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

 

  TABL

Colofn 1

Colofn 2

Plant o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

 

Plant yr un oed sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

 

Dysgwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn ysgolion a gynhelir.

Dysgwyr yr un oed sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn mannau perthnasol eraill.

 

Dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

Dysgwyr yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

 

Dysgwyr a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

 

Dysgwyr yr un oed a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

 

Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

Plant yr un oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

 

9          Learner travel arrangements not to favour certain types of education or training

(1)      This section applies if arrangements under section 3, 4, or 6 are made in respect of learners of a description set out in an entry in column 1 of the following table.

(2)      Arrangements must also be made in accordance with those sections in respect of the learners of the description set out in the corresponding entry in column 2 of the table.

(3)      The arrangements referred to in subsection (2) must be no less favourable than the arrangements referred to in subsection (1).

 

  TABLE

Column 1

Column 2

Children of compulsory school age receiving education or training at maintained schools.

Children of the same age receiving education or training at other relevant places.

Learners over compulsory school age receiving full-time education or training at maintained schools.

Learners of the same age receiving full-time education or training at other relevant places.

Learners with learning difficulties receiving education or training at maintained schools.

Learners of the same age with learning difficulties receiving education or training at other relevant places.

Learners who have a disability receiving education or training at maintained schools.

Learners of the same age who have a disability receiving education or training at other relevant places.

Children looked after by a local authority receiving education or training at maintained schools.         

Children of the same age who are looked after by a local authority receiving education or training at other relevant places.”

 

 

 

89                Fformwlâu

(1)      Mae’r rhain yn gwbl dderbyniol o’u defnyddio mewn modd priodol. Hwyrach mai fformwla fydd y ffordd fwyaf cymen i fynegi perthynas rhwng amrywiol symiau; hwyrach mai mynegi’r un peth mewn geiriau fydd y ffordd waethaf i’w fynegi.

 

ENGHRAIFFT

 

Ceir enghraifft o fformwla yn adran 998(3) o Ddeddf Treth Incwm 2007 (ystyr “grosio”)—

 

“(3)        Gellir hefyd fynegi’r swm wedi ei grosio fel a ganlyn-

                          R

              GA = NA +(NAx-------)

                                      100 – R

ystyr

              GA yw’r swm wedi ei grosio,

              NA yw’r swm net, ac

R yw graddfa canran y dreth drwy gyfeirio at y swm net sydd i’w grosio.”

 

“(3)        The grossed up amount may also be expressed as-

 

                                      R

              GA = NA +(NAx-------)

                                      100 – R

 

  where

              GA is the grossed up amount,

              NA is the net amount, and

  R is the percentage rate of tax by reference to which the net amount is to be grossed up.”

 

(2)      Er hynny, weithiau gall dilyniant o gyfarwyddiadau ysgrifenedig fod yn fwy hwylus na fformwla: gweler, er enghraifft, y “datganiad dull” yn adran 90 o Ddeddf Treth Incwm 2007.  Ac os yw’r gosodiad yn un syml iawn (er enghraifft cyfanswm dau swm) gall defnyddio fformwla beri iddo edrych yn fwy cymhleth na dweud yr un peth mewn geiriau.

(3)      Weithiau bydd yr hyn sy’n fwyaf hwylus yn dibynnu ar y darllenydd: i gyfrifydd neu actwari sy’n ymdrin â’r ffigurau eu hunain efallai mai fformwla fydd fwyaf defnyddiol, ond i ddarllenydd nad oes arno angen ond disgrifiad o’r hyn sy’n digwydd, efallai mai geiriau fydd fwyaf defnyddiol.  Gall y ddarpar gynulleidfa ddylanwadu ar y dull a ddefnyddir.

90                Datganiadau dull

Hwyrach mai “datganiad dull” fydd y ffordd fwyaf cymen i nodi’r gwahanol gamau mewn proses.  Un enghraifft yw adran 91 o Ddeddf Treth Incwm 2007:

 

“91      How relief works

This section explains how the deductions are to be made.

The amount of the relievable loss to be deducted at any step is limited in accordance with section 25(4) and (5).

Step 1

Deduct the relievable loss from the profits of the trade of the final tax year.

Step 2

Deduct any part of the relievable loss not deducted at Step 1 from the profits of the trade of the previous tax year.

Step 3

Deduct any part of the reliable loss not deducted at Step 1 or 2 from the profits of the trade of the tax year before the previous one.

Step 4

Deduct any part of the relievable loss not deducted at Step 1, 2 or 3 from the profits of the trade of the tax year before that one.

Other claims

If the relievable loss has not been deducted in full at Steps 1 to 4, the person may use the part not so deducted in giving effect to any other relief under this Chapter (depending on the terms of the relief).”

 

 

 

pennod 6

darpariaethau trosolygu

91                Rhagarweiniad

(1)      At ei gilydd, crynodeb byr o gynnwys Deddf, Rhan, Pennod, grŵp o adrannau (neu erthyglau neu reoliadau) neu Atodlen yw “trosolwg”. Gall gynnwys hefyd gyfeiriadau at ddarpariaethau perthnasol eraill. Diben y trosolwg yw helpu’r darllenydd i lywio drwy ddeunyddiau deddfwriaethol.

(2)      Yn gyffredinol, ni fydd ei effaith weithredol ei hun i drosolwg. Gellir cyferbynnu trosolwg â chymal diben y bwriedir iddo effeithio ar ddehongli darpariaeth arall.

(3)      Mae trosolygon wedi’u defnyddio’n helaeth yn y ddeddfwriaeth ar Ailysgrifennu’r Gyfraith ar Drethi. Mae’n dod yn fwy cyffredin eu defnyddio mewn deddfwriaeth arall.[20]

92                Trosolygon Deddfau, Gorchmynion neu Reoliadau cyfan

(1)      Mae adran 1 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 yn enghraifft o drosolwg ar Ddeddf gyfan. Gellir gofyn beth mae trosolwg fel hyn yn ei ychwanegu at y rhestr cynnwys. Ceir tair prif ddadl efallai o’i blaid.

(a)      Mewn Deddf fawr gall y trefniant ei hun redeg i lawer o dudalennau (er enghraifft, 63 o dudalennau yn Neddf Treth Gorfforaeth 2009). Gall hyn ei gwneud yn anodd i’r darllenydd gael syniad clir o gynnwys cyffredinol y Ddeddf. Gall trosolwg gynnig cip mwy cryno ar y Ddeddf i’r darllenydd (ychydig yn fwy nag un tudalen o destun yn Neddf Corfforaeth 2009).

(b)      Y cyfan y gall y rhestr cynnwys ei wneud yw creu rhestr o benawdau Rhannau, Penodau, croes-benawdau ac enwau cymalau. Gall trosolwg wneud mwy, drwy amlygu’r prif themâu y tu ôl i grŵp o Rannau a’r berthynas rhwng y Rhannau hynny.[21]

(c)      Os oes angen hynny, gall trosolwg esbonio sut mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ffitio yn nhirlun y ddeddfwriaeth (er enghraifft, drwy gynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol arall).

(2)      Mewn Deddfau, gorchmynion neu reoliadau mawr iawn y mae trosolwg ar y darn cyfan o ddeddfwriaeth yn debyg o fod yn fwyaf defnyddiol, lle na all y darllenydd gael gafael yn hawdd ar rychwant y ddeddfwriaeth ar sail y trefniant neu, yn achos Deddf, ar sail yr enw hir. Ond o ran egwyddor does dim rheswm pam na all adrannau o’r fath gael eu defnyddio mewn Deddf, Gorchymyn neu set o Reoliadau o unrhyw faint os yw’r drafftiwr o’r farn y byddai’n ddefnyddiol. Ond nid yw’n debyg y ceid llawer o gymorth mewn trosolwg na fyddai’n gwneud dim ond ailadrodd y trefniant, neu’r nodyn esboniadol yn achos offeryn statudol Cymreig, mewn fformat wahanol.

93                Trosolygon Rhannau, Penodau ac Atodlenni

(1)      Yn Neddfau Ailysgrifennu’r Gyfraith ar Drethi, mae trosolygon yn cael eu defnyddio’n gyffredin hefyd mewn perthynas â Rhannau a Phenodau. Bydd trosolwg nodweddiadol o Ran sydd wedi’i rhannu’n Benodau yn cynnwys disgrifiad byr o’r Penodau hynny. Os oes darpariaeth arall y tu allan i’r Rhan yn berthnasol o ran sut mae’r Rhan yn gweithredu, gall y trosolwg gynnwys cyfeiriad hefyd at y ddarpariaeth arall honno er mwyn rhybuddio’r darllenydd ei bod yn berthnasol.[22]

(2)      Mater i’r drafftiwr yw penderfynu pa mor fuddiol y mae trosolwg yn debyg o fod. Os yw’r Rhan neu’r Bennod yn fyr ac yn cynnwys ambell gymal yn unig, nid yw trosolwg yn debyg o fod o gymorth mawr: bydd penawdau’r cymalau’n ddigon. Er hynny, fe allai trosolwg fod o gymorth o hyd – hyd yn oed ar gyfer Pennod byr iawn – os yw’n rhybuddio’r darllenydd bod deddfwriaeth arall i’w chael cyn darpariaethau gweithredol y Bennod.[23]

(3)      Nid yw defnyddio trosolwg ar gyfer un Rhan yn golygu bod rhaid i bob Rhan arall o’r Ddeddf gael un.[24] Does dim pwynt cael trosolwg os nad oes yna fudd i’r darllenydd.

(4)      Gall trosolwg fod yn ddefnyddiol ar gyfer Atodlen hir.[25]

94                Adrannau sy’n cynnwys trosolygon

(1)      Yn aml, bydd gan “drosolwg” ei adran ei hun.[26] Er hynny, weithiau gall fod yn gyfleus cynnwys darpariaeth ddehongli, neu ddarpariaeth ynghylch cymhwyso Rhan neu Bennod, ochr yn ochr â’r trosolwg.[27]

(2)      Ond gofalwch beidio â chamarwain y darllenwyr. Os dymunir cael cyfuniad o ddeunyddiau gweithredol ac anweithredol, mae’n bosibl nad “trosolwg” yw’r pennawd mwyaf defnyddiol ar yr adran (gallai “rhagymadrodd”, er enghraifft, fod yn well).

95                Effaith weithredol ac anweithredol

(1)      Nid yw’r ffaith na fydd y drafftiwr o bosibl yn bwriadu i drosolwg gael effaith weithredol yn golygu na fyddai llys yn ystyried y trosolwg wrth ddehongli deddfwriaeth y mae’r trosolwg yn ymwneud â hi. Mae angen ei ddrafftio â gofal felly er mwyn sicrhau ei fod yn grynodeb manwl-gywir o’r darpariaethau hynny ac na allai greu canlyniad anfwriadol.

(2)      Mae rhai trosolygon yn gwneud mwy nag amlinellu cynnwys set o ddarpariaethau, gan ddisgrifio neu esbonio sut mae’r darpariaethau’n gweithredu.[28] Gall y math hwn o ddeunydd disgrifio neu esbonio fod yn fuddiol weithiau. Ond mae angen gofal arbennig, gan ei fod yn dwyn mwy o risg o ganlyniadau anfwriadol na math mwy safonol o drosolwg sy’n cynnwys amlinelliad o’r pwnc a dim byd arall.

96                Diwygio trosolygon

(1)      Os bydd darpariaeth yn diwygio deddfiad sydd mewn Pennod neu Ran o Ddeddf sy’n cynnwys trosolwg, yna dylid ystyried a ddylai’r trosolwg gael ei ddiwygio er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn ddisgrifiad cywir o’r Bennod neu'r Rhan.


Rhan 7

DIDDYMU A DIWYGIO

pennod 1

diwygio’r testun

Materion cyffredinol

97                Gwahniaethau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg

(1)      Mae’n bosibl y bydd y diwygiadau Cymraeg a Saesneg y mae eu hangen i gyflawni effaith gyfreithiol benodol yn eithaf gwahanol i’w gilydd.

(2)      Er enghraifft, gall y gwahaniaethau o ran cystrawen brawddegau yn y Gymraeg a’r Saesneg (gweler Rhan 4, Pennod 2) olygu bod angen mewnosod diwygiad mewn lle gwahanol yn y ddwy iaith.  Yn Gymraeg mae’r ansoddair fel arfer yn dod ar ôl yr enw, ond yn Saesneg fe ddaw o flaen yr enw: “cynllun newydd” ond “new scheme”.  Felly os bydd y testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod ansoddair ar ôl yr enw, bydd y diwygiad cyfatebol yn Saesneg yn mewnosod yr ansoddair o flaen yr enw.

ENGHRAIFFT

“Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynllun [newydd], rhaid iddynt osod copi o’r cynllun hwnnw gerbron y Cynulliad.”

“If the Welsh Ministers publish a [new] scheme, they must lay a copy of that scheme before the Assembly.”

(3)      Gall diwygiad i’r testun Cymraeg hefyd arwain at newidiadau pellach i’r testun hwnnw. Er enghraifft, os bydd enw gwrywaidd yn cael ei roi yn lle enw benywaidd, bydd angen i’r rhagenwau sy’n cyfeirio at yr enw hwnnw gael eu newid (gweler paragraff 39(3)).

(4)      Wrth lunio diwygiadau, dylid canolbwyntio ar gyflawni’r un effaith gyfreithiol yn y ddwy iaith, yn hytrach nag ar lunio dwy set o ddiwygiadau sy’n cyfateb i’w gilydd air am air.

Geiriau gweithredol

98                Mewnosod a disodli

(1)      Mae’r ffurfiau a ganlyn yn cael eu defnyddio’n eang, ac mae’r ddwy yn dderbyniol

ffurf orchmynnol: ar ôl x mewnosoder y/yn lle x rhodder y/after x insert y/for x substitute y

ffurf ddatgeiniol: ar ôl x mae y wedi ei mewnosod/fewnosod/after x there is inserted y/for x there is substituted y

(2)      Yn y ddau achos mae effaith y diwygiad yn glir.

(3)      Pa fo un adran yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfres o ddiwygiadau (o’i gyferbynnu ag un diwygiad) i Ddeddf, neu i adran, bydd yr is-adran gyntaf yn aml ar ffurf ddatgeiniol, a gweddill y darpariaethau yn y gorchmynnol:

(1) Mae’r [Ddeddf] wedi ei diwygio fel a ganlyn…

(2) Yn is-adran 1, ar ôl is-adran (1) mewnosoder…

(1) The [Act] is amended as follows...

(2) In section 1, after subsection (1) insert....

(4)      Er bod yr effaith yn glir, mae rhywbeth i’w ddweud dros ddefnyddio’r un ffurf yn y gosodiad agoriadol ac yn y diwygiadau.

99                Diddymu a dirymu

(1)      Mae’r ffurfiau a ganlyn, neu amrywiadau arnynt, yn aml yn cael eu defnyddio i ddiwygio testun Deddf drwy ddiddymu un neu ragor o ddarpariaethau neu eiriau yn y Ddeddf

hepgorer x/mae x wedi ei hepgor

omit x/x is omitted

mae x yn peidio â chael effaith

x ceases to have effect

mae x wedi ei (d)diddymu

x is repealed

(2)      Yma, gyda “hepgor” / “omit” yn unig y mae’r gorchmynnol yn bosibl. Ac yn achos darpariaethau is-ddeddfwriaeth y term priodol yw “dirymu” / “revoked” nid “diddymu” / “repealed”.

(3)      I ddiddymu llai na Deddf gyfan, mae’r rhain i gyd yn dderbyniol, ni waeth pa uned o destun sy’n cael ei diddymu. Mae’n eglur mai dim ond “wedi ei (d)diddymu” / “is repealed” neu“yn peidio â chael effaith” / “ceases to have effect” a gâi eu defnyddio ar gyfer Deddf gyfan. Fe allai fod yn gyson wedyn pe bai “wedi ei (d)diddymu” / “is repealed” neu“yn peidio â chael effaith“/ “ceases to have effect” (yn hytrach na “hepgorer” / “omit”) yn cael eu defnyddio ar gyfer unedau llai o destun.

(4)      Byddai defnyddio “wedi ei (d)diddymu” / “is repealed” yn gyson hefyd ag “Atodlenni diddymu” / “repeal Schedules” ac â’r ffaith bod darpariaethau sy’n cyflwyno Atodlenni diddymu yn defnyddio’r geiriau “wedi eu diddymu” / “are repealed”.

(5)      O ran y dewis rhwng “wedi ei (d)diddymu”/ “is repealed” ac “yn peidio â chael effaith” / “ceases to have effect”, mae “is repealed” yn dilyn iaith adrannau 15 i 17 o Ddeddf Dehongli 1978. Mae’n debyg na ddylid gor-ddweud pwysigrwydd hyn: yn Commissioner of Police of the Metropolis v Simeon [1982] 2 All ER 813, dyfarnwyd nad oedd y ffaith bod diddymiad wedi’i roi ar waith drwy ddarparu bod y darpariaethau a oedd yn cael eu diddymu “yn peidio â chael effaith”yn ddigon i awgrymu “bwriad i’r gwrthwyneb” o fewn adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978.

(6)      Serch hynny, fe allai fod yn fuddiol defnyddio’r gair “repeal” / “diddymu” yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r darllenydd ganfod bod yr hyn sydd wedi’i wneud yn gyfystyr yn y bôn â diddymu. Y ffurf “diddymu” yw’r un fyrraf o’r ddwy hefyd.

Disgrifio ble mae’r diwygiad i fynd

100            Disodli geiriau, neu ychwanegu at eiriau, yn y lle cyntaf y maent yn digwydd

Mae’r canlynol (ymhlith eraill) yn bosibl—

ar ôl “X”, yn y lle cyntaf lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y”

after “x”, in the first place it occurs, insert “y”

 

ar ôl “x”, lle y mae’n digwydd [neu’n ymddangos] gyntaf, mewnosoder “y”

after “x”, where first occurring [or appearing], insert “y”

101            Disodli geiriau, neu ychwanegu at eiriau, ym mhob lle y maent yn digwydd

(1)      Mae’r canlynol (ymhlith eraill) yn bosibl

ar ôl “x” ym mhob lle, mewnosoder “y”

after “x”, in each place, insert “y”

 

ar ôl “x”, lle bynnag y bo’n digwydd/ymddangos, mewnosoder “y”

after “x”, wherever it occurs/appears, insert “y”

 

yn lle “x” (ddwywaith) rhodder “y”

for “x” (twice) substitute “y”.

 

(2)      O ran egwyddor, gallai un diwygiad gael ei ddefnyddio i newid term sy’n cael ei ddefnyddio drwy ddarn o ddeddfwriaeth i gyd. Yn ymarferol, mae’n debyg mai cymharol ychydig o achosion sydd lle bydd y dull hwn yn briodol. Mae’n amlwg mai dim ond os yw’r drafftiwr yn sicr ei fod yn creu’r canlyniad cywir ym mhob man y dylai diwygiad cyffredinol gael ei ddefnyddio. A gall defnyddio’r dull hwn fod yn anodd os yw’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei diwygio yn cynnwys deddfwriaeth yn y Gymraeg achod bydd y diwygiad cyffredinol yn gorfod darparu ar gyfer ystod o newidiadau canlyniadol o ran treigladau, rhagenwau, etc.

(3)      Arfer cymharol gyffredin yw gosod cromfachau o amgylch y geiriau sy’n dynodi ble yn y ddarpariaeth y mae’r diwygiad i gael ei wneud

ar ôl “x” (ym mhob lle) mewnosoder “y”

after “x” (in each place) insert “y”

 

ar ôl “x” (yn y lle cyntaf lle y mae’n digwydd) mewnosoder “y”.

after “x” (in the first place itoccurs) insert “y”

 

(4)      Rhaid tybio mai dim ond pan na fyddai’n glir fel arall ai un diwygiad ynteu mwy nag un a fwriedir y byddai’r geiriad o dan sylw yn cael ei ddefnyddio. A bod yn fanwl, felly, ni ddylai cromfachau gael eu defnyddio (ar y sail bod cromfachau’n cael eu neilltuo fel rheol at ddeunydd sy’n cael ei gynnwys i helpu’r darllenydd ond nad oes iddo effaith gyfreithiol o sylwedd). Er hynny, mewn rhai achosion, gall drafftwyr gredu bod defnyddio cromfach yn golygu bod y ddarpariaeth yn haws ei darllen.

102            Mewnosod ar ddechrau darpariaeth

Y ffurf arferol yw dweud

ar y dechrau mewnosoder x/mae x wedi ei fewnosod/mewnosod

at the beginning insert x/there is inserted x

yn hytrach na dweud bod x wedi ei fewnosod/mewnosod “cyn” geiriau penodol.

103            Mewnosod testun ar ddiwedd darpariaeth

(1)      Y ffurf arferol yw dweud—

“ar y diwedd”

“at the end”.

(2)      Weithiau bydd drafftwyr yn dweud “ychwanegu” / “add” yn lle “mewnosod” “insert” yn achos testun sydd i ymddangos ar ddiwedd darpariaeth bresennol. Ond nid anghywir yw defnyddio “mewnosod” / “insert” yn y cyd-destun hwn a gall fod yn symlach defnyddio’r un gair p’un a yw’r testun newydd i ymddangos yng nghanol y ddarpariaeth bresennol ynteu ar y diwedd.

104            Rhannau o is-adran

(1)      Yn achos is-adran sy’n cynnwys paragraffau, gellir dynodi’r geiriau cyn y paragraffau fel “y geiriau agoriadol” / “the opening words” neu “y geiriau o flaen paragraff (a)” / “the words before paragraph (a)”.

(2)      Gall y geiriau ar ôl y paragraffau (y mae drafftwyr weithiau’n cyfeirio atynt fel  “geiriau cloi” / “full-out words”) gael eu dynodi fel “y geiriau ar ôl paragraff ( )” / “the closing words” neu “the words after paragraph ( )”. Wrth gwrs, nid yw bob amser yn angenrheidiol pennu ble yn union mewn is-adran y mae’r geiriau o dan sylw yn ymddangos (er enghraifft, os unwaith yn unig y maent yn ymddangos).

105            Rhestrau

Pan fo diwygiad yn cael ei wneud er mwyn mewnosod cofnod mewn rhestr, megis rhestr o ddiffiniadau neu gyrff statudol, bydd weithiau’n cael ei lunio ar ffurf diwygiad i fewnosod y testun“yn y lle priodol” /“at the appropriate place” (yn hytrach nag “ar ôl”/  “after” rhywbeth). Mae hyn yn briodol, er enghraifft, os yw’r rhestr yn rhedeg yn nhrefn y wyddor.

106            Lleoliad adran newydd

(1)      Yr arfer yw pennu bod adran newydd i’w gosod “ar ôl” / “after” un arall.

(2)      Er hynny, fe all “o flaen” / “before” fod yn ddefnyddiol pan fo’r adran newydd i gael ei mewnosod ar ddechrau Rhan, Pennod neu grŵp o adrannau (lle y byddai cyfeiriad at “ar ôl” / “after” yr adran faenorol yn tueddu i awgrymu mai’r bwriad oedd i’r adran newydd ymddangos ar ddiwedd y Rhan etc flaenorol).

107            Darpariaethau heb rifau

I ychwanegu is-adran neu is-baragraff at adran neu baragraff nad yw eisoes mewn is-raniadau, y ffurf a argymhellir yw

dweud yn gyntaf

Yn [adran] [paragraff] 1 daw’r ddarpariaeth bresennol yn [is-adran] [is-baragraff] 1

In [section] [paragraph] 1 the existing provision becomes [subsection] [sub-paragraph] (1)

ac wedyn mewnosod y defnydd newydd fel is-adran neu is-baragraff (2).

108            Faint o destun i’r ddisodli

(1)      Y man cychwyn wrth ddrafftio i ddisodli testun yw y dylech ddisodli cyn lleied o’r testun ag y bo modd. Ran amlaf, bydd hyn yn ei gwneud yn hawl i ddarllenydd y Bil nodi’r newid o sylwedd sy’n cael ei wneud. Mae hefyd yn osgoi awgrymu bod newidiadau  yn cael eu gwneud mewn testun nad yw’n newid mewn gwirionedd.

(2)      Er hynny, i ddarllenydd y Bil, neu ddarllenydd y Ddeddf sy’n cael ei diwygio, mewn rhai achosion bydd yn ddefnyddiol disodli mwy o’r testun nag y mae angen ei ddisodli mewn gwirionedd. Er enghraifft

• pan fydd nifer o newidiadau perthynol yn cael eu gwneud i un ddarpariaeth,

• pan fyddai grŵp o ddiwygiadau yn arwain yn y pen draw at newid holl sail darpariaeth bresennol heb adael fawr ddim o’r testun blaenorol,

• pan fydd y darn sydd i’w ddiwygio wedi’i ddiwygio o’r blaen heblaw drwy ddiwygio’r testun (fel y gall fod rhywfaint o amheuaeth ynghylch pa eiriau sydd ar ôl i’w diwygio’n destunol),

• pan fydd disodli ychydig yn rhagor o eiriau o gymorth fel arall i’r darllenydd, a

• phe bai gwneud hynny’n galluogi’r drafftiwr i ddiddymu darpariaeth ddiwygio.

(3)      Mae’r risgiau wrth ddisodli mwy o’r testun nag y mae angen ei ddisodli mewn gwirionedd yn cynnwys

• risg colli croesgyfeiriad, amrywiad annhestunol neu hen arbediad,

a’r

• risg y bydd yn anodd i’r darllenydd weld pa newidiadau o sylwedd sy’n cael eu gwneud.

(4)      Mewn rhai achosion gall disgrifiad mewn cromfachau helpu.

109            Disgrifiad mewn cromfachau

(1)      Yn gyffredinol, gweler y drafodaeth ar ddisgrifiadau mewn cromfachau yn adran 84. Yn yr adran hon, dim ond agweddau sy’n berthnasol wrth ddiwygio’r testun sy’n cael eu trafod.

(2)      Arfer gweddol gyffredin bellach yw rhoi disgrifiad byr o’r adran neu’r Atodlen sy’n cael ei diwygio, rhoi cyd-destun y diwygiad ac efallai ei arwyddocâd. Pennawd yr adran neu’r Atodlen fydd y disgrifiad mewn cromfachau yn aml, ond does dim rhaid iddo fod – o ran darllenwyr y Bil gall fod yn well disgrifio’r adran mewn ffordd arall.

(3)      Efallai na fydd mor ddefnyddiol cadw at yr arfer mewn, dyweder, Atodlenni o ddiwygiadau canlyniadol, lle nad oes effaith bwysig o sylwedd i’w disgrifio (a llai o ddarllenwyr i’w disgrifio iddynt). Er enghraifft, os nad yw’r ddarpariaeth ond yn newid enw corff yn yr holl ddeddfwriaeth sy’n bod yn barod, efallai nad oes fawr o bwynt disgrifio pob darpariaeth lle mae’r newid yn cael ei wneud.

(4)      Nid yw ychwaith yn debyg o fod yn werth rhoi disgrifiad o adran y mae adran newydd i’w mewnosod ar ei hôl, oni bai bod cysylltiad agos iawn rhwng y ddwy.

(5)      Gall disgrifio’r adran o’r Atodlen sy’n cael ei diwygio helpu i esbonio arwyddocâd a chyd-destun y diwygiad, ond nid yw hyn ynddo’i hun yn debyg o ddweud wrth y darllenydd beth yn union y mae’r diwygiad yn ei wneud. Er mwyn adrodd y stori gyfan, mae’n debyg bod angen i’r drafftiwr ddisgrifio’r darn penodol o’r testun sy’n cael ei ddiwygio, boed is-adran neu is-raniad llai. Ond ni fydd yn ymarferol nac yn angenrheidiol gwneud hyn ym mhob achos.

(6)      Yn achos diwygiad pwysig o sylwedd, gall fod yn werth dal llaw’r darllenydd ac esbonio’r cyd-destun cyfan, fel bod ystyr y diwygiad testunol yn hawdd iawn ei deall wedyn. Ond mae’n anodd glynu at hyn yn gyson mewn deddfwriaeth o hyd sylweddol. Yn sicr does dim pwynt rhoi disgrifiad o is-adran os nad yw mewn gwirionedd yn helpu’r darllenydd i ddeall y diwygiad. Ac nid yw’n ymddangos bod pwynt manylu ar y lefel hon mewn Atodlenni maith o ddiwygiadau mân neu ganlyniadol.

(7)      Yn hytrach na manylu fel hyn, gall nodiadau esboniadol helpu.

110            Atodlenni o ddiwygiadau

(1)      Mae hyn yn ymwneud â’r fformat sydd i’w ddefnyddio mewn Atodlenni le mae diwygiadau i Ddeddf yn cael eu trefnu o dan groes-bennawd italig sy’n rhoi enw’r Ddeddf.

(2)      Yr arddull a argymhellir yw

 

“Deddf Addysg 2005

1. Yn Neddf Addysg 2005, ar ôl adran N…”

Education Act 2005

1. In the Education Act 2005, after section N...

 

(3)      Sylwch yn benodol fod angen rhoi enw byr y Ddeddf yn nhestun y diwygiad yn ogystal ag yn y pennawd.

111            Diwygio penawdau adrannau etc

(1)      Mae’n dderbyniol diwygio pennawd darpariaeth.

(2)      Yn benodol, gall fod yn fuddiol gwneud hyn os yw’r diwygiad i’r testun yn peri nad yw’r ddarpariaeth yn wir.

(3)      Does dim angen diwygio pennawd dim ond am nad yw’r pennawd presennol yn cyfateb yn union i’r hyn y byddech wedi’i ddewis ar gyfer y testun diwygiedig. Hefyd, gallai’r ffaith bod gan y pennawd diwygiedig awdurdod y Cynulliad arwain y llysoedd i roi mwy o bwysau iddo nag y byddent wedi’u roi i’r pennawd gwreiddiol.

(4)      Mae yna enghreifftiau o achosion lle mae angen i bennawd gael ei newid heb fod yna newid yn y testun o dan y pennawd. Un enghraifft yw lle bydd set gyfochrog o ddarpariaethau’n cael ei hychwanegu ar ôl darpariaethau presennol a bod angen penawdau sy’n gwahaniaethu rhwng y setiau cyfagos o ddarpariaethau ac yn eu cysylltu.

112            Atalnodi

(1)      Pan fo geiriau sy’n cael eu mewnosod neu eu disodli yn gorffen ag atalnod llawn cyn y dyfynodau cloi, ni ddylai fod angen atalnod llawn arall ar ôl y dyfynodau cloi.

Confensiynau ynglŷn â rhifau

113            Ailddefnyddio rhifau

(1)      Wrth ddisodli is-raniad cyfan o destun (e.e. is-adran), at ei gilydd ni ddylai rhif yr hen ddarpariaeth gael ei ddefnyddio ar gyfer y ddarpariaeth newydd oni bai bod pwnc y ddarpariaeth newydd yn cyfateb i bwnc yr hen ddarpariaeth (sef rhywbeth a fydd yn digwydd yn aml).

(2)      Wrth fewnosod is-raniad cyfan o destun (e.e. is-adran) mewn man lle mae is-raniad cyfatebol wedi’i diddymu, at ei gilydd ni ddylai rhif y ddarpariaeth sy’n cael ei ddiddymu gael ei ddefnyddio ar gyfer y ddarpariaeth newydd.

(3)      Yn achlysurol, gallai’r drafftiwr benderfynu bod rheswm da dros ymwrthod â’r dulliau uchod (e.e. os cafodd y ddarpariaeth a ddiddymwyd ei diddymu flynyddoedd lawer yn ôl).

114            Ychwanegu darpariaethau â rhif – defnyddio’r wyddor Saesneg neu’r wyddor Gymraeg

(1)      Yr arfer ynglŷn ag offerynnau statudol ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw defnyddio’r wyddor Gymraeg i rifo unedau o destun (paragraffau etc) yn y testun Cymraeg a defnyddio’r wyddor Saesneg ar gyfer y testun Saesneg. Mae hynny’n golygu bod llythyren yr uned gyfatebol o destun yn aml yn wahanol yn y ddwy iaith, felly byddai adran 1(1)(d) yn y testun Saesneg yn adran 1(1)(ch) yn y testun Cymraeg.

(2)      Mae hyn yn iawn pan fo defnyddiwr y testun yn cyfeirio at y testun mewn un iaith yn unig, ond gall dryswch godi mewn cyd-destunau lle cyfeirir at y testunau Cymraeg a Saesneg, er enghraifft mewn trafodaeth ddwyieithog ar lawr y Cynulliad ynghylch y darpariaethau pan fydd angen cyfieithu ar y pryd, neu yn wir mewn trafodion dwyieithog mewn llys neu dribiwnlys. Penderfynwyd yn y trydydd Cynulliad y byddai Mesurau Cynulliad yn defnyddio’r wyddor Saesneg yn y testun Cymraeg  at ddibenion rhifo ac mae’r un arfer yn cael ei ddilyn mewn Biliau Cynulliad. Cafodd hyn ei wneud er mwyn dileu rhwystr posibl a allai atal y Gymraeg rhag cael ei defnyddio mewn cyd-destunau fel llawr y Cynulliad neu lys neu dribiwnlys lle mae deddfwriaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ill dwy.[29]

(3)      Yr arfer o 1 Ebrill 2012 ymlaen yw y dylai confensiynau rhifo Biliau Cynulliad gael eu defnyddio hefyd yn offerynnau statudol Cymru. Gan hynny, mae’r argymhellion a ganlyn ynghylch ychwanegu darpariaethau sydd â rhif yn gymwys i’r testun Cymraeg yn ogystal ag i’r testun Saesneg.   

115            Ychwanegu darpariaethau ar ddechrau cyfres

Mae’r canlynol yn gymwys wrth fewnosod darpariaeth ar ddechrau cyfres bresennol o ddarpariaethau (e.e. is-adran ar ddechrau adran neu Atodlen cyn yr Atodlen gyntaf).

• Rhagflaenir adrannau newydd sy’n cael eu mewnosod cyn yr adran gyntaf mewn Deddf gan lythyren, gan ddechau ag “A”.

 

• Cymerir yr un agwedd at bob rhaniad arall yn y testun (heblaw paragraffau sydd  â llythrennau).

Felly, mewnosododd Deddf Ansolfedd 2000 Atodlen A1 cyn Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986, a mewnosododd Deddf Menter 2002 Atodlen B1 newydd ar ôl Atodlen A1.

 

• “ZA1” neu (“zai”) fydd darpariaeth sy’n cael ei mewnosod cyn “A1” (neu “ai”).

 

• Yn achos paragraffau sydd â llythrennau, (za), (zb) etc fydd paragraffau newydd sy’n cael eu mewnosod cyn paragraff (a).

 

• A (zza), (zzb) etc fydd paragraffau sy’n cael eu mewnosod cyn (za).

116            Ychwanegu darpariaethau ar ddiwedd cyfres

Wrth ychwanegu darpariaeth ar ddiwedd cyfres bresennol o ddarpariaethau o’r un math (e.e. is-adran ar ddiwedd adran neu Atodlen ar ddiwedd yr Atodlenni), dylai’r rhifau barhau yn eu trefn.

117            Mewnosod darpariaethau cyfan rhwng darpariaethau presennol

Mae’r canlynol yn gymwys wrth fewnosod darpariaethau cyfan rhwng darpariaethau presennol.

• 1A, 1B, 1C etc fydd darpariaethau newydd sy’n cael eu mewnosod rhwng 1 a 2.

• 1AA, 1AB, 1AC etc fydd darpariaethau newydd sy’n cael eu mewnosod rhwng 1A ac 1B.

• 1ZA, 1ZB, 1ZC etc. (ac nid 1AA etc.) fydd darpariaethau newydd sy’n cael eu mewnosod rhwng 1 ac 1A

1AZA, 1AZB, 1AZC etc fydd darpariaethau newydd sy’n cael eu mewnosod rhwng 1A ac 1AA.

Peidiwch â chreu dynodydd ar lefel is oni bai bod rhaid ichi wneud hynny.

• 1AB ac nid 1AAA fydd darpariaeth newydd rhwng 1AA ac 1B.

• Ond 1AAA fydd darpariaeth newydd rhwng 1AA ac 1AB.

Mae’r argymhellion uchod yr un mor gymwys i is-baragraffau â rhifau Rhufeinig a pharagraffau â llythrennau.

• (ia), (ib), (ic) etc. fydd is-baragraffau newydd rhwng is-baragraffau (i) a (ii).

• (aa), (ab), (ac) etc. fydd paragraffau newydd rhwng paragraffau (a) a (b). 

(aza), (azb), (azc) etc. fydd paragraffau newydd rhwng paragraffau (a) ac (aa).

118            Mewnosodiadau sy’n arwain at gyfres o fwy na 26 o adrannau, erthyglau neu reoliadau newydd

Mae hyn yn ymwneud â’r achlysuron prin pan fyddai mewnosod adrannau. erthyglau neu reoliadau newydd mewn darn o ddeddfwriaeth yn arwain at gyfres o fwy na 26 o unedau newydd.

• Ar ôl Z defnyddiwch Z1, Z2, Z3 etc.

Felly yn Neddf Lwfansau Cyfalaf 2001 dilynir adran 360Z gan adrannau 360Z1 i 360Z4.

119            Mewnosodiadau sy’n arwain at gyfres o fwy na 26 o baragraffau â llythrennau

Mae hyn yn ymwneud â’r achlysuron prin pan fyddai mewnosod paragraffau newydd mewn adran yn arwain at gyfres o fwy na 26 o baragraffau â llythrennau.

• Ar ôl paragraff (z) mewnosodwch baragraffau (z1), (z2), (z3) etc.

 

pennod 2

amrywiadau annhestunol

120            Amrywiadau annhestunol a diwygiadau testunol

(1)      Mae’r bennod hon yn sôn am sut i wahaniaethu rhwng amrywiad annhestunol a diwygiad testunol.

(2)      Yr hyn a olygir wrth “amrywiad annhestunol” yw amrywiad ar ddeddfiad na fwriedir iddo arwain at newid yn nhestun y deddfiad sydd wedi’i amrywio pan fydd y deddfiad yn cael ei argraffu nesaf(o’i gyferbynnu a diwygiad testunol, y bwriedir iddo wneud hynny).

(3)      Cafwyd adegau pan nad yw wedi bod yn eglur i’r adrannau, nac i’r rhai sy’n cynhyrchu ac yn golygu testun statudol, a yw rhywbeth yn ddiwygiad testunol ynteu’n amrywiad annhestunol. Weithiau mae amrywiadau annhestunol hyd yn oed wedi cael eu hargraffu fel diwygiadau testunol.

(4)      Mae’n bwysig felly eich bod yn gwneud yn glir beth yw’r bwriad.

121            Angen osgoi’r ffurfiau sy’n cael eu defnyddio mewn diwygiadau testunol

(1)      Weithiau bydd amrywiadau annhestunol yn cael eu drafftio yn yr un ffurf yn y bôn â diwygiad testunol, a’r unig wahaniaeth yw’r geiriau agoriadol

ENGHRAIFFT (i’w hosgoi)

 

(1) Mae adran 3 yn gymwys i ddrwgdalwyr dirwyon fel y mae’n gymwys i droseddwyr ond gyda’r amrywiadau a ganlyn

(a) yn is-adran (1) yn lle “trosedd” rhodder “drwgdaliad”; a

(b) yn is-adran (2) yn lle “6 mis” rhodder “3 mis”.

 

(1) Section 3 applies to fine defaulters as to offenders but with the following modifications

(a) in subsection (1) for “offence” substitute “default”; and

(b) in subsection (2) for “6 months” substitute “3 months”.

 

(2)      Byddai’n hawdd camgymryd hyn am ddiwygiad testunol. Mae’r geiriau agoriadol yn rhoi awgrym mai rhywbeth heblaw diwygiad testunol yw’r bwriad, ond mae’r gweddill yn union yr un fath â diwygiad testunol. Byddai’n arbennig o hawdd colli golwg ar y geiriau agoriadol pe bai’r rhestr o ddisodliadau a newidiadau eraill yn hir iawn.

(3)      Byddai’n gliriach, i ddechrau, pe bai’r modd dibynnol yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos nad oes bwriad i’r testun gael ei ddisodli mewn gwirionedd—

ENGHRAIFFT

(1) Mae adran 3 yn gymwys i ddrwgdalwyr dirwyon fel y mae’n gymwys i droseddwyr ond fel petai-

(a) “drwgdaliad” yn cael ei roi yn lle “trosedd” yn is-adran (1), a

(b) “ 3 mis” yn cael eu rhoi yn lle “6 mis” yn is-adran (2).

 

(1) Section 3 applies to fine defaulters as to offenders but as if

(a) in subsection (1) for “offence” there were substituted “default”, and

(b) in subsection (2) for “6 months” there were substituted “3 months”.

 

(4)      Ond gwell byth fyddai osgoi cyfeirio at ddisodli yn gyfan gwbl—

ENGHRAIFFT

 

(1) Mae adran 3 yn gymwys i ddrwgdalwyr fel y mae’n gymwys i dramgwyddwyr ond fel petai-

(a) y cyfeiriad yn is-adran (1) at dramgwydd yn gyfeiriad at ddrwgdaliad; a

(b) y cyfeiriad yn is-adran (2) at 6 mis yn gyfeiriad at 3 mis.

 

(1) Section 3 applies to fine defaulters as to offenders but as if

(a) in subsection (1) the reference to an offence were to a default; and

(b) in subsection (2) the reference to 6 months were to 3 months.

 

122            “Modification”

Gyda llaw, nid yw defnyddio’r gair “modification” (“amrywio”) ynddo’i hun yn dileu’r posibilrwydd mai diwygiad testunol yw’r hyn a fwriedir. Mae’r gair weithiau yn cael ei ddefnyddio (yn gywir) i ddisgrifio diwygiad testunol —gweler er enghraifft adran 517(6) o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 26(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau’r Llysoedd 2000.

 


PENNOD 3

 

DIWYGIO DARPARIAETHAU SYDD HEB EU CYCHWYN ETC

 

123            Diwygio darpariaeth nad yw mewn grym

(1)      Ni ddylai darn o ddeddfwriaeth anwybyddu deunyddiau perthnasol sydd wedi’u deddfu dim ond am nad yw’r deunyddiau mewn grym eto. Mae’n ddoeth cadw deddfwriaeth sydd heb gael ei chychwyn mewn cyflwr lle y gallai gael ei dwyn i rym. Felly os yw’r polisi y tu ôl i ddarn o ddeddfwriaeth yn golygu bod angen newid darpariaeth, neu y byddai angen ei newid pe bai mewn grym, dylai’r ddarpariaeth gael ei diwygio yn unol â’r polisi fel rheol.

(2)      Weithiau ceir cwestiwn a yw diwygiad i gael ei gychwyn gan y pwerau cychwyn mewn Deddf diwygio ynteu gan y pwerau cychwyn yn y Ddeddf sydd wedi’i diwygio.

(3)      Y peth cyntaf i’w nodi yw bod cychwyn darpariaeth mewn Deddf yn dibynnu ar y darpariaethau cychwyn sydd wedi’u gwneud yn y Ddeddf honno. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio darpariaeth sydd heb ei chychwyn mewn Deddf gynharach. Ar y llaw arall, mae darpariaethau cychwyn Deddf yn gymwys i ddarpariaethau’r Ddeddf a does dim bwriad, adeg y deddfu, i’r darpariaethau cychwyn fod yn  gymwys i’r holl destun sy’n digwydd cael ei ychwanegu drwy ddiwygiadau gan Ddeddfau diweddarach.

(4)      Mewn rhai achosion, fe all ac fe ddylai’r drafftiwr ddibynnu ar y ddarpariaeth gychwyn yn y Ddeddf ddiwygio yn unig. Er enghraifft, os oes yna bolisi y dylai’r ddarpariaeth sydd heb ei chychwyn mewn Deddf gynharach ddod i rym a gweithredu am gyfnod heb y diwygiad sy’n cael ei wneud gan y Ddeddf ddiwygio, dim ond ar y ddarpariaeth yn y Ddeddf ddiwygio y gellir dibynnu i gychwyn y diwygiad yn nes ymlaen.

(5)      Neu unwaith eto, gall diwygiad olygu mewnosod darpariaeth annibynnol a all fod yn effeithiol heb gyfeirio at ddarpariaethau cyfagos yn y Ddeddf sydd heb eu cychwyn. Gallai darpariaeth ychwanegol o’r fath gael ei dwyn i rym yn llawn gan y Ddeddf ddiwygio neu odani, a hynny heb ddibynnu ar y darpariaethau cychwyn yn y Ddeddf sydd wedi’i diwygio.

(6)      Gall fod achosion lle byddai drafftiwr am i’r testun sy’n cael ei ychwaneg gan Fil ddod o dan y darpariaethau cychwyn yn y Ddeddf sy’n cael ei diwygio. Er enghraifft, fe allai’r drafftiwr fod am i bŵer y Ddeddf i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â chychwyn fod yn gymwys i ddarpariaethau fel y maen nhw wedi’u diwygio gan y Bil. Mae hyn yn arbennig o debyg efallai pan nad oes gan y diwygiad ystyr ar ei ben ei hun.

(7)      Weithiau gall fod yn amlwg bod y diwygiad sy’n cael ei wneud gan y Bil yntau’n amrywio darpariaethau cychwyn y Ddeddf drwy ymhlygiad fel eu bod yn gallu bod yn gymwys i’r testun diwygiedig yn yr un modd ag y bydden nhw’n gymwys i’r testun heb ei ddiwygio. Mae’r ymagwedd hon yn ymddangos yn fwyaf rhesymol pan na all y testun y mae’r diwygiad yn ei ychwanegu weithredu’n annibynnol ar y ddarpariaeth sy’n cael ei diwygio.

(8)      Ond os nad yw’n amlwg mewn unrhyw achos penodol mai dyma fwriad y Ddeddf ddiwygio, yna bydd angen darpariaeth benodol er mwyn cymhwyso’r darpariaethau cychwyn yn y Ddeddf sy’n cael ei diwygio.

124            Diwygio darpariaeth sy’n dibynnu ar ddiddymiad sydd heb ei gychwyn

(1)      Yn yr un modd, ni ddylai Bil anwybyddu deunyddiau perthnasol sydd wedi’u deddfu dim ond am ei fod yn dibynnu ar ddiddymiad sydd heb ei gychwyn. Felly, dylai darpariaeth mewn Deddf sy’n dibynnu ar ddiddymiad sydd heb ei gychwyn gael ei ddiwygio gan Fil os yw polisi’r Bil yn gofyn am y newid er bod y ddarpariaeth yn dal heb ei diddymu.

(2)      Os oes darpariaeth mewn Deddf yn dibynnu ar ddiwygiad sy’n gweithredu drwy gyfrwng disodliad – sef diddymiad a mewnosod testun newydd hefyd – fe all polisi’r Bil olygu bod angen diwygio’r ddarpariaeth yn ei ffurf wreiddiol ac yn ei ffurf ddiwygiedig. Mewn achos o’r fath, dylai’r Bil egluro pa fersiwn o ddarpariaeth y Ddeddf sy’n cael ei ddiwygio.

(3)      Yn achos darpariaeth ddiwygio sy’n dibynnu ar ddiddymiad sydd heb ei gychwyn, gall fod yna gwestiwn a fyddai’r diddymiad, o’i gychwyn, yn gymwys i’r ddarpariaeth fel y mae wedi’i diwygio wedyn. Mae dadansoddiad sy’n debyg i’r dadansoddiad sy’n gymwys wrth ddiwygio darpariaethau sydd heb eu cychwyn yn gymwys yma: o’i ddeddfu, dim ond at ddarpariaethau a oedd yn bodoli y pryd hwnnw y gallai’r diddymiad gyfeirio. Yn yr un modd, gellid dadlau bod y ffaith bod Bil yn diwygio darpariaeth yn diwygio diddymiad y ddarpariaeth sydd heb ei gychwyn, drwy ymhlygiad, fel bod y diddymiad yn gymwys i’r ddarpariaeth fel y mae wedi’i diwygio.

(4)      Un ateb posibl yw i’r Bil wneud darpariaeth dros dro sy’n effeithiol hyd nes i’r diddymiad gychwyn yn unig.

(5)      Y peth doeth i drafftiwr sy’n gweithio ar ddarpariaeth sy’n dibynnu ar ddiddymiad sydd heb ei gychwyn yw gwirio’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r diddymiad ac â chychwyn y diddymiad yn y Ddeddf sy’n cynnwys y diddymiad sydd heb ei gychwyn.

(6)      Os yw darpariaeth wedi darfod, gall gael ei hanwybyddu yn hytrach na’i diwygio – a byddai hynny’n wir hyd yn oed pe bai’r ddarpariaeth yn dibynnu ar diddymiad sydd heb ei gychwyn. Ond gwnewch yn siŵr bod y ddarpariaeth wedi darfod – gallai’r ffaith bod y diddymiad heb ei gychwyn awgrymu bod penderfyniad wedi’i wneud i gadw’r ddarpariaeth mewn grym.

 


 

rhan 8

DARPARIAETHAU GWEITHREDOL

PENNOD 1

CYFNODAU AMSER

125            Rhagarweiniad

(1)      Mae’r Rhan hon yn ystyried agweddau ar fynegi cyfnodau amser. Mae’n rhagdybio y bydd y drafftiwr, wrth benderfynu sut i ddisgrifio cyfnod penodol, yn amcanu at wneud y canlynol:

(a)      sicrhau y gwyddys yn bendant pa bryd y mae’r cyfnod yn dechrau ac yn gorffen;

(b)      sicrhau bod gan y darllenydd y gobaith mwyaf posibl o wybod ar sail y geiriau a ddefnyddir pa bryd y mae’r cyfnod yn dechrau ac yn gorffen, yn hytrach na gorfod cyfeirio at y gyfraith achosion;

(c)      mynegi’r cyfnod mor syml ag y bo modd.

126            Dechrau cyfnod: ffracsiynau o ddiwrnodau

(1)      Yn aml bydd angen i Ddeddf ddisgrifio cyfnod drwy gyfeirio at ryw ddigwyddiad. Un enghraifft yw cyfnod o 14 o ddiwrnodau pryd y caniateir i apêl gael ei gwneud, a’r “digwyddiad” yw’r penderfyniad y byddai’r apêl yn cyfeirio ato.

(2)      Yn yr enghraifft hon, gellid tybio y dylai’r cyfnod i apelio redeg o’r penderfyniad. Ond byddai hynny’n peri problemau, a hynny am y bydd y penderfyniad wedi’i wneud ran o’r ffordd drwy’r diwrnod, ac oes yw’r cyfnod apelio am gael ei fynegi mewn diwrnodau (neu wythnosau, misoedd neu flynyddoedd) cyfan mae’n gorfod dechrau ar ddechrau diwrnod. Y cwestiwn yw, pa ddiwrnod? Nid yw’r cyfarwyddiadau bob amser yn glir yn hyn o beth.

(3)      O ran y polisi, mae’n ddigon posibl y bydd yn anghywir i’r cyfnod ddechrau rhedeg o ddechrau’r diwrnod ar ôl y penderfyniad, gan na fyddai hynny’n caniatáu apêl a gâi ei gwneud ar ddiwrnod y penderfyniad.

(4)      Os yw’r cyfnod yn dechrau ar  ddechrau diwrnod y penderfyniad, yn dechnegol bydd yn cynnwys y rhan o’r diwrnod a ddaeth cyn y penderfyniad (pryd y bydd apêl yn amhosibl wrth gwrs). Mae’n bosibl na fydd hyn yn peri problem yn ymarferol, ond os yw’r cyfnod apelio’n fyr (er enghraifft saith niwrnod), fe allai fod yn werth ystyried a ddylai nifer y dyddiau gael ei gynyddu o un, o ran polisi, er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod y cyfnod yn dechrau rhedeg ar ddiwrnod y penderfyniad ac nid drannoeth.

(5)      Nid cyfnodau apelio, wrth gwrs, yw’r unig gyfnodau sy’n codi’r math hwn o gwestiwn.

(6)      Efallai na fydd dechrau cyfnod ar ddechrau’r diwrnod y mae digwyddiad penodol yn digwydd yn creu’r canlyniad cywir bob tro: mae angen pwyso a mesur pob achos ar ei rinweddau ei hun. A bydd yn amlwg pa bryd y dylai rhai cyfnodau ddechrau (er enghraifft, blwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill), felly nid yw ffracsiynau o ddiwrnod bob amser yn peri anhawster.

127            “Gan ddechrau ar”, “oddi ar”, “ar ôl” “beginning with”, “from”, “after”

(1)      Un ffordd glir o fynegi cyfnod, er enghraifft, o 14 o ddiwrnodau fel ei fod yn dechrau ar ddechrau diwrnod penodol yw disgrifio’r cyfnod fel “14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar” / “14 days beginning with”  y diwrnod o dan sylw.

(2)      Dewisiadau eraill yw cyfeirio at gyfnod o 14 o ddiwrnodau “oddi ar” / “from” neu “ar ôl” / “after” digwyddiad penodol.

(3)      Bydd dehongliad priodol “14 o ddiwrnodau oddi ar [y digwyddiad]” / “14 days from [the event]”yn dibynnu ar y cyd-destun. Yn gyffredinol, cymerir bod y geiriad hwn yn hepgor y diwrnod y mae’r digwyddiad yn digwydd, sef rhywbeth y mae’n ddigon posibl na fydd defnyddwyr y Ddeddf yn ymwybodol ohono.

(4)      At ei gilydd, cymerir hefyd fod “ 14 o ddiwrnodau ar ôl [y digwyddiad]” / “14 days after [the event]” yn hepgor diwrnod y digwyddiad (Dodds v Walker [1981] 2 All ER 609) ond bydd hyn hefyd yn dibynnu ar y cyd-destun.

(5)      Awgrymir mai “14 days beginning with” / “14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar” ddiwrnod y digwyddiad (neu unrhyw ddiwrnod neu ddyddiad arall) yw’r ffordd leiaf amwys yn aml o sicrhau bod y cyfnod yn dechrau rhedeg o ddechrau’r diwrnod hwnnw. Mae’r fformwla “X months beginning with the day on which” / “ X mis gan ddechrau ar y diwrnod pan” gaiff Deddf ei phasio wedi ennill ei phlwyf ers tro byd fel y ffordd orau i eirio cyfnod o fisoedd o ohirio’r cychwyn.

(6)      Mae cyfeiriadau at gyfnod “ending with” / “sy’n gorffen ar” ddiwrnod penodol yr un mor ddiamwys.

(7)      Ni fyddai cyfeirio at gyfnod “beginning on” / “ gan ddechrau ar” neu “ending on” / “gan orffen ar” ddiwrnod penodol yn rhoi’r un sicrwydd, gan y byddai’n gadael yn agored y cwestiwn faint o’r gloch (ar y diwrnod o dan sylw) y mae’r cyfnod yn dechrau neu’n gorffen.

(8)      Mae cyfeiriad at “14 days from” / “14 o ddiwrnodau oddi ar” bwynt sy’n rhwym o ddigwydd am ganol nos (er enghraifft, diwedd blwyddyn) yn egluro pa bryd yn union y mae’r 14 o ddiwrnodau i fod i ddechrau a gorffen: mewn achos o’r fath mae“oddi ar” /“from” yr un mor ddiamwys â “gan ddechrau ar” / “beginning with”.

128            “Cyfnod o” “the period of”

Mae Deddfau yn aml wedi cyfeirio (er enghraifft) at gyfnod o 14 o ddiwrnodau fel “cyfnod o 14 o ddiwrnodau”/ “the period of 14 days”. Mewn llawer o achosion, nid yw’r geiriau “cyfnod o” / “the period of” yn ychwanegu dim byd ac fe allen nhw gael eu hepgor – gan gyfeirio’n syml at “14 o ddiwrnodau” / “14 days”. Os oes angen cyfeirio’n ôl, mae’n bosibl y bydd modd cyfeirio at “ y 14 o ddiwrnodau hynny” / “those 14 days” yn lle “y cyfnod hwnnw” / “that period”.

129            “O fewn” “within”, “cyn pen” “before the end of”

(1)      Mae statudau  yn aml yn gofyn bod rhywbeth yn cael ei wneud “o fewn” / “within” cyfnod penodol neu “cyn pen” / “before the end of” cyfnod penodol.

(2)      Mae’n ymddangos y byddai gofyniad bod rhaid cymryd camau “cyn pen 3 wythnos gan ddechrau ar [ddyddiad penodol]” / “before the end of 3 weeks beginning with [a particular date]” yn caniatáu i’r camau gael eu cymryd unrhyw bryd hyd at ddiwedd y tair wythnos hynny, gan gynnwys unrhyw adeg cyn i’r tair wythnos ddechrau. Byddai gofyniad bod rhaid cymryd y camau “o fewn” / “within” y tair wythnos yn cyfyngu ar yr amser pan allai’r camau gael eu cymryd i’r tair wythnos hynny yn unig.

(3)      Mewn rhai achosion, bydd effaith y naill eiriad a’r llall yr un fath. Un enghraifft fyddai lle mae angen rhoi copi o ddogfen o fewn/cyn pen tair wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y daw’r ddogfen i fod. Ond mewn achosion eraill, fe allai’r ddau eiriad gwahanol arwain at ganlyniadau sylweddol wahanol.

(4)      Mae’n ymddangos bod gofyniad i wneud rhywbeth “erbyn diwedd” / “by the end of” cyfnod yn gyfystyr â gofyniad  i’w wneud “cyn pen”/ “before the end of” y cyfnod.

130            Unedau o amser

(1)      Mae’n gyffredin mynegi cyfnodau o amser mewn dyddiau, wythnosau, misoedd neu flynyddoedd. Bydd pa uned o amser i’w defnyddio yn dibynnu weithiau ar y polisi ac weithiau ar benderfyniad y drafftiwr.

(2)      Yn amlwg, hiraf yn y byd y bydd  y cyfnod, lleiaf buddiol yn y byd y bydd defnyddio unedau byr o amser. Er enghraifft, awgrymir y bydd pob darllenydd yn gwybod bod 30 o ddiwrnodau yn gyfnod o ryw fis, ond byddai cyfnod wedi’i fynegi fel (er enghraifft) 150 o ddiwrnodau yn llawer llai hawdd ei ddeall.

(3)      Mae misoedd yn broblem benodol am eu bod yn amrywio o ran eu hyd. (Mae Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 yn diffinio mis fel mis calendr, ond mae’n ymddangos mai’r cyfan y mae hynny’n ei gyflawni yw ei atal rhag cael ei ddehongli fel mis lleuadol.) Pan fydd cyfnod o fis yn dechrau heblaw ar ddechrau’r mis, pa bryd y mae’n dod i ben?

(4)      Yn ôl y rheol yn Dodds v Walker ([1981] 2 All ER 609), pan fu’n rhaid i gais gael ei wneud “not more than 4 months after” rhoi hysbysiad ar 30 Medi 1978, y dyddiad olaf ar gyfer gwneud y cais oedd 30 Ionawr 1979. Daethpwyd at 30 Ionawr 1979 drwy drin y cyfnod o mis fel a ganlyn:

•          fel pe bai’n dechrau am ganol nos ar 30 Medi a 1 Hydref 1978 (hynny yw, heb gynnwys gweddill y diwrnod pan roddwyd yr hysbysiad), a

•          fel pe bai’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ym mis Ionawr 1979 yn cyfateb i’r diwrnod ym mis Medi 1978 y dechreuodd y cyfnod ar ei ddiwedd – sef diwrnod 30. (Pe bai’r cyfnod wedi’i fynegi fel 4 months beginning with”  “4 mis gan ddechrau ar“ y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, 29 Ionawr fuasai’r dyddiad olaf ar gyfer gwneud y cais.)

(5)      Mae’r rheol yn Dodds v Walker yn cael ei hadnabod fel “rheol y dyddiad cyfatebol”. O dan hon, mae hyd y cyfnod o “1 mis” yn amrywio yn ôl pa bryd y mae’r cyfnod yn dechrau. Er enghraifft, bydd cyfnod o “1 mis” yn dechrau am ganol nos ar 4/5 Ebrill, a fydd yn dod i ben am ganol nos ar 4/5 Mai, yn fyrrach na chyfnod o “1 mis” yn dechrau am ganol nos ar 4/5 Mai (am fod Ebrill yn fyrrach na Mai).

(6)      Mae’n amlwg na all rheol y dyddiad cyfatebol fod yn gymwys yn ddigyfnewid ym mhob achos, gan nad oes gan holl fisoedd y flwyddyn yr un nifer o ddiwrnodau. Pan fydd (er enghraifft) cyfnod o un mis yn dechrau ar ddiwedd 30 Ionawr, cadarnhaodd Dodds v Walker ei fod yn gorffen ar ddiwedd 28 Chwefror, neu mewn blwyddyn naid 29 Chwefror.

(7)      Gan y gall rheol y dyddiad cyfatebol fod yn fagl i’r defnyddiwr, mewn rhai achosion gall fod yn werth ystyried a fyddai’n well mynegi cyfnod o 3 mis (er enghraifft) fel 12 wythnos neu 90 o ddiwrnodau. Ni fydd y cyfnodau a fynegir fel hyn yr un fath yn union, ond bydd a ydy hynny’n bwysig yn dibynnu ar y cyd-destun.

131            Dyddiau heblaw dyddiau gwaith

(1)      Mae rhai Deddfau’n hepgor dyddiau penodol (er enghraifft, dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc) o gyfnodau penodedig. Fydd Deddfau eraill ddim yn gwahaniaethu rhwng gwyliau a dyddiau gwaith. Os yw cyfnod penodedig yn fyr iawn, gall fod yn werth cofio na fydd dyddiau’r penwythnos a gwyliau banc yn cael eu trin fel petaent yn wahanol i ddyddiau eraill oni bai bod darpariaeth bendant i’r perwyl hwnnw’n cael ei gynnwys.

(2)      Os oes dyddiau heblaw dyddiau gwaith i’w hepgor o gyfnod, mae angen ystyried pa ddyddiau yn union i’w hepgor.

(3)      Mae Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yn rhestru rhai o’r gwyliau banc, ond nid y cyfan. Gall gwyliau banc gael eu creu drwy ddatganiad brenhinol – mae gŵyl banc dechrau Mai yn un enghraifft.


PENNOD 2

 

PWERAU I WNEUD IS-DDEDDFWRIAETH

132            Atynnu adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946

(1)      Mae adran 1(1A) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 yn dweud—

“Where by any Act power to make, confirm or approve orders, rules, regulations or other subordinate legislation is conferred on the Welsh Ministers and the power is expressed to be exercisable by statutory instrument, any document by which that power is exercised shall be known as a “statutory instrument” and the provisions of this Act shall apply to it accordingly.”

(2)      Mae’r cyfeiriad yn adran 1(1A) at Weinidogion Cymru yn cynnwys Prif Weinidog Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn rhinwedd adran 11A (8) o Ddeddf 1946.

(3)      Er mwyn atynnu adran 1 o Ddeddf 1946 mae’n ddigon dweud–

Mae gorchmynion/rheoliadau [a wneir gan Weinidogion Cymru] o dan yr adran hon i’w gwneud drwy offeryn statudol.

Orders/regulations [made by the Welsh Ministers] under this section are to be made by statutory instrument.

 

(4)      Weithiau gall fod yn fwy cymen crynhoi’r ffaith bod adran 1 yn gymwys ynghyd â’r pŵer ei hun.

 

ENGHRAIFFT

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol ddarparu...

The Welsh Ministers may by order made by statutory instrument provide...

 

(5)      Gall hyn fod yn fwy cymen pan geir pŵer syml a bod modd ymdrin â phopeth mewn un is-adran. Mae’r dechneg hon yn cael ei defnyddio’n aml, er enghraifft, ar gyfer pwerau cychwyn (“on such day as the Welsh Ministers may by order made by statutory instrument appoint”).

(6)      Os oes nifer o bwerau i’w harfer drwy offeryn statudol, mae’n bosibl mai’r peth gorau yw cael un ddarpariaeth ar y diwedd, yn hytrach na dweud yr un peth sawl tro mewn mannau gwahanol. Darpariaeth dechnegol yw hon ac nid yw’n debyg o fod o ddiddordeb i’r mwyafrif o ddarllenwyr.

 

133            Gweithdrefn penderfyniad negyddol

(1)      I fod yn gyson ag adran 5 o Ddeddf 1946, dylid mynegi bod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y gorchymyn neu’r rheoliadau – yn hytrach na’r gorchymyn ei hun neu’r rheoliadau eu hunain – yn agored i gael ei ddiddymu.

 

ENGHRAIFFT

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn agored i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

A statutory instrument containing an order or regulations under this Act is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

 

134            Gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol

(1)      I fod yn gyson â’r dull sy’n cael ei argymell ar gyfer offerynnau negyddol (uchod) – ac â geiriad adran 6 o Ddeddf 1946 – dylai’r gymeradwyaeth angenrheidiol gyfeirio at ddrafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y gorchymyn neu’r rheoliadau, yn hytrach nag at ddrafft o’r gorchymyn ei hun neu o’r rheoliadau eu hunain.

 

ENGHRAIFFT

 

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

A statutory instrument containing an order or regulations under this Act may not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by a resolution of the National Assembly for Wales.

 

135            Offerynnau cyfun

(1)      Os oes bwriad pendant i awdurdodi gwneud offerynnau sy’n cynnwys darpariaethau sy’n dod o dan y weithdrefn negyddol a chadarnhaol, gall fod yn fuddiol defnyddio’r fformwla a awgrymir uchod ar gyfer y weithdrefn gadarnhaol ac  ychwanegu “(whether alone or with other provision)”.

 

ENGHRAIFFT

 

Ni chaniateir i offeryn statudol yn cynnwys darpariaeth o dan adran X (p’un ai ar ei phen ei hun ynteu ynghyd â darpariaeth arall) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

A statutory instrument containing provision under section X (whether alone or with other provision) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by a resolution of the National Assembly for Wales.

 

136             Lleoli’r ddarpariaeth ynglŷn â’r weithdrefn

(1)      Mewn rhai Deddfau, mae pob darpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth yn cymhwyso unrhyw weithdrefn Seneddol neu unrhyw weithdrefn Cynulliad angenrheidiol.

(2)      Ond, pan fo Deddf yn rhoi nifer o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, ymdrinnir â’r materion hyn yn amlach mewn darpariaethau cyffredinol sy’n cael eu gosod yng nghefn  y Ddeddf.

(3)      Ceir ymagwedd “hybrid” yn rhai o Ddeddfau’r Deyrnas Unedig. Mae’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer yn dweud ei fod yn dod o dan y “negative resolution procedure” neu’r “affirmative resolution procedure”. Yna, ar ddiwedd y Ddeddf, ceir diffiniad o’r “negative resolution procedure” neu’r “affirmative resolution procedure” (neu’r ddwy).

 

ENGHRAIFFT (o Ddeddf Cwmnïau 2006)

 

Regulations under this section are subject to affirmative resolution procedure. (Section 54(3))

Regulations under this section are subject to negative resolution procedure. (Section 66(5))

Where regulations or orders under this Act are subject to “negative resolution procedure” the statutory instrument containing the regulations is subject to annulment in pursuance of a resolution of either House of Parliament. (Section 1289)

Where regulations or orders under this Act are subject to “affirmative resolution procedure” the regulations or order must not be made unless a draft of the statutory instrument containing them has been laid before and approved by a resolution of each House of Parliament. (Section 1290)

 

(4)      Yn ystod gwaith craffu’r Cynulliad ar Fil, gallai’r weithdrefn briodol gael ei thrafod ynghyd â chynnwys y pŵer a chan hynny fe allai fod yn gyfleus lleoli’r ddau gyda’i gilydd. Ond gall nifer o gyfeiriadau at weithdrefnau’r Cynulliad fod yn anodd i ddarllenwyr y Ddeddf derfynol. Materion technegol yw materion ynglŷn â gweithdrefnau, a phan fydd y Bil wedi’i ddeddfu dim ond i’r rhai sy’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth ac i’r rhai yn y Cynulliad sy’n gweinyddu’r gweithdrefnau y maen nhw’n debyg o fod o ddiddordeb.

(5)      Ar y sail honno, efallai mai’r peth gorau ar y cyfan yw ymdrin â gweithdrefn y Cynulliad yng nghefn y Bil. Wrth gwrs, fe all y bydd achosion pan fo’n briodol ymwrthod â’r argymhelliad hwn (er enghraifft os nad yw'r Bil yn cynnwys ond nifer fach o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth).

 


 

rhan 9

y darpariaethau terfynol mewn bil

137            Trefn weithredol

(1)      Dylai’r drefn weithredol a ganlyn gael ei defnyddio yn fan cychwyn wrth benderfynu ar y drefn gywir ar gyfer darpariaethau terfynol Bil

 

Darpariaethau cyffredinol ynghylch troseddau (cyrff corfforaethol, cymdeithasau anghorfforedig)

Gorchmynion a rheoliadau (gan gynnwys gweithdrefn y Cynulliad)

Cyfarwyddiadau

Hysbysiadau/cyflwyno dogfennau

Dehongli

Mynegai

Diwygio, darpariaethau trosiannol ac arbedion, diddymu

Cymhwyso at y goron

Cychwyn

Enw byr

 

(2)      Wrth gwrs, gall fod angen gwyro oddi wrth hyn o dan rai amgylchiadau.

(3)      Y rhagdybiaethau sydd wrth wraidd y drefn weithredol a argymhellir yw

(a)      y dylai materion o sylwedd, megis troseddau gan gyrff corfforaethol, ddod cyn materion y weithdrefn;

(b)      bod cysylltiad rhwng darpariaethau sy’n ymwneud ag is-ddeddfwriaeth  a’r rhai sy’n ymwneud â dogfennau eraill;

(c)      bod cysylltiad yn yr un modd rhwng darpariaethau sy’n ymwneud â chymhwyso darpariaethau’r Bil a’r rhai sy’n ymwneud â’r rhychwant;

(d)      bod natur weithdrefnol sylfaenol darpariaethau sy’n ymdrin â materion ariannol yn golygu eu bod yn gallu ymddangos yn gymharol isel yn y drefn weithredol;

(e)      y dylid ymdrin â chychwyn mor hwyr ag y bo modd yn y Bil, gan ymdrin ag ef felly yn union cyn adran yr enw byr fel rheol;

(f)       bod yna ddisgwyl y gwelir yr enw byr yn yr adran olaf.

(4)      Os bwriedir cael un adran yn cyflwyno Atodlenni a honno’n cynnwys diwygiadau mân a chanlyniadol, darpariaethau trosiannol ac arbedion, a diddymiadau, dylai’r adran ymdrin â’r pynciau hyn yn y drefn honno.

(5)      Er bod y drefn weithredol uchod yn ymdrin â rhychwant, cychwyn ac enw byr ar wahân, gall Bil fod mor fyr nes y byddai’n well ymdrin â phob un o’r tri phwnc yn yr un adran.

138            Croes-bennawd

Os defnyddir un croes-bennawd i gynnwys yr holl ddarpariaethau cyffredinol eu natur, dylid defnyddio “Cyffredinol” (yn hytrach nag “Atodol” er enghraifft).

139            Rhychwant a chymhwyso

(1)      Mae’r darpariaethau ynglŷn â’r rhychwant mewn Deddfau Seneddol yn dweud wrth y darllenydd i ba awdurdodaeth yn y Deyrnas Unedig y mae darpariaeth benodol yn gymwys.

(2)      Mae Cymru’n rhan o awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr. Dim ond i awdurdodaeth Cymru a Lloegr y caiff darpariaethau Deddf Cynulliad ymestyn (er mai o ran Cymru yn unig y bydd y darpariaethau’n gymwys fel arfer). O ganlyniad i hyn, does dim angen cynnwys darpariaeth ynglŷn â’r rhychwant mewn Deddf Cynulliad i ddweud wrth y darllenydd ei bod yn ffurfio rhan o’r gyfraith sy’n gymwysadwy yn system llysoedd Cymru a Lloegr.

(3)      Er hynny, fe ddylai cymhwysiad tiriogaethol y darpariaethau gael ei gwneud yn glir yn y Ddeddf.

Cychwyn

140            Cychwyn adeg y Cydsyniad Brenhinol

(1)      Dylai’r darpariaethau sydd i ddod i rym adeg y Cydsyniad Brenhinol gael eu henwi’n bendant.

(2)      Fel rheol, dylai’r ffurfeiriau a ddefnyddir i ddod â darpariaethau o’r fath i rym gael eu cynllunio i atynnu adran 4(a) o Ddeddf Dehongli 1978.

ENGHRAIFFT

Daw adrannau X ac Y i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon ei Chydsyniad Brenhinol.

Sections X and Y come into force on the day on which this Act receives Royal Assent.

(3)      Yn eithriadol iawn gall y polisi a ddymunir olygu pennu adeg benodol yn y dydd pan fo’r cychwyn ei hun i fod i ddigwydd.

141            Cychwyn ar ddiwedd cyfnod penodedig

Dyma’r geiriad safonol a argymhellir

Daw[‘r Ddeddf hon] i rym ar ddiwedd y cyfnod o [2 fis] sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff ei Chydsyniad Brenhinol.

[This Act] comes into force at the end of the period of [2 months] beginning with the day on which it receives Royal Assent.

142            Cychwyn drwy orchymyn

(1)      Yn gyffredinol mae’n gliriach dweud bod darpariaeth i ddod i rym ar diwrnod a bennir drwy orchymyn gan berson penodol na dweud ei bod yn dod i rym “yn unol â (“in accordance with”) darpariaeth sy’n cael ei gwneud drwy orchymyn. Yn yr achos olaf hwyrach na fydd yn glir a oes pŵer arall er enghraifft, pŵer i wneud darpariaeth drosiannol — yn cael ei roi hefyd. (Os oes angen pŵer pellach, dylai gael ei roi mewn modd pendant — gweler isod).

(2)      Dylai darpariaeth ynghylch “diwrnod penodedig” (“appointed day”) fod ar ffurf datganiad pendant i’r perwyl bod darpariaethau “i ddod i rym ar ddiwrnod y caiff X ei benodi drwy orchymyn” / “are to come into force on a day appointed by X in an order” (yn hytrach na dweud nad ydynt yn dod i rym tan ddiwrnod a bennir gan X drwy orchymyn).

143            Cychwyn drwy orchymyn: darpariaethau atodol

(1)      Pan fydd yna bŵer i gychwyn, dylid ystyried ymdrin â phopeth sy’n ymwneud â chychwyn mewn set o ddarpariaethau ar wahân, yn hytrach nag mewn adran gyffredinol ynglŷn â’r pwerau eraill i wneud gorchmynion o dan y Bil. Efallai na fydd yn glir sut y bydd pwerau sy’n cael eu rhoi yn gyffredinol mewn perthynas â gorchmynion o dan y Bil yn gweithio mewn perthynas ag achos penodol cychwyn.

(2)      Felly, er enghraifft, byddai’r ddarpariaeth ar wahân yn darparu’n unswydd ar gyfer y canlynol

(a)      penodi dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)      gwneud darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol neu ddarpariaethau arbed mewn perthynas â chychwyn;

(c)      gwneud darpariaethau atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol mewn perthynas â chychwyn.

(3)      Wedyn byddai angen hepgor y pŵer i gychwyn o unrhyw ddarpariaeth atodol gyffredinol i’r perwyl hwn sy’n ymwneud â phwerau i wneud gorchmynion o dan y Bil.

(4)      Sylwch fod y ddau bwynt bwled olaf o baragraff (2) yn cyfeirio at “cychwyn” (“commencement”). Gall fod angen gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â chychwyn darpariaethau ar ddyddiad a bennir gan y Bil (e.e. dau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol) yn ogystal ag mewn cysylltiad â chychwyn darpariaeth drwy orchymyn. Mewn achos o’r fath, mae’n ymddangos bod achos cryf o blaid cael un pŵer pendant i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â chychwyn, boed drwy orchymyn ynteu ar ddyddiad penodedig.

(5)      Sylwch hefyd—

(a)      darpariaeth sy’n rheoli’r trosiant rhwng y naill gyfundrefn a’r llall yw “darpariaeth drosiannol” (“transitional provision”).

ENGHRAIFFT

Darpariaeth sy’n egluro sut mae’r Bil yn gweithio mewn perthynas â digwyddiadau neu faterion sy’n rhychwantu diwedd yr hen gyfundrefn a dechrau’r gyfundrefn newydd.

(b)      darpariaeth sydd ag oes gyfyngedig, megis darpariaeth a fydd yn darfod ar ddiwrnod penodedig, yw “darpariaeth ddarfodol” (“transitory  provision”).

ENGHRAIFFT

Darpariaeth bod cyfeiriadau yn Neddf Cŵn 1990 at gŵn yn cynnwys cathod hyd nes y daw Deddf Cathod 2010 i rym.

Yn ôl yr amgylchiadau, gall darpariaeth ddarfodol fod yn ddarpariaeth drosiannol hefyd, ond does dim angen iddi fod.

(c)      darpariaeth sy’n arbed gweithrediad darn presennol o ddeddfwriaeth neu reol gyfreithiol yw “darpariaeth arbed” (““saving provision”). Gall wneud hyn am gyfnod dros dro neu am byth, ac at ddibenion trosiannol neu at ddibenion eraill. Felly gall fod yn ddarpariaeth drosiannol neu’n ddarpariaeth ddarfodol ond does dim angen iddi fod.

(d)      does dim gwahaniaeth amlwg o ran ystyr y ffurfiau Saesneg “supplementary” (“atodol”) a “supplemental” (“atodol”). Yr argymhelliad yw dewis “supplementary” (sef y ffurf fwyaf arferol o bosibl).

144            Enw byr

O ran cysondeb, y ffurf a ganlyn sydd i gael ei defnyddio—

 “Enw byr y Ddeddf hon yw…”

“The short title of this Act is…”

 


 

ATODIAD

rhagor o ddeunydd darllen

Rhestrir yma y gweithiau y cyfeirir atynt yn y Canllawiau hyn ynghyd â detholiad bach o ddeunyddiau buddiol eraill.

Deunyddiau sydd wedi’u cyhoeddi

Asprey M., Plain Language for Lawyers (Federation Press, Sydney, 4ydd arg., 2010)

Butt P. a Castle R., Modern Legal Drafting - A Guide to Using Clearer Language (Cambridge University Press, Ail arg., 2006)

Comisiwn Cyfle Cyfartal, Hysbysebu Swyddi yn Gymraeg (Comisiwn Cyfle Cyfartal, 2001)

Dickerson F. Reed, Fundamentals of Legal Drafting (Aspen Publishers, 1965)

Greenberg D., Craies on Legislation (Sweet and Maxwell, Llundain, 9fed arg., 2008)

McLeod I., Principles of Legislative and Regulatory Drafting (Hart, Rhydychen a

Portland Oregon, 2009)

Prys, D., “Gender and Sex in Welsh Nouns”, Planet 121.

Thornton G.C., Legislative Drafting (Butterworths, Llundain, 4ydd arg. diwygiedig 2006)

Salembier P., Legal and Legislative Drafting (Lexis Nexis Canada 2009)

 

Deunyddiau o swyddfeydd drafftio eraill etc

Awstralia

Swyddfa Cwnsler y Senedd, Llywodraeth Awstralia, Llawlyfr Saesneg Clir,

ar gael yn www.opc.gov.au/plain/docs.htm

Comisiwn Diwygio Cyfreithiol Victoria, Plain English and the Law, 1987, Appendix 1

“Guidelines for Drafting in Plain English: A Manual for Legislative Drafters

Canada

Yr Adran Gyfiawnder, Legistics, ar gael yn 

www.justice.gc.ca/eng/dept-min/pub/legis/index.html

            Yr Undeb Ewropeaidd

Gweler y canllawiau a baratowyd gan Adolygwyr Cyfreithiol Gwasanaeth Cyfreithiol y Comisiwn:

            http://ec.europa.eu/dgs/legal_service/legal_reviser_en.htm

Seland Newydd

Swyddfa Cwnsler Senedd Seland Newydd

http://www.pco.parliament.govt.nz/clear-drafting   

Y Deyrnas Unedig

Tax Law Rewrite: The Way Forward: Annex 1 - Guidelines for the Rewrite

www.hmrc.gov.uk/rewrite/wayforward/menu.htm

Plain Language and Legislation (Swyddfa Cwnsler Senedd yr Alban)

www.scotland.gov.uk/Publications/2006/02/17093804/0

Canllawiau Drafftio Swyddfa Cwnsler y Senedd (Llywodraeth y Deyrnas Unedig)

http://www.cabinetoffice.gov.uk/resource-library/drafting-guidance-office-parliamentary-counsel 

 

Cymdeithas Cwnsleriaid Deddfwriaethol y Gymanwlad

Gweler Cyfnodolyn y Gymdeithas, the Loophole, a phapurau trafod ar wahân ar wefan y Gymdeithas:

http://www.opc.gov.au/calc/index.htm

 

 

 



[1] Adran 156(1), Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

[2] Mae G.E.Thornton yn amlygu’r cyfaddawd rhwng symlrwydd a manwl-gywirdeb yn Legislative Drafting (4ydd argraffiad) t. 52.

 

[3] Dyna argymhelliad Butt a Castle yn Modern Legal Drafting (Ail Arg.) t181.

[4] Mae’r set hon o argymhellion wedi’i chodi o bapur a draddodwyd gerbron Cynhadledd Cymdeithas Cwnsleriaid Deddfwriaeth y Gymanwlad yn 2007 gan y Dr Duncan Berry. I gael enghreifftiau ymarferol o sut i drin y cwestiynau hyn, gweler y papur Reducing the Complexity of Legislative Sentences yn rhifyn Ionawr 2009 o the Loophole a gyhoeddir gan Gymdeithas Cwnsleriaid Deddfwriaeth y Gymanwlad http://www.opc.gov.au/calc/loophole.htm

[5] E.e. Peter Butt a Richard Castle, Modern Legal Drafting Ail Arg.

[6] http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance.htm 

[7] http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-assembly-guidance.htm 

[8]  Geiriadur yr Academi (1995), p xii.

[9] Er enghraifft, benywaidd yw ‘mam’ a gwrywaidd yw ‘tad’

[10] Er enghraifft, ar gyfer y gair Saesneg “teacher”, ceir dau air Cymraeg – ‘athro’ ac ‘athrawes’.  Os defnyddir ‘athro’ ac ‘athrawes’, bydd angen defnyddio’r rhagenwau gwrywaidd a benywaidd ill dau.  Mae’r rhagenw meddiannol gwrywaidd ‘ei’ yn peri treiglad meddal ac mae’r rhagenw meddiannol benywaidd ‘ei’ yn peri treiglad llaes, felly bydd newidiadau canlyniadol yn digwydd drwy’r testun i gyd.

 

[11] Er enghraifft, yn y gystrawen oddefol a roddir yn yr enghraifft hon, nid yw’n glir mai methiant yr Ysgrifennydd Gwladol i osod y gorchymyn y mae’n rhai ei esbonio.

[12] Gweler Comisiwn Cyfle Cyfartal, Hysbysebu swyddi yn Gymraeg, t. 2.

 

[13] D. Prys, “Gender and Sex in Welsh Nouns”, Planet 121, p. 90.

[14] Mae’r ffurf fenywaidd ‘meddyges’ i’w chael, ond mae’n tueddu i gyfeirio at fenyw sy’n iachäwr neu’n berlysieuydd yn hytrach nag yn feddyg.

[15]  Er y gall cwestiynau anodd godi pan fo darpariaethau ynghylch priodas wedi’u cymhwyso at bartneriaethau sifil.

[16] Ar baragraffau yn gyffredinol, gweler G. C. Thornton Legislative Drafting (pennod 7.1), tt. 61-65, 95- 97 a D. Greenberg, Craies on Legislation (pennod 7.1) paragraffau 8.2.11 a 13. Mae rhywfaint o’r deunydd yn y bennod hon yn adlewyrchu deunyddiau sydd i’w cael mewn rhai o’r adrannau hynny.

[17] F. Reed Dickerson Fundamentals of Legal Drafting (gweler pennod 7.1) t.77.3.5 Paragraphs .39.

 

[18] Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, adran 638(2).

[19] Thornton, Legislative Drafting,4ydd argraffiad ar dudalen 192.

[20] Er enghraifft, Deddf Bancio 2009, Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd a’r bil arfaethedig Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) sydd allan at ddibenion ymgynghori ar hyn o bryd.

[21] Er enghraifft, mae adran 1(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 yn dweud wrth y darllenwyr fod Rhannau 15 i 18 i gyd yn cynnwys rheolau arbennig ar gyfer achosion penodol, sef pwynt nad yw’n amlwg o bosibl ar sail y rhestr o Rannau yn y trefniant.

[22] Er enghraifft, adran 35 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010. Mae is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys disgrifiadau o’r Penodau; ac mae is-adrannau (3) a (4) yn tynnu sylw at ddarpariaeth berthnasol arall.

[23] Er enghraifft, adran 976 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009.

[24] Er enghraifft, yn Neddf Cyllid 2004, mae gan Ran 4 drosolwg ond does dim trosolwg o’r un Rhan arall.

[25] Gweler paragraff 3 o Atodlen 19 i Ddeddf Cyllid 2011, lle mae’r Atodlen yn cynnwys mwy na 50 o dudalennau.

[26] Er enghraifft, adran 33 o Ddeddf Treth Incwm 2007; adran 98 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

[27] Er enghraifft, adran 615 o Ddeddf Treth Incwm 2007.

[28] Er enghraifft, adran 1(2) i (5) o Ddeddf Bancio 2009.

 

[29] Mae’r un ateb wedi’i fabwysiadu pan fo’r un mater wedi codi mewn awdurdodaethau dwyieithog eraill, megis Hong Kong.